Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd R C Stewart yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. |
|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd C E Lloyd yn is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. (Y CYNGHORYDD C E LLOYD, IS-GADEIRYDD A FU'N
LLYWYDDU) |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd C E Lloyd – Cofnod Rhif 7 –
Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau – Mae fy ward i, St. Thomas, yn elwa
o'r argymhelliad – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y Panel
Ariannu Allanol gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017 yn gofnod cywir. |
|
Cais am Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru 2017/18. PDF 69 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Beiriannydd
adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar Gais Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth
Cymru 2017/18. Nod y cais am
gyllid oedd cefnogi mentrau allweddol i gynnal a chadw a gwella diogelwch ar y
ffyrdd yn ardal y sir i helpu i gyrraedd targedau a nodwyd yn Fframwaith
Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru 2013. Yn arbennig, ei nod oedd cyrraedd y
targedau canlynol: ·
40%
llai o bobl yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; ·
25%
llai o yrwyr beiciau modur yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd
Cymru; ·
40%
llai o bobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol
ar ffyrdd Cymru. Roedd cyflwyno'r cais am gyllid yn seiliedig ar gais i Lywodraeth Cymru yn
ystod chwarter cyntaf y flwyddyn newydd am gyllid a fyddai'n cael ei dderbyn yn
ystod y flwyddyn ariannol ganlynol a'r tu hwnt.
Roedd y cais datblygu hefyd yn cefnogi blaenoriaethau'r cyngor i
ddiogelu pobl ddiamddiffyn (atal damweiniau i blant a phobl ifanc) a threchu
tlodi drwy adeiladu cymunedau cynaliadwy (annog cerdded a beicio). PENDERFYNWYD caniatáu i swyddogion dderbyn cyllid gan
Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi'r mentrau diogelwch ffyrdd canlynol: - 1)
Adnewyddu
Camerâu Diogelwch Ffyrdd; 2)
Arwyddion
SID Gellifedw i Glais; 3)
Menter
i gerddwyr rhwng Cylchfan Cwm Level
i Gylchfan Heol Normandy. |
|
Cais am Grant Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2017/18. PDF 62 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch
Beiriannydd adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am gais am gyllid Llwybrau Mwy
Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2017/18. Esboniwyd bod y fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn gwella darpariaeth
llwybrau i gerddwyr ac i feicwyr mewn cymunedau, yn enwedig y tu allan i
ysgolion ac o'u hamgylch. Nod hyn oedd annog ffordd fwy cynaliadwy o fyw mewn
cymunedau a mynd i'r afael â materion eithrio cymdeithasol. Roedd cyflwyno'r cais am gyllid yn seiliedig
ar gais i Lywodraeth Cymru yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn newydd am gyllid
a fyddai'n cael ei dderbyn yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol a'r tu hwnt. Roedd y fenter yn gysylltiedig â pholisïau cenedlaethol megis Deddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013, Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru 2013, Teithio
gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol 2014. Y nod
cyffredinol oedd creu llwybrau cerdded a beicio mwy diogel i gymunedau a
hyrwyddo'r rhain fel ffordd fwy cynaliadwy o deithio o amgylch cymunedau.
Byddai hefyd yn helpu i leihau tagfeydd y tu allan i ysgolion petai dulliau mwy
cynaliadwy o gludiant yn cael eu defnyddio. Roedd y fenter
hefyd yn cefnogi blaenoriaethau'r cyngor i ddiogelu pobl ddiamddiffyn (atal
damweiniau i blant a phobl ifanc), gwella cyrhaeddiad disgyblion (gan gynnwys
disgyblion yn y broses) a threchu tlodi ac adeiladau cymunedau cynaliadwy
(annog cerdded a beicio). PENDERFYNWYD: - 1)
caniatáu
i swyddogion dderbyn cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (SRIC); 2)
Datblygu
a gweithredu prosiectau sy'n creu llwybrau cerdded mwy diogel, yn enwedig o
amgylch ysgolion yn St Thomas.
|
|
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. PDF 223 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cydlynydd Perthnasoedd y Sector Gwirfoddol adroddiad a oedd yn gofyn i'r panel
benderfynu ceisiadau ar gyfer chweched rownd y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn
y Gymuned (CAFT). Esboniwyd bod y
canlynol wedi cyflwyno cais am gefnogaeth gan y gronfa. Y cyfanswm a argymhellwyd o ran cefnogaeth
oedd £59,300: - 1.
Cymdeithas
Fowls Dinas a Sir Abertawe – cyllid ar gyfer tri safle yn Abertawe; 2.
Clwb
Pêl-droed Amatur Brynawel – safle yng nghaeau chwarae Parc Halfway,
y Trallwn; 3.
Clwb
Pêl-droed Amatur Talycopa – safle yng nghaeau
chwarae'r Trallwn; 4.
Clwb
Bowls yr Hafod – Lawnt Fowls ym Mharc yr Hafod. Dywedwyd mai'r
chweched rownd fydd rownd derfynol y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned
ac nad oes darpariaeth ar ei chyfer yng nghyllideb 2017/18. PENDERFYNWYD: - 1)
peidio
â chefnogi'r ceisiadau a gyflwynwyd i'r gronfa, gan fod y gyllideb ar gyfer y
gronfa wedi'i dihysbyddu ac ni chlustnodwyd cyllid ar gyfer cyllideb 2017/18; 2)
rhoi
terfyn ar y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned; 3)
y
dylai swyddogion barhau i gefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol gyda
cheisiadau Trosglwyddo Asedau. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r panel
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y panel
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel a
nodwyd yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad ar geisiadau
Ewropeaidd presennol ac arfaethedig a cheisiadau allanol eraill gan y Rheolwr
Ariannu Allanol. PENDERFYNWYD: - 1)
y
dylid nodi'r diweddaraf am brosiectau yn adrannau 2 i 9 2)
cefnogi
cyflwyniad TRhG i WEFO er
mwyn cynnig datblygu a chyflwyno cynllun lleihau tagfeydd trefol Dyfaty a Phontydd Tawe; 3)
cefnogi
cyflwyno TRhG a chynllun busnes i WEFO
er mwyn cyflwyno prosiect cyflogadwyedd CGE i'r
di-waith diamddiffyn tymor byr yn Abertawe; 4)
cefnogi
cais i Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru ar
gyfer adnewyddu Llyfrgell Townhill a chytuno ar y cais dilynol. |