Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

53.

Cadeirydd Ymadawol

Cofnodion:

Dywedodd Grace Halfpenny ei bod wedi mynd i gyfarfod yn ddiweddar gyda Kath Morgans o'r Clwb Cyn-filwyr, sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd. Nododd fod nifer siomedig o gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn bresennol.

 

Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi penodi hyrwyddwr lluoedd arfog newydd yn ddiweddar, sef Jackie Davies. Gofynnodd i aelodau'r panel a oedd ganddynt unrhyw faterion o ran y bwrdd iechyd yr hoffent eu trafod â hi, ac y gallai eu codi mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Awgrymodd Kath Morgans syniad ar gyfer hyrwyddwyr lluoedd arfog/milwrol ar bob ward mewn ysbytai. Gallai gynnig y syniad yn y gwaith.

 

Nododd aelodau'r panel y ffaith eu bod yn ymwybodol bod y Bwrdd Iechyd wedi terfynu'i drefniant â'r Groes Goch a'i gynllun Home from Hospital. Nodwyd bod hyn yn cael effaith ar gleifion sy'n gyn-filwyr a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.

 

Dywedodd Grace Halfpenny y byddai'n codi materion hyrwyddwyr wardiau, yn ogystal â threfniadau er mwyn cefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn y dyfodol, yng nghyfarfod nesaf Fforwm Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Medi. 

 

 

54.

Ethol Cadeirydd Panel Llofnodwyr Cyfamod Cymuned y lluoedd arfog.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Wendy Lewis fel Cadeirydd Panel Cyfamod y Lluoedd Arfog

 

Bu'r Cynghorydd Wendy Lewis (Cadeirydd) yn llywyddu.

 

55.

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Panel Llofnodwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Cofnodion:

Penderfynwyd ail-ethol Capt Chris Evans yn is-gadeirydd Panel Cyfamod y Lluoedd Arfog.

 

 

56.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

57.

Cofnodion. pdf eicon PDF 121 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019 yn gofnod cywir.

 

(Sylwer: Ailadroddodd y Cynghorydd June Burtonshaw ei chynnig o'r cyfarfod blaenorol i gynorthwyo gydag unrhyw gostau i Aelodau'r Panel mewn perthynas â'r stondinau/pabell yn y Sioe Awyr o'i Chyllideb Gymunedol.

 

Nododd Capt Chris Evans ei fod wedi darparu'r babell am ddim.

 

Nododd y Cynghorydd June Burtonshaw y byddai'n gwneud grant yn awr i'r Cyfamod.)

 

58.

Maria Muldoon - Adran Dai Cyngor Abertawe.

Cofnodion:

Amlinellodd Maria Muldoon, Rheolwr Opsiynau Tai yng Nghyngor Abertawe, Strategaeth Digartrefedd y Cyngor a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2018 a chyfeiriodd ati.

 

Amlinellodd fod y strategaeth yn uchelgeisiol a manylodd ar brif nodau ac amcanion y cynllun newydd, a gyflwynwyd yn dilyn adolygiad o'r hen bolisi ac adborth oddi wrth rhanddeiliaid.

 

Amlinellodd y mesurau sydd ar waith i geisio nodi cyn-filwyr/personél a fu'n gwasanaethu fel rhan o'r broses cyfweld a chyflwyno ceisiadau. Nododd fod y niferoedd wedi bod yn isel yn hanesyddol yn Abertawe.

 

Amlinellodd y cysylltiadau hen sefydledig â Charchar Abertawe.

 

Gofynnodd aelodau'r panel gwestiynau amrywiol ac ymatebodd y swyddog iddynt.

 

Awgrymwyd gwe ddolen trwy dudalen y cyfamod i dudalennau perthnasol yr Adran Tai fel ffordd dda ymlaen, ac roedd rheoli disgwyliadau ar gyfer unrhyw dai y byddent yn symud iddynt ar ôl gadael y lluoedd arfog yn fater allweddol yn enwedig o ran y rhai a fu'n gwasanaethu, yn enwedig os oeddent yn gyfarwydd â byw ar y safle.

 

Amlinellwyd y cysylltiadau da ag elusennau/grwpiau gwirfoddol gwahanol etc. a geir eisoes o ran help gyda dodrefn, nwyddau gwyn etc., a'r posibilrwydd o ddatblygu "pecyn croeso", sy'n cynnwys gwybodaeth a manylion cyswllt defnyddiol er mwyn i denantiaid newydd gael cymorth, a allai fod o fudd i denantiaid newydd.

 

59.

Dan Garner & Peter Russell -Tîm Cydlynu Ardal Leol-Cyngor Abertawe.

