Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorwyr M Child, R
Francis-Davies, J Harries, C Lloyd, J Raynor, C Richards, R Stewart a’r
swyddogion S Martin, A Lowe, S Richards a J Whitmore - Cofnod Rhif 18 (B2)
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned – Personol – mae'r ymgeisydd yn
gweithio i Ddinas a Sir Abertawe ac yn hysbys i ni. Y Cynghorwyr R Francis-Davies ac A Lewis – Cofnod Rhif 18 (B4 a B5) Cronfa
Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned – Personol – o fewn ward Treforys. Y Cynghorydd A Lewis – Cofnod rhif 17 - Cartrefi Cynnes Llywodraeth
Cymru/Parthau Arbed 2016/17 Cais Ardal Adnewyddu Sandfields – Personol a
Rhagfarnol – Fel Aelod y Cabinet cymeradwyais gais Arbed yn 2016/17 a ddaeth
gerbron y pwyllgor. Ni chymerodd y Cyng.
A Lewis unrhyw ran bellach yn y trafodaethau na phleidleisio ar yr eitem hon. Y Cynghorydd R Stewart – Cofnod rhif 18 (B1) Cronfa Trawsnewid Gweithredu
yn y Gymuned – Personol - Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Ni chymerodd y Cyng. Stewart ran wrth
bleidleisio ar yr eitem hon. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu
Allanol a gynhaliwyd ar 3 Awst 2016 fel cofnod cywir. |
|
Galluogi'r Grant Cyfalaf. PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif Gyfrifydd y Gwasanaethau Cymdeithasol y Grant Cyfalaf
Hwyluso ar ran Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion â’r
bwriad o gymeradwyo'r Grant Cyfalaf Hwyluso gan Lywodraeth Cymru a chynnwys y
gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2016/17. Byddai cyfanswm lwfans y grant sef £280,349 yn cael ei ddyrannu i’r tîm
Gofal a Thrwsio gyda mandad i barhau â'r cynllun
Grant Cartrefi Iachus a werthuswyd yn gadarnhaol ar ôl dyraniad ICF ar gyfer
2014/15 a byddai gwaith ymarferol yn cynnwys: ·
Addasiadau
lefel ganol, gan roi blaenoriaeth i waith sy'n cynorthwyo gyda gadael yr
ysbyty, atal cwympiadau yn y cartref neu roi cefnogaeth i bobl hŷn; ·
Addasiadau
lefel ganol ac addasiadau i gartrefi ar gyfer yr henoed dros 60 oed sy'n byw yn
eu cartrefi eu hunain neu lety a rentir yn breifat. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhelliad i gydymffurfio â Rheol Gweithdrefn Ariannol Rhif 7 (Rhaglennu ac Arfarnu Cyfalaf) ar gyfer ymrwymo ac awdurdodi cynlluniau i'r rhaglen gyfalaf. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai Cymunedol adroddiad i gyflwyno
manylion y cais am arian Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru/Parthau Arbed 2016/17
ar gyfer Ardal Adnewyddu Sandfields. Rhaglen buddsoddiad perfformiad ynni strategol Llywodraeth Cymru yw Arbed
ar gyfer helpu i fodloni ymrwymiadau i leihau newid yn yr hinsawdd, helpu i
waredu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygiad ac adfywio economaidd yng
Nghymru. Mae rownd ddiweddaraf cyllid Arbed sef 'Cartrefi Clyd a Pharthau Clyd
Llywodraeth Cymru' wedi cael ei chyhoeddi er mwyn cefnogi cynlluniau
effeithlonrwydd ynni mewn ardaloedd awdurdod lleol, mwyafu
nifer y cartrefi a gymeradwyir a chanfod cyllid o ffynonellau eraill megis
Rhwymedigaeth Cwmni Ynni i fwyafu buddsoddiad. Dywedodd oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer cyflwyno cais a roddwyd i'r
cyngor gan Lywodraeth Cymru, roedd y cais eisoes wedi'i gyflwyno, ar ôl cael
cyngor a chaniatâd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd, Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd
ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am arian Cartrefi Clyd/Parthau Arbed Llywodraeth Cymru 2016/17 ar
