Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Panel a gynhaliwyd
ar 27 Ionawr 2020 yn gofnod cywir. |
|
Diweddariad Covid 19 Cyngor Abertawe. Cofnodion: Amlinellodd David Price Deer fod Sioe Awyr 2020 a'r holl ddigwyddiadau
eraill a gynlluniwyd wedi'u canslo oherwydd y pandemig. Dywedodd fod y Cyngor yn aros am gyngor gan Lywodraeth Cymru ynghylch a allai
unrhyw ddigwyddiadau Dydd y Cofio gael eu cynnal eleni; byddai trafodaeth yn
cael ei chynnal â'r Lleng Brydeinig Frenhinol os rhoddir caniatâd, byddai math
a maint unrhyw ddigwyddiadau’n amlwg yn dibynnu ar ffigurau'r gyfradd heintio
ac os oedd unrhyw gyfyngiadau lleol neu genedlaethol mewn grym ar y pryd. Amlinellodd y Cadeirydd fod cyfnod y cyfyngiadau symud wedi bod yn un
anodd iawn i'r holl grwpiau a sefydliadau sy'n ymwneud â'r Panel a diolchodd
iddynt am eu hymdrechion a'u cymorth wrth helpu cyn-filwyr yn ystod y cyfnod
hwn. Amlinellodd, oherwydd y cyfyngiadau symud a'r rheolau cadw pellter
cymdeithasol dilynol, mai un digwyddiad yn unig yr oedd wedi gallu mynd iddo
ers mis Mawrth. Er hynny, roedd wedi
ffilmio ychydig o fideos byr ar gyfer gwefan y cyngor i gyd-fynd â Diwrnod
Buddugoliaeth yn Ewrop a Diwrnod y Lluoedd Arfog. Amlinellodd Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell, fod y
Lluoedd Arfog bellach yn dod o dan ymbarél ei phortffolio a'i bod yn dod i’w
chyfarfod cyntaf a'i bod yn awyddus i gysylltu ag Aelodau'r Panel a’u
cynorthwyo lle bynnag y bo modd. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Cyfeiriodd Capten
Chris Evans at gronfeydd y fyddin leol a oedd wedi'u defnyddio yn ystod y
cyfnod cloi i gynorthwyo'r GIG. Amlinellodd ei
fod, fel yr adroddwyd eisoes, yn aros am arweiniad ynghylch unrhyw
ddigwyddiadau posibl ar gyfer Dydd y Cofio. Dywedodd fod y cynlluniau presennol
yn nodi na fyddai gorymdeithau'n cael eu cynnal eleni yn anffodus. Nododd nad oedd
unrhyw recriwtio wedi digwydd yn ystod y cyfyngiadau symud ond bod hyfforddiant
ar-lein rhithwir wedi dychwelyd yn ôl i hyfforddiant wyneb yn wyneb yn
ddiweddar ar ôl i fesurau cyfyngiadau symud gael eu llacio. Dywedodd
Is-gomander Tim Williams mai hwn oedd ei gyfarfod cyntaf ers cymryd lle Ruth
Fleming yn yr haf. Amlinellodd hefyd
gyfraniad milwyr wrth gefn y llynges wrth gynorthwyo'r GIG a hefyd bod
hyfforddiant wedi symud ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud ond ei fod wedi
ailgychwyn ar ffurf wyneb ym mis Medi yn Nhŷ John Chard. Dywedodd fod y
niferoedd a ddaeth wedi bod yn dda iawn a'r gobaith yw y byddent yn cynyddu pan
fyddai’r prifysgolion yn dychwelyd yn y man.
Amlinellodd y cyswllt rhagorol sydd ganddynt â'r prifysgolion yn
Abertawe. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Adroddodd Grace
Halfpenny fod problemau digartrefedd wedi dod yn fater o bwys ac yn destun
pryder yn ystod y cyfyngiadau symud. Cyfeiriodd at
ganllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ac
amlinellodd ei bod wedi rhannu cymaint o wybodaeth/erthyglau/cyngor â phosibl
yn ystod y cyfnod, a drosglwyddwyd gan Aelodau'r panel i'w cysylltiadau, a oedd
i'w groesawu fel enghraifft wych o gymorth rhwydwaith ar draws y rhanbarth. Amlinellodd fod
rhan o araith y frenhines yn cynnwys ac yn cyfeirio at gyn-filwyr gan roi mwy o
gydnabyddiaeth iddynt, ac roedd hyn i'w groesawu'n fawr ond y gobaith yw y
caiff rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut y byddai hyn yn datblygu yn y
dyfodol yn cael eu rhoi dros y misoedd nesaf.