Cofnodion:

Amlinellodd Dan Garner a Peter Russell, aelodau o dîm cydlynu ardaloedd lleol Cyngor Abertawe, eu rolau eu hunain a rolau eu cydweithwyr yn eu cymunedau ar draws y ddinas.

 

Nododd mai eu nod yw rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un yn eu cymunedau ac i feithrin cysylltiadau. Mae'r tîm yn gyfrifol am oddeutu hanner y ddinas ar hyn o bryd.

 

Amlinellwyd bod eu hymagwedd yn wahanol i ymagwedd y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i bod yn seiliedig ar ganolbwyntio ar ymagwedd gadarnhaol a cheisio adeiladu ar sgiliau, cryfderau a galluoedd pobl.

 

Mynegwyd eu bod yn canolbwyntio'n llai ar ddata ac yn fwy ar bobl yn eu gweithredoedd pob dydd yn y gymuned. Manylwyd ar enghreifftiau o brofiadau lle roeddent wedi ymwneud â chyn-filwyr yn eu cymunedau.

 

60.

Diweddariadau.

Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Adroddodd Capt Chris Evans ar ailgyflwyno menter y "Criw Croch" mewn partneriaeth â'r Uchel Siryf. Cynhaliwyd digwyddiad yn y Grange ym mis Mehefin a daeth dros 1,000 o bobl ifanc iddo.

 

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu eto ar gyfer 2020.

 

Cyfeiriodd at lwyddiant ysgubol y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog a nododd ei fod yn gobeithio y gellid ei ailadrodd y flwyddyn nesaf yn ogystal â seremoni codi'r faner.

 

Dywedodd y byddai'r babell ar gael eto'r flwyddyn nesaf, ac roedd yn gobeithio cynyddu nifer y bobl ifanc/cadetiaid sy'n cael eu cynnwys ar y diwrnod.

 

61.

Prosiect Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cofnodion:

 

Adroddodd Grace Halfpenny ei bod wedi mynd i'r ffair swyddi'n ddiweddar a thrafododd cyflogi cyn-filwyr gyda thros 30 o gyflogwyr, ac roedd pob un yn ymddangos eu bod yn awyddus i gyflogi cyn-filwyr. Amlinellodd yr adborth cadarnhaol a dderbyniodd gan gyflogwyr a oedd eisoes wedi cyflogi cyn-filwyr a oedd yn croesawu eu hymagwedd gadarnhaol, eu prydlondeb, eu golwg a'u manylder.

 

Cyfeiriodd at y gyllid o'r Gronfa Cefnogi Plant Aelodau o'r Lluoedd Arfog yng Nghymru y gall ysgolion wneud cais amdano. Nododd y byddai'n cwrdd â'r Cynghorwyr a phenaethiaid ym mis Tachwedd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfle hwn i gael arian.

 

Amlinellodd ei hymweliad diweddar â HMS Cambria gydag Arglwydd Faer Abertawe a'r Cynghorydd Wendy Lewis, Hyrwyddwr newydd y Lluoedd Arfog.

 

Nododd yr angen i ddatblygu cysylltiadau ymhellach â'r Adran Tai a Chyngor ar Bopeth.

 

Amlinellodd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal arolwg cwmpasu'n ddiweddar y byddai nifer o bobl wedi cyfrannu ato. Cynhaliodd Peter Evans o Lywodraeth Cymru weithdy yng Nghanolfan Bulldogs ym Maglan ar 22 Gorffennaf, a oedd yn trafod y canlyniadau ac yn ystyried ble mae'r bylchau a nodwyd a sut y gellid eu cefnogi. Aeth nifer o aelodau'r panel hwn i'r gweithdy. 

 

Manylodd hi a Spencer Martin fod yr arian ar gyfer hyrwyddo/masnachu a digwyddiadau'n rhan o'r cyllid a dderbyniwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer swydd y Swyddog Cyswllt Rhanbarthol. Trafodwyd awgrymiadau ar sut y gellid defnyddio'r arian hwn. 

 

62.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Fforwm y Lluoedd Arfog

Cofnodion:

Dywedodd Grace Halfpenny ei bod wedi mynd i gyfarfod yn ddiweddar gyda Kath Morgans o'r Clwb Cyn-filwyr, sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd. Nododd fod nifer siomedig o gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn bresennol.

 

Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi penodi hyrwyddwr lluoedd arfog newydd yn ddiweddar, sef Jackie Davies. Gofynnodd i aelodau'r panel a oedd ganddynt unrhyw faterion o ran y bwrdd iechyd yr hoffent eu trafod â hi, ac y gallai eu codi mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Awgrymodd Kath Morgans syniad ar gyfer hyrwyddwyr lluoedd arfog/milwrol ar bob ward mewn ysbytai. Gallai gynnig y syniad yn y gwaith.

