Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

29.

Cofnodion: pdf eicon PDF 76 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016 a'r Panel Ariannu Allanol Arbennig a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Y dylid ychwanegu Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, at y bobl a oedd yn bresennol ar gyfer cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016.

30.

Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2016-2017. pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Achos Busnes Prosiect Ysgol adroddiad i amlinellu'r cynnig cyfalaf a gynhwyswyd yn y cais cyllid ychwanegol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ynghylch Rhaglen Dechrau'n Deg 2016/17.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnwys y cynnig fel y nodwyd, ynghyd â'r goblygiadau ariannol, yn y rhaglen gyfalaf, gan ragweld y bydd Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r cynnig.

31.

Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Rhaglen Ewropeaidd adroddiad ynghylch dyfodol y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (CATF) ar ran y Cydlynydd Perthynas Sector Gwirfoddol.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i ohirio o gyfarfod y Panel Ariannu Allanol Arbennig ar 2 Tachwedd 2016.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned yn parhau, yn amodol ar gymeradwyaeth gyllidebol.

32.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

33.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cyllid Ewropeaidd adroddiad a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau presennol a chynlluniedig am gyllid Ewropeaidd a cheisiadau eraill am gyllid allanol.

 

Cafodd y swyddogion eu canmol gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio ar gyfer y modd blaengar roeddent wedi archwilio'r holl opsiynau a ffrydiau ariannu.

 

PENDERFYNWYD AR Y CANLYNOL:

 

1)       Y dylid nodi'r diweddaraf ar brosiectau yn adrannau 2 i 9;

2)       Y dylid cefnogi cynigion i Croeso Cymru a Cadw i adfer Tŷ Injan Musgrave ac y dylid galw cyfarfodydd y Panel Ariannu Allanol Arbennig i gymeradwyo cynigion ariannu brys y mae angen eu cyflwyno;

3)       Dylai'r panel gefnogi datblygu a chyflwyno cais am gyllid i'r Gronfa Cymunedau Arfordirol i gyflwyno Mynediad i Arfordir Bae Abertawe ar gyfer Prosiect Buddsoddiad Busnes;

4)       Dylai'r panel gefnogi cynigion ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau a gynigir dan Raglen Canol Dinas Abertawe Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.