Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C Richards yn Gadeirydd Dros Dro.

 

BU'R CYNGHORYDD C RICHARDS (CADEIRYDD DROS DRO) YN LLYWYDDU.

35.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

36.

Cofnodion: pdf eicon PDF 60 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

37.

Ariannu Gofal Canolradd (ICF) 16/17 - Ail Gyfran O Arian ICF. pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ymddiheuriadau gan Gydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin ar ran Cyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin a chyflwynodd adroddiad a oedd  yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ail gyfran Cyllid Gofal Canolraddol o Gronfa Refeniw 2016/17 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r

 

1.     Panel Ariannu Allanol GYMERADWYO Cynlluniau Refeniw Ychwanegol ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer cynlluniau ataliol i bobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion cymhleth ar gyfer Dinas a Sir Abertawe (wedi'i gynnwys yn Atodiad 2); a

2.     Dosbarthwyd manylion cyfansymiau gwario gan Gydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin a'r sefydliadau sy'n derbyn adnoddau (o ran cyfran 1 a 2) i'r Panel.