Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016 - 2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016 - 2107. |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016 - 2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd C Richards yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016-2017. (BU'R CYNGHORYDD C RICHARDS, YR IS-GADEIRYDD, YN
LLYWYDDU) |
|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y
cynghorwyr: M C Child, J E C Harris, D H Hopkins a R C Stewart. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor
Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2016 fel cofnod cywir. |
|
Meysydd chwaraeon artiffisial trydedd genhedlaeth. PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Datblygu ac Allgymorth adroddiad
yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno cynnig i'r Grŵp Cyfleusterau
Chwaraeon Cydweithredol (yn cynrychioli Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu
Rygbi, Pêl-droed a Hoci yng Nghymru) i ddatblygu caeau chwaraeon artiffisial
(3G) mewn dau fan a nodwyd yn strategol yn Abertawe. Holodd aelodau am gostau cynnal, cynnal a chadw'r
caeau a gwnaethant geisio sicrwydd y byddai costau'r
ddau safle o leiaf yn adennill costau. Eglurodd y Rheolwr Datblygu ac Allgymorth y
byddai'r costau cynnal posibl ar gyfer pob cyfleuster rhwng £40,000 a £45,000 a
byddai'n cael ei ariannu gan yr incwm a gynhyrchir gan y ddau safle. Roedd hyn
yn cynnwys darparu cronfa ad-dalu ar gyfer ailosod y carped a'r siocleddfwr (os
yw'n berthnasol), yn ogystal â naill ai trwsio neu ailosod ffensys a
llifoleuadau. Gan dybio y byddai'n para
10 mlynedd, gan ddibynnu ar ddefnydd a chynnal a chadw, cynigir clustnodi
cronfa ad-dalu o rhwng £15,000 a £20,000 y flwyddyn i bob safle. Roedd yr Achos Busnes wedi nodi y byddai'r
safleoedd yn adennill costau. PENDERFYNWYD y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn
nodi'r goblygiadau yn yr adroddiad ac yn cymeradwyo cyflwyno achos busnes er
mwyn denu hyd at £400,000 o gyllid. Cododd y Rheolwr Datblygiad ac Allgymorth fater
brys mewn perthynas y mae ei angen ar Ysgol/Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt
o ran cyllido cyfleuster 3G ar y cyrtiau tenis presennol. Sefydlwyd ymddiriedolaeth i dalu am y
prosiect; fodd bynnag, roedd diffyg o £15,000.
Cadarnhaodd mai staff Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt fyddai'n
cynnal a chadw'r cyfleuster a byddai'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gan yr
ysgol a defnyddwyr y ganolfan hamdden.
Gobeithiwyd y byddai'r gwaith yn cael ei gyflawni yn ystod gwyliau haf
yr ysgol er mwyn osgoi anghyfleustra. Cytunodd y Panel Ariannu Allanol â'r cyllid mewn egwyddor, yn amodol ar gyflwyno adroddiad
ffurfiol yn y cyfarfod nesaf. |