gyfer Ardal Adnewyddu Sandfields. |
|
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. PDF 176 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cydlynydd Perthynas y Sector Gwirfoddol adroddiad ar geisiadau
am bumed rownd ariannu Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. Roedd cefndir
ac egwyddorion y gronfa, ynghyd â'r meini prawf y
dylai ceisiadau eu bodloni a'r hyn y gellir ei
ddefnyddio ar eu cyfer, wedi’u nodi yn yr adroddiad. Nododd y panel fod un cais yn cael ei ohirio a bod pedwar cais newydd wedi'u
derbyn erbyn y dyddiad cau ar gyfer y bumed rownd ariannu ar 26 Awst 2016 fel a
ganlyn: 1. Whitehead-Ross Educating and Consulting Limited; 2. Cyngor Cymuned Llanrhidian
Uchaf; 3. Cymdeithas Fowlio Parc y
Werin; 4. Ymddiriedolaeth Adeilad
Tabernacl Treforys - Cloc; 5. Grŵp Mamau a Phlant Bach
y Sacred Heart. Trafododd Cydlynydd y Trydydd Sector grynodeb o'r ceisiadau'n fanwl yn
Atodiad A ac Atodiadau B1 i B5. Trafodwyd y ceisiadau gan aelodau a gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog, a
wnaeth ymateb yn briodol. CYTUNODD y panel ar y
canlynol: 1. Dylid GWRTHOD y cais a gyflwynwyd gan Whitehead Ross Educating and Consulting Ltd
oherwydd newid blaenoriaethau yn Ninas a Sir Abertawe o ran y Gwasanaeth
Ieuenctid yn gyffredinol; 2. Dylid CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned
Llanrhidian Uchaf ar gyfer y swm o £23,800; 3. Dylid CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas
Fowlio Parc y Werin ar gyfer y swm o £11,240; 4. Dylid CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth
Adeilad y Tabernacl Treforys ar gyfer y swm o £6,276; 5. Dylid GWRTHOD y cais a gyflwynwyd gan Grŵp Mamau a
Phlant Bach y Sacred Heart
gan ei fod yn anghymwys ar gyfer y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned
gan nad oes unrhyw arbediad i'r awdurdod.
Nid yw asedau neu wasanaeth yn cael eu trosglwyddo yn y cais. Cynigir cyngor i'r ymgeisydd ar ffynonellau
ariannu eraill y gellid cyflwyno cais amdanynt. Ni wnaeth y panel drafod a fyddai ariannu ychwanegol ar gyfer y chweched rownd o ariannu ac unrhyw ddyraniad o'r rownd hon sydd dros £48,700 sy'n weddill o'r £300,000 gwreiddiol a roddwyd i’r Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Swyddog y Rhaglen Cyllid Ewropeaidd ac Allanol drosolwg i geisio cymeradwyaeth ar gyfer grant gan Lywodraeth Cymru i
gefnogi Adroddiad Arfarnu Prosiect ar gyfer Prosiect Lliniaru Perygl Strategol
Ardal Ganolog Abertawe. Mae LlC wedi lansio rhaglen ariannu Rheoli
Peryglon Arfordirol sy'n rhoi un cyfle i awdurdodau lleol roi prosiectau rheoli
llifogydd arfordirol ar waith gyda LlC yn cyfrannu
75% o gostau'r prosiect. Fel rhan o'r rhaglen hon, disgwylir i awdurdodau lleol
nodi prosiectau posib, llunio achos busnes a sicrhau 25% o'r arian cyfatebol. Byddai'n cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu'r achos busnes angenrheidiol
gyda Llywodraeth Cymru'n darparu 100% o'r arian grant ar gyfer paratoi
Adroddiadau Arfarnu Prosiect, a fyddai'n cynnwys gwaith i fonitro'r llanw,
astudiaethau dichonoldeb ac ystyried cyfleoedd economaidd ac adfywio ehangach a
nodi ffordd ymlaen a ffefrif i reoli llifogydd a
chyflwyno cais am fwy o fuddsoddiad. PENDERFYNWYD bod y Panel Ariannu Allanol yn cefnogi'r cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer grant 100% i fwrw ymlaen ag Adroddiad Arfarnu Prosiect ar gyfer Prosiect Lliniaru Perygl Llifogydd Strategol Ardal Ganolog Abertawe. |