Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a
gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Amlinellodd
Bethan Dennedy y byddai cyfran newydd o gyllid y Lluoedd Arfog yn cael ei rhyddhau
cyn bo hir, a dywedodd y byddai'n dosbarthu gwybodaeth a manylion yn dilyn y
cyfarfod. Gofynnodd i
aelodau'r panel a oedd unrhyw gynlluniau i goffáu 40 mlynedd ers Rhyfel
Ynysoedd Falkland a hefyd Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Nododd Rob Govier fod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer
y ddau ddigwyddiad coffa. Nododd Steve Fry
fod cynllunio ar gyfer y jiwbilî platinwm yn parhau gyda'r fenter Canopi
Gwyrdd, a bod yr Arglwydd Raglaw yn ymwneud â llawer o ddigwyddiadau plannu
coed a chynigion coelcerth y Jiwbilî. Gwahoddodd aelodau'r panel i gysylltu os
oes angen manylion y naill gynllun neu'r llall arnynt. Amlinellodd Phil
Flower y gallai fod gwasanaeth eglwys a gorymdaith i'w trefnu, ond nid oedd y
rhain wedi’u cadarnhau eto. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Dywedodd y Capten
Huw Williams fod y gwasanaeth yn parhau i gynorthwyo'r Gwasanaeth Iechyd yn ei
weithrediadau dyddiol. Gyda'r cyhoeddiad
diweddar ar gyfyngiadau COVID, dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r uned yn
symud yn ôl i hyfforddiant wyneb yn wyneb yn fuan, ac amlinellodd fod
recriwtio’n parhau i fod yn flaenoriaeth i'r uned oherwydd y lefel bresennol o
swyddi gwag. Cyfeiriodd at
ddigwyddiad y Fyddin/Cyflogwr sydd ar y gweill, a gynhelir yn rhithwir erbyn
hyn. Gallai ddosbarthu manylion i unrhyw bartïon â diddordeb pe bai angen. Dywedodd nad oedd
yn siŵr ar hyn o bryd o gynlluniau'r uned ar gyfer y Jiwbilî Platinwm, ond
os oedd pobl am i'r uned gymryd rhan mewn digwyddiadau, dylent gysylltu cyn
gynted ag y bo'n ymarferol. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog Cofnodion: Amlinellodd Steve
Spill, oherwydd effeithiau parhaus y pandemig a'i effeithiau/effaith ar yr awdurdod iechyd, nad
oedd llawer iawn i'w adrodd ar wahân i'r ffaith y byddai cyfarfod nesaf Bwrdd
Iechyd y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal ar 15 Chwefror. Nododd fod y
duedd ar i lawr ar gyfer nifer yr heintiau COVID ers y Flwyddyn Newydd i'w
chroesawu. Amlinellodd
Victoria Williams ei bod wedi derbyn 49 o atgyfeiriadau i'w gwasanaeth yn ystod
y chwarter diwethaf, yr oedd 45 ohonynt wedi dewis defnyddio'r gwasanaeth, a
oedd yn rhagorol, a soniodd fod y rhestr aros am wasanaethau tua 7 wythnos. Amlinellodd y
byddai cyfarfod rhwydwaith iechyd yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth ac y dylai
unrhyw aelodau o'r panel a oedd am fynd iddo gysylltu â hi. Mae'r
hunanarchwiliad o wasanaethau’n parhau ac mae 88 o'r 112 o feysydd wedi'u
harchwilio hyd yma. Amlinellodd y
bydd prawf rheoli ar hap yn dechrau'n fuan a fydd yn cymharu Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid (EMDR)
wyneb yn wyneb â'r hyn a wneir ar-lein. Bydd y prosiect ymchwil yn parhau am 2
flynedd. |
|
Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth. Cofnodion: Dywedodd Yasmin
Todd fod casgliad data SSCE Cymru (Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru) o
bobl ifanc mewn ysgolion yn parhau. Yn Abertawe, mae'r awdurdod lleol wedi
sefydlu system i fonitro niferoedd a nododd y dylai allu rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r panel am niferoedd yn y cyfarfod nesaf. Amlinellodd fod
8.5k ar gael i gyflwyno sesiynau drwy Forces Fitness yn Abertawe, ac mae'r rhain yn cael eu trefnu a'u
cynllunio ar eu cyfer ar hyn o bryd. Amlinellodd fod
cyrsiau llesiant Little Troopers
hefyd yn cael eu paratoi ar hyn o bryd gyda'r bwriad o'u cyflwyno mewn ysgolion
cynradd cyn gynted ag y bydd y pandemig yn caniatáu. Bwriedir trefnu
gweithgareddau 'mis y plentyn milwrol' ar gyfer mis Ebrill, gyda chystadlaethau
