Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
To approve & sign the
Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: Penderfynwyd
cytuno bod cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2024 yn gofnod
cywir. |
|
Heddlu de Cymru. Cofnodion: Nododd y byddai'n anfon copi o'r cyflwyniad i'w
ddosbarthu yn dilyn y cyfarfod. |
|
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Adroddodd Fiona
Pickwell y gall ei rôl a'i chyfrifoldebau newid wrth symud ymlaen yn dilyn
gwerthusiad diweddar. Amlinellodd fod
Carers UK yn cynnal arolwg ar hyn o bryd i gasglu barn a phrofiadau cyn-filwyr
sy'n ofalwyr neu'r rheini sy'n gofalu am gyn-filwyr. Aeth y comig Coming Home newydd ar werth yn
ddiweddar – mae’n canolbwyntio ar y gymuned LHDT+ ac yn cynnwys Ruth Birch o Fighting with Pride.
Dymunodd y gorau i Ruth, sy'n symud i Ddyfnaint cyn
bo hir, a dywedodd y bydd hi'n golled fawr i'r gymuned filwrol yng Nghymru.
Roedd y Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor yn dymuno'r gorau iddi hefyd. Dywedodd wrth
aelodau'r panel am yr e-bost rheolaidd mae'n ei anfon at gymuned y lluoedd,
sef ‘Whats Occurrin’, sy'n cynnwys newyddion, gwybodaeth a
chyngor a gofynnodd i’r aelodau hynny o'r panel a oedd eisiau cael eu
hychwanegu at y rhestr ddosbarthu i gysylltu â hi. Ar hyn o bryd
mae'n drafftio calendr o ddigwyddiadau yn ei hardal a gofynnodd i aelodau'r
panel rannu eu manylion â hi os hoffent rannu/hyrwyddo digwyddiad. Amlinellodd hefyd
y cyllid/grantiau sydd ar gael i grwpiau ar hyn o bryd, sy'n cynnwys y 3 maes
canlynol: ·
Teuluoedd sy'n Gwasanaethu:
Rhaglen On The Move 2024-25
- grantiau o hyd at £120 mil ar gyfer teuluoedd sy'n gwasanaethu y mae adleoli
yn effeithio arnynt ·
Y Rhaglen Grantiau Cyfalaf
Mawr - grantiau rhwng £75 mil a £500 mil tuag at brosiectau sy'n cefnogi gwaith
ailwampio sylweddol/estyniadau/tai newydd ar gyfer llety ar rent i gyn-filwyr a
chanddynt anghenion o ran tai; ·
Veterans' Foundation
– mae grantiau o £500 hyd at £30 mil a grantiau cyflog hyd at £25 mil y
flwyddyn ar gael; ·
Atgoffodd aelodau'r panel i ddefnyddio'r pecyn
cymorth Turn2us wrth gyflwyno cais am grantiau. Nododd ychydig o
ddyddiadau ar gyfer y dyddiadur o gwmpas cyfnod y Cofio, sef: 25 Hydref -
Diwrnod Gŵyl y Lluoedd Arfog ym Mhort Talbot 1 Tachwedd -
Cyngerdd Goffa Arglwydd Faer CNPT yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol
Abertawe. 8 Tachwedd -
Gŵyl y Cofio Arglwydd Faer DASA/Y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Amlinellodd yr
Is-gomander Andy Davies fod cynlluniau ar gyfer HMS Cambria yn arfer eu hawliau
ar gyfer Rhyddid Abertawe ar 1 Mawrth yn parhau. Nododd y bydd y