 

Nododd aelodau'r panel y ffaith eu bod yn ymwybodol bod y Bwrdd Iechyd wedi terfynu'i drefniant â'r Groes Goch a'i gynllun Home from Hospital. Nodwyd bod hyn yn cael effaith ar gleifion sy'n gyn-filwyr a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.

 

Dywedodd Grace Halfpenny y byddai'n codi materion hyrwyddwyr wardiau, yn ogystal â threfniadau er mwyn cefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn y dyfodol, yng nghyfarfod nesaf Fforwm Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Medi. 

 

63.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r panel ddiweddariadau llafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau perthnasol.

 

Cyngor Abertawe

Dywedodd Spencer Martin fod y digwyddiad arwyddo ar gyfer Aelodau newydd y Panel a gynhaliwyd ym mis Mai wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

 

Roedd Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog 2019 hefyd wedi bod yn ddigwyddiad gwych.

 

Cadarnhaodd Emma Thomas fod y Sioe Awyr wedi'i chadarnhau ar gyfer 4 a 5 Gorffennaf 2020.

 

Dywedodd na chadarnhawyd unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer digwyddiadau coffáu Diwrnod VE ym mis Mai 2020.

 

Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Dywedodd Adrian Rabey fod gan y cwmni 20 o swyddi hyfforddi gwag yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

 

Dywedodd fod 10 o leoedd diogelu wedi'u rhoi i'r Clwb Cyn-filwyr, ac roedd ei gwmni wrthi'n trafod â Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe am ganfod cyfleuster/canolfan ar gyfer cyn-filwyr sy'n addas ar gyfer pobl anabl yng nghanol y ddinas. 

 

Action on Hearing Loss

Dywedodd Charis Moon y gallai ei sefydliad gynorthwyo gydag unrhyw broblemau clyw, ac y gall aelodau'r Panel gyfeirio ati.

 

The Poppy Factory

Cyfeiriodd Natalie McCombe at y digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty, lle derbyniodd 7 o gyfeiriadau.

 

Nododd fod ganddi 35 o achosion gweithredol ar ei llwyth achosion ar hyn o bryd.

 

Clwb Cyn-filwyr

Nododd Kath Jenning, Kat Morgans a Sandy Shaw fod y Sioe Awyr a'r digwyddiad Rhwydwaith Cyn-filwyr diweddar wedi ehangu ei sylfaen gleientiaid. Mae eu llwyth gwaith a'u cyfeiriadau'n parhau i gynyddu a nododd fod gan y grwpiau gysylltiadau cryf â'r carchar.

 

Dywedodd eu bod yn parhau i feithrin cysylltiadau a pherthynas â Veterans UK, yn enwedig o ran materion pensiynau.

 

Sefydlwyd canolfan galw heibio wythnosol newydd yn YMCA Castell-nedd, felly mae hyn yn golygu y cynhelir 10 o sesiynau galw heibio bob wythnos erbyn hyn, a chaiff 2 neu 3 arall eu hychwanegu'n fuan.

 

Mae cysylltiadau â Hugh James Solicitors yn parhau i ddatblygu, a chaiff elfen o gyd-gyfeirio a chyd-gynorthwyo ei datblygu gyda'r cwmni o ran materion cyfreithiol.

 

Bydd y grŵp yn cynnal digwyddiad cymunedol yng ngwesty The Commercial yn Nhre-gŵyr ddydd Sadwrn 3 Awst. Dylai gynnwys amrywiaeth o stondinau, gan gynnwys reid efelychydd hediad yr RAF. Bydd croeso i bawb ddod iddo.

 

Y Llynges

Dywedodd yr Is-lefftenant Matthew Hendery fod y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi bod yn llwyddiant, ond hoffai pe bai ei wasanaeth yn cael lleoliad mwy canolog yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd at ddathliadau 25 mlwyddiant HMS Dragon sydd ar ddod.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Cyfeiriodd Anna Looker at y grantiau cefnogaeth cymunedol y gall y Lleng Brydeinig Frenhinol eu rhoi ar gyfer materion megis cefnogaeth profedigaeth, materion iechyd, etc. Mae croeso i'r Panel gysylltu â hi am gyngor a chymorth.

 

Nododd fod y Lleng Brydeinig Frenhinol yn gweithio ar fater sy'n berthnasol ar draws y DU mewn perthynas â diwygio budd-daliadau a'r problemau sy'n gysylltiedig â hynny ar hyn o bryd.