posib a chyfleoedd cynyddu ymwybyddiaeth cyffredinol a dathliadau plant y
lluoedd arfog mewn ysgolion. Mae rhaglen
llysgenhadon plant y lluoedd arfog hefyd yn cael ei hyrwyddo er mwyn i bobl
ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu ag SSCE a phlant eraill ledled Cymru a chynyddu
ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu plant y lluoedd arfog ar draws y wlad. Amlinellodd Tom
Sloane fod y Gweilch yn ymgysylltu â hyd at 40 o ysgolion y tymor yn lleol a'i
fod yn hapus i gynorthwyo a chefnogi mewn unrhyw ffordd y gallai gyda'r
syniadau a amlinellir uchod. |
|
Forces Fitness. Cofnodion: Rhoddodd Rhia Molino gyflwyniad byr ar yr hyn y mae ei sefydliad yn ei
wneud ar hyn o bryd yn eu sesiynau gyda phlant y lluoedd arfog yn Abertawe. Ar hyn o bryd
maent yn cyflwyno sesiynau iechyd, lles a gweithgareddau i 34 o ysgolion yn
Abertawe. Maent hefyd yn
cyflwyno sesiynau yn awr i 13 awdurdod arall a'r llynedd buont yn gweithio gyda
160 o ysgolion, gan gynnwys dros 6,000 o bobl ifanc mewn gweithgareddau. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Hwb i
Gyn-filwyr Abertawe Darllenodd y Cadeirydd
ddatganiad gan Phil Jones ynghylch sefydlu canolfan newydd i gyn-filwyr yn
Abertawe. Mae diwrnod lansio'n cael ei drefnu yn St Helen's
a bydd y manylion yn dilyn maes o law. Cyngor
Abertawe Amlinellodd y
Cadeirydd y cynlluniau presennol ar gyfer y Sioe Awyr dros benwythnos 2/3
Gorffennaf. Nododd nad yw'r
trefniadau ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi'u cwblhau eto. Amlinellodd
Spencer Martin fod cronfa Cyn-filwyr Abertawe ar agor o hyd ar gyfer ceisiadau,
gyda manylion llawn ar wefan y cyngor. Mae pedwar cais wedi'u cyflwyno hyd yma,
a byddai ef a'r Cadeirydd yn eu harchwilio cyn bo hir. Cyfeiriodd
Natalie McCombe at gronfa newydd Cyngor Abertawe ar gyfer pobl dros 50 oed sef
'Gaeaf Llawn Lles' - er nad yw'r gronfa'n benodol i gyn-filwyr, gallai
gynorthwyo grwpiau. Cronfa Les yr
Awyrlu Brenhinol Cyfeiriodd Neil
Tomlin at y lefel newydd ac estynedig o wasanaethau cymorth sydd ar gael gan ei
sefydliad o ganlyniad i COVID, sy'n ymwneud â chymorth iechyd meddwl i blant a
phobl ifanc o oedran ysgol sy'n gysylltiedig â'r Awyrlu Brenhinol. Byddai'r manylion
llawn yn cael eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Nododd Anna
Looker nad oedd y grŵp lleol wedi trefnu unrhyw beth eto i nodi 40 mlynedd
ers rhyfel Ynysoedd Falkland, ond y byddai'n diweddaru'r grŵp maes o law.
Amlinellodd fod y LlBF yn genedlaethol yn chwilio am
gyn-filwyr rhyfel y Falkland i siarad â'r wasg a rhannu atgofion o'r gwrthdaro. Cynhelir
digwyddiad cenedlaethol yn y Goedardd Genedlaethol yn Swydd Stafford.
Cyfeiriodd Phil
Flower at y digwyddiadau posib sy'n cael eu trafod ar gyfer y Sioe Awyr/Diwrnod
y Lluoedd Arfog gan gynnwys gorymdaith bosib a digwyddiad ger rotwnda Neuadd y
Ddinas. Er gwaethaf y pandemig, nododd fod y gwerthwyr pabïau yn Abertawe wedi
gwneud gwaith rhagorol, ond roedd llai o arian wedi’i gasglu eleni o’i gymharu
â blynyddoedd blaenorol oherwydd y pandemig. Mae'r cynlluniau
ar hyn o bryd ar gyfer cyfnod coffa llawn, yn wahanol i'r blynyddoedd diwethaf
oherwydd COVID. Amlinellodd y
bydd y Cadetiaid Awyr yn derbyn Rhyddid Gorseinon gan Gyngor Tref Gorseinon yn
hwyrach yn y flwyddyn. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Rhoddodd Julian
Wilde-Davies y diweddaraf i'r panel am nifer o raglenni sy'n mynd yn fyw dros
yr wythnosau nesaf a ariennir gan wahanol ffynonellau, yn enwedig cynllun a
fydd yn galluogi i 20 o gyfranogwyr gymryd rhan mewn rhaglen 12 wythnos a allai
arwain at swyddi yn y gwasanaeth sifil ac un arall sy'n ceisio hyfforddi pobl i
fynd i'r afael â'r diffyg mewn gweithwyr personél diogelwch yn lleol. Byddai'n
dosbarthu manylion llawn yn dilyn y cyfarfod. |