Fodd bynnag, nodwyd y dylid bod yn ofalus wrth wrando ar unrhyw
gyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU neu'r Weinyddiaeth Amddiffyn
ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon, gan fod yr holl faterion dan sylw wedi'u
datganoli i Lywodraeth Cymru. Felly, bydd deddfwriaeth benodol sy'n berthnasol
i ni yma yng Nghymru maes o law. Amlinellodd y
penodwyd swyddog newydd i gefnogi plant personél y gwasanaeth mewn ysgolion yn
ddiweddar a bydd yn gyfrifol am yr ardal sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd
Port Talbot a Gorllewin Cymru. Dywedodd ei bod
wedi cyflwyno’i hadroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ac y byddai'n ei
ddosbarthu i aelodau'r panel ar ôl y cyfarfod. Cyfeiriodd hefyd
at daflen wybodaeth y byddai awdurdodau lleol yng Nghyngorau
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ei dosbarthu'n fuan i bob aelwyd sy'n
ymwneud â gwybodaeth am COVID-19. |
|
Cynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Cyhoeddodd Finola
Pickwell fod dau lwybr arall ar gyfer cyfleoedd ariannu drwy lwybrau cadarnhaol
wedi'u cyhoeddi yn yr haf i gynorthwyo cynlluniau menter iechyd meddwl. Dywedodd fod 10
o'r 23 prosiect cychwynnol a gyflwynwyd wedi symud ymlaen drwy'r rownd gyntaf o
geisiadau am gyllid a byddai'n gweithio gyda'r cyrff amrywiol i'w cynorthwyo. Dywedodd fod 3
phrosiect lleol wedi bod yn llwyddiannus mewn rowndiau blaenorol, sef y rheini
gyda Dinas Abertawe, Rygbi'r Gweilch a 65 Degrees North. Mae gan gyfle
arall am arian ar gyfer cynlluniau sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael ag
unigrwydd ddyddiad cau ym mis Rhagfyr. Roedd rhagor o
arian hefyd ar gael ar gyfer cynlluniau sydd â'r nod o fynd i'r afael â
hunanladdiad a chamddefnyddio sylweddau ac amlinellodd ei bod yn hapus i roi
unrhyw gymorth a chyngor i unrhyw sefydliadau a chanddynt syniadau posibl ar
gyfer prosiectau. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Amlinellodd
Jackie Davies mai dyma oedd ei chyfle cyntaf i ddod i gyfarfod y panel a
diolchodd i'r Cadeirydd am y cyfle i ddod a chyfrannu. Dywedodd nad oedd
llawer o'r materion a godwyd gan y panel hwn yn flaenorol wedi'u datrys eto yn
anffodus o ganlyniad i bandemig COVID-19 a'i effaith
enfawr ar y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, ond rhoddodd y diweddaraf i'r
panel am yr eitemau canlynol. Amlinellodd fod y
bwrdd iechyd yn bwriadu mabwysiadu cynllun peilot a ddatblygwyd gan fwrdd
iechyd Aneurin Bevan a fu’n llwyddiannus wrth ymwneud â phlant y lluoedd arfog
a oedd yn profi problemau iechyd meddwl. Dywedodd fod
cefnogaeth y Groes Goch i bobl sy'n gadael yr ysbyty wedi'i hadfer a bod y
cynllun yn bwriadu cael ei ehangu. Roedd hyrwyddwr y
lluoedd arfog sy'n gweithio mewn wardiau yn gobeithio cael ei ddatblygu
ymhellach wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio. Dywedodd fod cyfarfodydd
Fforwm Iechyd y Lluoedd Arfog yn amlwg wedi'u gohirio yn ystod COVID-19 ond eu
bod wedi ailymgynnull ym mis Awst, ac roedd y cyfarfod wedi mynd yn dda iawn.
Amlinellodd y Cadeirydd ei bod wedi mynd i’r cyfarfod hwn ac adleisiodd a
chefnogodd y sylwadau am y cyfarfod. Roedd yr ysbytai
maes a ddatblygwyd gyda'r awdurdodau lleol wedi bod yn enghraifft wych o
gydweithio a diolchodd i'r nifer mawr o gyn-filwyr a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd
am eu cymorth a'u harbenigedd wrth ddatblygu'r cyfleusterau hyn. Amlinellodd fod y
gwasanaeth ar gyfer trychedigion wedi parhau gyda
llai o staff yn ystod y pandemig a bod y presenoldeb
bellach wedi cyrraedd oddeutu 70% yn dilyn ailagor yr adeilad ym mis Mehefin. Dyfarnwyd arian
ychwanegol yn ddiweddar i’r gwasanaeth trychedigion,
felly dylai hyn helpu i ddatblygu'r gwasanaeth ymhellach yn y dyfodol. Cyfeiriodd at y
gwasanaethau parhaus sydd ar gael i gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl a
manylodd ar y niferoedd a oedd yn mynd iddynt. Dywedodd y
byddai'n dosbarthu diweddariad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. PDF 319 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y diweddariadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â'r gweithdrefnau
newydd ar gyfer cyfarfodydd a chyfeiriodd atynt a diolchodd i'r sefydliadau
hynny am wneud hynny a werthfawrogir yn fawr. Gofynnodd a allai rhagor o gyrff
gyflwyno’u hadroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd 'ar-lein' y dyfodol
gan y bydd yn fuddiol wrth gynnal y cyfarfodydd 'ar-lein'. Cafwyd cyflwyniadau
ysgrifenedig a ddosbarthwyd gyda phapurau'r agenda gan Help for Heroes, Blesma, Cyngor ar Bopeth, The Poppy Factory, Woody's Lodge a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe Cyn-filwyr GIG Cymru. Rhoddwyd
diweddariadau pellach hefyd i gefnogi'r adroddiadau ysgrifenedig yn y cyfarfod
gan Woody's Lodge, The
Poppy Factory a GIG Cyn-filwyr Cymru a rhoddwyd
diweddariadau llafar yn y cyfarfod gan Rygbi'r Gweilch ac Action on Hearing Loss.
|