Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R Francis-Davies yn Gadeirydd Dros Dro.

 

BU'R CYNGHORYDD R FRANCIS-DAVIES (CADEIRYDD DROS DRO) YN LLYWYDDU.

 

21.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiant canlynol:

 

Y Cynghorydd J A Raynor – Personol – Rhif Cofnod 25 – Dyfodol y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (CATF). Mae Cyfeillion Parc Dynfant yn gweithredu yn fy ward ac rwy'n aelod cysylltiol.

22.

Canolfan Feddygol a Chymorth i Deuluoedd newydd ym Mayhill. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Ffisegol adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau cyfalaf a refeniw Canolfan Feddygol a Chymorth i Deuluoedd newydd ym Mayhill ac yn ceisio awdurdod i fwrw ymlaen â'r datblygiad dynodedig mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd Lleol.

                

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     CYMERADWYO'R prosiect;

2.     Ystyried darparu arian ar gyfer cost ychwanegol gwerth £167k ym mhroses y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2016/2017; a

3.     NODI bod yr wybodaeth ddiweddaraf wedi'i rhoi am y broses o gyd-drafod gwerthu tir a chostau adeiladu.

 

23.

Cynllun Lliniaru Llifogydd Blackpill. pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynnal a Chadw Draenio Cynlluniedig a Rheoli'r Arfordir yr wybodaeth ddiweddaraf am grant Llywodraeth Cymru i gefnogi dylunio Cynllun Lliniaru Llifogydd Blackpill.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R grant i gefnogi'r dyluniad ar gyfer y cynllun.

 

24.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am grant Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau rheoli perygl llifogydd ar raddfa fach. pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynnal a Chadw Draenio Cynlluniedig a Rheoli'r Arfordir yr wybodaeth ddiweddaraf am grant Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau rheoli perygl llifogydd ar raddfa fach.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r grant i gefnogi'r cynlluniau a nodir.

 

25.

Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Cydlynydd Perthnasoedd y Sector Gwirfoddol adroddiad am ddyfodol y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (CATF).

 

Dywedodd y bu CATF ar waith am bum rownd a bwriedir cau'r chweched rownd i geisiadau ym mis Mawrth 2017. Hyd yn hyn, mae'r CATF wedi cefnogi 17 prosiect a chlustnodi cyfanswm gwerth £298,058 i brosiectau (cyllideb gwerth £300,000).

 

Nododd yr aelodau nad oes unrhyw gyllid i barhau â'r CATF. Ar hyn o bryd, mae £2,000 yn weddill o'r gyllideb wreiddiol, sef £300,000. Petai'r aelodau am gefnogi'r 6ed rownd arfaethedig o arian ac/neu estyn y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned ymhellach, byddai angen ychwanegu at y gyllideb er mwyn caniatáu am hyn.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r adroddiad tan y cyfarfod nesaf.

 

 

26.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

27.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Cyllid Ewropeaidd ac Allanol adroddiad a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau ar gyfer cyllid Ewropeaidd a chyllid allanol arall.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    Nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau yn adrannau 2 i 6 yr adroddiad;

2)    Cefnogi'r cais i gefnogi rhaglen 4.4 yr ERDF ar gyfer y ganolfan gyflogaeth ar Ffordd y Brenin;

3)    Cefnogi'r cais i Ddinas a Sir Abertawe gymryd rhan fel cyd-fuddiolwyr prosiect Cam Nesa.