gwasanaeth yn mynd i gynifer o'r digwyddiadau cynlluniedig â phosib, a gall
unrhyw un sydd am gael cefnogaeth gan y gwasanaeth ar gyfer gweithgareddau etc
gysylltu ynghylch hynny. Trafododd y
Capten Huw Williams yr hyn yr oedd Sgwadron 223 a Chatrawd 157 (Cymru) wedi bod
yn ei wneud dros y misoedd diwethaf a'r hyn maent yn bwriadu ei wneud yn y
dyfodol. Ers y cyfarfod
diwethaf rydym wedi cymryd rhan yn yr ymarfer Winter Dragon fel rhan o The Commanding Officers Sword. Mae nifer o'n
milwyr hefyd wedi mynychu cyrsiau hyfforddiant i gynyddu eu cymhwysedd . Mae'r
rhain wedi cynnwys gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar fasnachu, hyrwyddo neu
drwyddedau gyrru. Fis Tachwedd diwethaf aeth milwyr y sgwadron i nifer o
ddigwyddiadau coffa. Roedd y rhain yn gyfle i fyfyrio a dod ynghyd i fyfyrio. Roedd y rhan
fwyaf o'n pobl wedi cael cyfle i ymlacio dros y Nadolig ac maent bellach yn barod i ddechrau'r flwyddyn
newydd â brwdfrydedd. Mae pedwar milwr wedi bod yn sgïo yn Norwy, Ffrainc ac
Awstria, ac mae hyn yn dangos bod milwyr wrth gefn yn cael cyfleoedd gwych i
ddatblygu eu hunain. Mae rhaglen lawn
o ddigwyddiadau’n cael ei llunio eleni a chynhelir cyfarfod o'r Cyngor ddydd
Iau i drafod y rhain. Ar ôl cynnal y cyfarfod hwn, caiff y digwyddiadau eu
dosbarthu i aelodau'r panel fel eu bod yn ymwybodol ohonynt ac fel y gallant fynd iddynt. Mae digwyddiadau arwyddocaol i edrych
ymlaen atynt yn 2025 yn cynnwys diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop ym mis Mai,
dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 28 Mehefin, y Sioe Awyr a diwedd yr Ail
Ryfel Byd yn Japan ym mis Awst. Ym mis Tachwedd,
oherwydd newid i'r amseriad, bydd y gatrawd yn cymryd rhan yn ei hymarfer
hyfforddiant blynyddol. O ganlyniad, gall fod llai o gynrychiolwyr yn bresennol
yn y digwyddiadau coffa hyn nag yn y blynyddoedd blaenorol. Dywedodd ei fod
yma i helpu drwy gynnig cymorth neu drwy fynd i ddigwyddiadau os gall wneud
hynny, ac mae croeso i grwpiau gysylltu ag ef. Dywedodd Rob
Woods, Comodor yr Awyrlu ei fod yn mynd i'w gyfarfod cyntaf o'r panel a'i fod
yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb yn y dyfodol a chefnogi cynifer o
ddigwyddiadau lleol â phosib. Byddai’n ymwneud
ag ymweliad y Gweinidog Cyn-filwyr â Gogledd Cymru yn hwyrach yr wythnos hon
lle trafodir materion ar draws Cymru. Bydd cyfle i roi adborth yn y dyfodol. Trafododd hefyd gynlluniau'r RAF ar gyfer
oddeutu 20 sioe ar draws y DU i hyrwyddo ac annog recriwtio. Cynhelir un
ohonynt yn Abertawe ac mae'n debygol iawn y bydd yn cyd-fynd â'r Sioe Awyr.
Mae'n bosib y gallai adnoddau ychwanegol fod ar gael i gefnogi'r digwyddiad.
