Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C E Lloyd yn Gadeirydd Dros Dro.

 

BU'R CYNGHORYDD C E HALE (CADEIRYDD DROS DRO) YN LLYWYDDU.

39.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd W Evans fudd personol yng nghofnod 41 - Cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol (cyswllt beicio Pontybrenin) - Cynghorydd Ward Pontybrenin.

 

Datganodd A S Lewis fudd personol yng nghofnod 41 - Cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18 (Cysylltiadau Glan yr Afon Treforys) fel Cynghorydd Ward ar gyfer Treforys a budd personol a rhagfarnol yng nghofnod 42 - Trosolwg o'r ceisiadau presennol a'r rhai sydd ar ddod am gyllid Ewropeaidd ac allanol - Aelod y Cabinet a gymeradwyodd y cais.  Gadawodd y Cynghorydd Lewis y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei thrafod.

 

Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol yng nghofnod 40 - Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2017-2018 - Llywodraethwr ysgol Gynradd St. Thomas a chofnod 41 Cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18 - Cynghorydd Ward ar gyfer St. Thomas.

40.

Cofnodion: pdf eicon PDF 54 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2017 fel cofnod cywir.

41.

Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2017-2018. pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Datblygu Achos Busnes Ysgol adroddiad i amlinellu'r cynnig cyfalaf sydd wedi'i gynnwys yn y cais am gyllid ychwanegol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru  o ran Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2017/18 ac i gadarnhau cyllid ACEHI a gymeradwywyd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cyfalaf Dechrau'n Deg 2017/18.

42.

Cais i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18. pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth adroddiad i gymeradwyo'r cais am gyllid o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18.

 

Nododd fod pedwar cais â chyfanswm o £4.312 wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac mae'r symiau canlynol wedi cael eu rhoi ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno:

 

Ffordd Fabian – Pont Baldwin

£541,000

Cysylltiadau â'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

£364,000

Gwelliannau i'r Coridor Bws Strategol

£115,000

Cyswllt Pontybrenin

£73,000

 

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dyraniad dangosol o £18k i gefnogi'r gwaith sydd ei angen i gydymffurfio â dyletswyddau statudol Deddf Teithio Llesol (Cymru).

 

Cyfanswm = £1,221,000

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod angen cynnal mwy o drafodaethau mewn perthynas â goblygiadau refeniw sy'n codi o gymorth grant ar gyfer prosiectau cyfalaf ac ystyried bod ceisiadau cyllid yn y dyfodol yn unol â blaenoriaethau corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18.

43.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol adroddiad i ddarparu manylion o'r cais am Gyllid Arbed Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru 2017-18 ar gyfer ardal adnewyddu Sandfields.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am Gyllid Arbed Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru 2017-18 ar gyfer ardal Adnewyddu Sandfields.

44.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

45.

Y diweddaraf am geisiadau am gyllid allanol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Cyllid Ewropeaidd ac Allanol yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau presennol ac arfaethedig eraill am gyllid Ewropeaidd a chyllid allanol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhelliad i gefnogi'r cais i Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru 2017-2019, fel y'i amlinellir yn yr adroddiad.