Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

71.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

72.

Cofnodion. pdf eicon PDF 298 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

 

73.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Adroddodd Grace Halfpenny ei bod wedi cyfarfod â Rhwydwaith Lluoedd Arfog Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf.  Trafodwyd Strategaeth y Lluoedd Arfog sy'n cael ei chwblhau gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd, ynghyd â rhai agweddau ar y strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru'n ymdrin â hwy drwy eu pwerau datganoledig. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law.

 

Yng nghyfarfod Rhwydwaith y Lluoedd Arfog, rhoddwyd cyflwyniad gan gynrychiolydd Veteran’s Gateway a oedd yn amlinellu'r gwasanaethau maent yn eu darparu drwy eu hymagwedd 'siop dan yr unto'. Amlinellodd fod atgyfeiriadau drwy'r Veteran’s Gateway yn Abertawe yn un o'r isaf ar gyfer unrhyw ardal cyngor yng Nghymru.

 

Trafododd aelodau'r panel yr ystadegau atgyfeirio ac amlinellwyd bod y niferoedd isel yn yr ardal yn fwy tebygol o fod oherwydd y swm cynhwysfawr o wybodaeth sydd eisoes ar gael ar wefan y Cyfamod yn Abertawe, y cysylltiadau da a'r grwpiau/sefydliadau rhagweithiol yn yr ardal hon a'r ffaith bod Veteran’s Gateway yn wasanaeth 'atgyfeirio/cyfeirio' yn unig ac nid yn ddarparwr gwasanaeth go iawn, yn hytrach na diffyg gwybodaeth cyn-filwyr am y gwasanaeth hwn yn ardal Abertawe. Awgrymodd Grace y gellid gwahodd Veteran’s Gateway i roi cyflwyniad yn un o gyfarfodydd y panel yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd hefyd at y fenter i alluogi grwpiau ieuenctid lleol i fynd i 'Saliwtiau Gynnau Brenhinol' yng Nghaerdydd. Gallai hyn gynnwys cymorth gyda chludiant a thaith o gwmpas yr amgueddfa yng Nghastell Caerdydd. Dywedodd y gallai drosglwyddo manylion grwpiau â diddordeb os oes angen.

 

Adroddodd hefyd am y cyfarfod yr oedd wedi mynd iddo gyda phenaethiaid Abertawe a oedd wedi codi proffil plant milwyr mewn addysg. Byddai'n cwrdd ag ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fuan i drafod yr un mater. Roedd Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi llwyddo yn ei gais am arian gan Lywodraeth Cymru i gyflogi dau aelod o staff i gynorthwyo'n benodol â materion sy'n effeithio ar blant milwyr, ac anogodd gynghorau eraill i archwilio'r cyfleoedd ariannu. Byddai cyswllt yn cael ei gynnal bellach ag ysgolion i sicrhau bod y gefnogaeth orau bosib ar gael i blant o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

 

Roedd wedi gofyn am wybodaeth hefyd gan aelodau'r cyfamod ynghylch eu cynlluniau ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog/Diwrnod VE a diwrnod VJ.

 

Amlinellodd Anna Looker gynlluniau'r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer digwyddiadau amrywiol ledled y wlad ar gyfer diwrnod VE/VJ a dywedodd y byddai'r Lleng, yn dilyn llwyddiant darparu cludiant a llety a alluogodd cyn-filwyr i fynd i Ffrainc i ddigwyddiad coffáu 75 o flynyddoedd ers D-Day y llynedd, yn trefnu i'r cyn-filwyr ymweld â de-ddwyrain Asia. Gofynnodd am fanylion unrhyw bobl a allai fynd o bosib.

 

Amlinellodd David Price Deer na fyddai'r cyngor yn cwblhau ei gyllideb tan 5 Mawrth, felly hyd yn hyn, nid fu modd neilltuo arian ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau i goffáu diwrnod VE/VJ.

 

Dywedodd ei fod yn deall y bwriedir cynnal gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair ar y dydd Sul agosaf i ddiwrnod VE ac y gellid cysylltu digwyddiad posib â hyn.

 

Amlinellodd fod yr awdurdod yn ystyried cyflwyno cais am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal Diwrnod Lluoedd Arfog Cenedlaethol Cymru yn Abertawe. Byddai'r cais yn cael ei gyflwyno ar y sail y cynhelir y digwyddiad ar yr un penwythnos â'r sioe awyr.

 

74.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Amlinellodd Grace Halfpenny gyda siom na wnaed unrhyw gynnydd hyd yma o ran cynrychiolydd o'r bwrdd iechyd yn mynychu cyfarfodydd panel. Byddai'n parhau i fynd ar drywydd hyn gyda'r bwrdd.