Bydd rhagor o fanylion i ddilyn pan fyddant yn hysbys. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Dywedodd Victoria
Williams ar ran GIG Cymru i Gyn-filwyr fod 35 o atgyfeiriadau wedi'u derbyn yn
ystod y 3 mis diwethaf ac o'r rhain, roedd 25 wedi dewis eu derbyn - roedd 18 o
unigolion wedi'u hasesu a byddant yn derbyn therapi wrth symud ymlaen. Cynhaliwyd y
cyfarfod rhwydwaith clinigol diwethaf ar 19 Rhagfyr 2024 ac roedd presenoldeb
yn y cyfarfod yn dda. Ailadroddodd fod croeso i holl aelodau'r panel fynd i'r
cyfarfodydd hyn. Yn ystod y
cyfarfod diwethaf gwnaeth tîm y Canolfannau Adfer o farics
Aberhonddu friffio'r panel, a oedd yn wych. Cyfeiriwyd at y
prosiect SPRING, sef menter ar-lein ar gyfer cyn-filwyr a chanddynt Anhwylder
Straen Wedi Trawma, sy'n gweithio'n dda iawn. Dywedodd fod
recriwtio seiciatrydd ar gyfer y tîm yn her barhaus o hyd. |
|
Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Yng Cymru. Cofnodion: Nid oedd swyddog
yn bresennol. Gellir gweld y
bwletin misol i ysgolion yn SSCE Cymru :: Bwletin misol i ysgolion. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: The Poppy Factory Dywedodd Andy
Harris ei fod yn mynychu ei gyfarfod cyntaf yn dilyn ei benodiad diweddar i rôl
newydd yn y sefydliad a oedd yn ymwneud â'r rhaglen Navigator,
sy'n ceisio cefnogi cyn-filwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys rhoi cyngor
ar faterion amrywiol megis caethiwed, tai a chymorth cyflogaeth. Mae ei sefydliad
yn parhau i gefnogi cyn-filwyr ac mae wedi derbyn atgyfeiriadau gan Victoria
a'r canolfannau adfer yn Aberhonddu. Veterans RV Dywedodd Paul
Smith fod grŵp Veterans RV yn cymryd rhan mewn astudiaeth gyda Phrifysgol
Abertawe a SOFit sy'n edrych ar fuddion trochi mewn
dŵr oer ar gyfer cyn-filwyr. Mae'r grŵp
yn parhau i nofio'n rheolaidd ym mae Caswell ar ddydd Sul a byddant yn
cefnogi'r digwyddiad Dip for Tim ar 26 Ionawr sy'n gysylltiedig â chyn-filwr a
fu farw yn ddiweddar. Mae'r clwb modelwyr yn parhau i gwrdd yn rheolaidd a dywedodd y bydd y
Bulldogs yn cynnal cwis ar 7 Chwefror - mae croeso i
bawb. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Dywedodd Adrian
Leslie y bydd y ffigurau diweddaraf ynghylch y lles a'r cymorth a ddarperir i
lengoedd yng Nghymru ar gael i'w dosbarthu cyn bo hir. Mae digwyddiadau
mawr wedi'u cynllunio eleni ar gyfer Diwrnod VE/VJ, a bydd digwyddiad i ddathlu
Diwrnod Cofio'r Holocost ac 80 mlynedd ers
rhyddhau Auschwitz hefyd yn cael ei gynnal ar 27
Ionawr. Cyfeiriodd at
gronfa Crossfield House sy'n gysylltiedig â
digwyddiadau cofio ar gyfer Diwrnod VE/VJ, a gellir gwneud cais am arian i
ariannu digwyddiadau sy'n cynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol ac sy'n bwriadu
cynnwys cyn-filwyr, neu sy'n ceisio mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol
ac annog cynhwysiant etc. Cyfeiriodd Phil
Flower at y cyfarfod a gynhelir ddydd Iau, fel a amlinellwyd gan y Capten Huw
Williams yn gynharach, er mwyn trafod y digwyddiadau amrywiol a gynlluniwyd ar
gyfer 2025. Caiff yr wybodaeth ei rhannu ag aelodau'r panel yn dilyn y
cyfarfod. Fighting With Pride Nid oedd Ruth
Birch yn bresennol ond darparodd y diweddariad canlynol: Yn ddiweddar
dathlwyd 25 mlynedd ers codi'r gwaharddiad ar bobl hoyw. Gwnaethom hefyd
gyhoeddi'r enillydd ar gyfer cofeb LHDT y Lluoedd Arfog a fydd yn cael ei
hadeiladu yn y Goedardd Genedlaethol erbyn yr Hydref. Y Swyddfa Materion Cyn-filwyr - Cyhoeddi Enillydd y Gofeb LHDT https://www.youtube.com/shorts/0cowfxl4sJs BBC Breakfast News - 12-01-2025 - Dathlu 25
mlynedd a Chofeb LHDT y Lluoedd Arfog Comig Coming Home -
Rhifyn 2 |