 

Byddai hefyd yn mynd i gyfarfod nesaf y Bwrdd Iechyd ac yn parhau i gysylltu â'r bwrdd ynghylch sawl mater gan gynnwys atgyfeiriadau plant y Lluoedd Arfog i'r rheini â phroblemau iechyd meddwl a thynnu cefnogaeth y Groes Goch i bobl sy'n gadael yr ysbyty.

 

Byddai hefyd yn dilyn trywydd yr awgrym i gael Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar bob ward.

 

75.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Rhoddodd Anna Looker grynodeb o'r wybodaeth o adroddiad a chynhadledd flynyddol y Lleng. Amlinellodd yr ymgyrchoedd a'r mentrau amrywiol yr oedd y sefydliad wedi ymwneud â hwy dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys coffáu 75 mlynedd ers D-Day, Gwasanaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac amrywiol ddigwyddiadau Dydd y Cofio.

 

Amlinellodd y cafwyd cadarnhad y bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiwn am y 'gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog'.

 

Cyfeiriodd at y cynlluniau ar gyfer digwyddiadau coffa diwrnod VE a VJ gan ddweud y bydd y Lleng yn 100 oed ym mis Mai 2020 ac y bydd amrywiol ddigwyddiadau i goffáu hyn.

 

Amlinellodd yr adolygiad mewnol a'r archwiliad cyfredol mewn perthynas â'r Lleng.

 

Cyfeiriodd at y swydd rhan-amser sef swyddog cyngor a gwybodaeth yng Nghaerfyrddin a oedd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

 

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Amlinellodd Fiona Jones y digwyddiad 'hunangyflogaeth' a gynhelir yng Ngwesty'r Grand ar 27 Chwefror.

 

Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Adroddodd Adrian Rabey, yn dilyn cyfarfod diweddar gyda Llywodraeth Cymru, y cytunwyd bellach ar gyllid i sefydlu dwy ganolfan yn Abertawe a Chasnewydd. Byddai'r rhain yn agor ym mis Chwefror ac yn darparu cymorth i gyn-filwyr a'u teuluoedd sy'n chwilio am gyfleoedd hyfforddiant a gwaith.

 

Cyfeiriodd at y cysylltiadau gwych a ddatblygwyd gyda Gyrfa Cymru o ran hyfforddiant/cyflogaeth etc. a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan o ran strategaeth cyn-filwyr. Mae'n bosib y caiff strategaeth y Bwrdd Iechyd ei defnyddio fel templed ar gyfer yr holl fyrddau iechyd yn y dyfodol ac maent yn cysylltu â chyn-filwyr a'u teuluoedd.

 

Amlinellodd y cysylltiadau a ddatblygwyd â'r YMCA yn Abertawe er mwyn i bobl ifanc allu cael cyllid ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.

 

Cyfeiriodd at y cysylltiadau a sefydlwyd yn ddiweddar â grŵp adeiladu Buckingham sef datblygwyr yr arena newydd yn Abertawe. Datblygwyd y cysylltiadau hyn ar y cyd â Chyngor Abertawe a byddant yn darparu pwnc cyfweliad gwarantedig i'r person â'r cymwysterau angenrheidiol.

 

Amlinellodd hefyd y broses a'r cymorth y gall cwmni eu darparu i gyn-filwyr a'u teuluoedd i drosglwyddo'r sgiliau a'r profiadau milwrol sydd ganddynt yn gymwysterau perthnasol i'w defnyddio.

 

Hafal

Amlinellodd Finola Pickwell fod cyllid/grantiau ar gael oddi wrth Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog am weithgareddau i gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd y gallai gynorthwyo ymgeiswyr posib â'u cyflwyniadau ac y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth berthnasol ar ôl y cyfarfod.

 

Materion Cyffredinol

Cyfeiriodd Wendy Lewis at y cyhoeddiad diweddar am gerdyn rheilffordd i gyn-filwyr a gaiff ei lansio'n swyddogol ym mis Tachwedd.

 

Amlinellodd Spencer Martin fod cyn-filwyr yn gallu defnyddio'r banciau bwyd amrywiol yn Abertawe, ac y gallai yntau gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau a darparu gwybodaeth lle bo angen.

 

Gofynnodd Grace Halfpenny am wybodaeth ynghylch y Gronfa Gyngor Sengl, a dywedodd Paul Thomas o Gyngor ar Bopeth y byddai'n ceisio gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf.