Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

64.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

65.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

66.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Capten Chris Evans at lwyddiant y digwyddiad Criw Croch a gynhaliwyd yn y Grange ym mis Mehefin, a dywedodd y byddai'r digwyddiad yn cael ei ailadrodd ym mis Mehefin 2020, gyda'r nod o gael dros 1000 o bobl ifanc i ddod iddo.

 

Dywedodd fod gwaith cynllunio a thrafodaethau ar gyfer y Sioe Awyr a Diwrnod y Lluoedd Arfog yn 2020 yn parhau gyda Thîm Digwyddiadau Arbennig y cyngor a sefydliadau partner eraill. Y nod yw gwneud yr arddangosiadau ar y tir yn fwy ac yn well nag erioed ac i babell fawr y cyfamod fod yno eto.

 

Amlinellodd y digwyddiad a gynlluniwyd gyda'r DVLA ar gyfer mis Gorffennaf 2020.

 

Amlinellodd hefyd fod y Gweilch yn bwriadu cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog yn eu gêm gartref ar 7 Rhagfyr, ond ni chafwyd y manylion llawn eto.

 

Cyfeiriodd at yr amrywiol ddigwyddiadau yr oedd yr uned wedi bod ynghlwm â hwy yn ystod cyfnod Dydd y Cofio.

 

67.

Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Grace Halfpenny at y ffaith bod CLlLC yn hyrwyddo'r prosiect sy'n ymwneud â'r uchod. Dywedodd ei bod hi a Millie Taylor o CLlLC yn bwriadu cwrdd â phenaethiaid cynradd ac uwchradd yn Abertawe i esbonio pwysigrwydd cynyddu ymwybyddiaeth o fater plant milwyr mewn ysgolion, a'u hanghenion a'u problemau arbennig hwy.

 

Dywedodd fod CLlLC yn gwneud cais am swyddog cefnogi rhanbarthol ar gyfer plant milwyr a fyddai'n gweithio yn yr ardal o Bort Talbot i orllewin Cymru.

 

Amlinellodd fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo yn ei gais am arian ar gyfer aelod o staff.

 

Dywedodd ei bod wedi cysylltu â'r bwrdd Iechyd ynghylch problemau pobl ifanc, yn enwedig o ran cefnogaeth iechyd meddwl.

 

68.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Dywedodd Grace Halfpenny ei bod ar fin anfon ei hadroddiad hanner blynyddol i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddai'n dosbarthu'r adroddiad wedi iddo gael ei gyflwyno.

 

Amlinellodd fod yr arian gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer ei swydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2020, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu'r swydd tan 2022. Ni fydd y trefniadau ariannu newydd yn cynnwys arian ar gyfer marchnata/hyrwyddo.

 

 

 

69.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Mynegodd Grace Halfpenny ei bod wedi gofyn eto a all y Bwrdd Iechyd anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd y panel. Ni fu'r cais hwn yn llwyddiannus hyd yn hyn.

 

Mynegodd ei bod hi ac aelodau eraill y panel wedi bod i gyfarfod diweddaraf Bwrdd Iechyd Lluoedd Arfog. Yn anffodus, nid yw presenoldeb gweithwyr iechyd proffesiynol wedi bod yn foddhaol. Cynigiwyd yr awgrym a drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf y panel ynghylch cael hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ym mhob ward.

 

Roedd hefyd wedi codi mater tynnu cymorth y Groes Goch i gleifion sy'n gadael yr ysbyty yn ei ôl, a'i effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty â'r Bwrdd Iechyd, ond nid oedd wedi cael ateb hyd yn hyn.

 

Roedd y Bwrdd Iechyd wedi llunio cylch gorchwyl yn ddiweddar ar gyfer materion y Lluoedd Arfog, a mynegodd y byddai'n dosbarthu hyn i aelodau'r panel.

 

Dywedodd y byddai'n e-bostio'r Bwrdd Iechyd i amlinellu siom y panel ynghylch diffyg presenoldeb gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn y cyfarfodydd amrywiol.

 

 

70.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Cyngor Abertawe

Amlinellodd David Price Deer fod gwaith cynllunio'n parhau ar gyfer y Sioe Awyr a Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 4/5 Gorffennaf 2020.

 

Dywedodd nad oedd cynlluniau wedi'u ffurfioli eto ar gyfer dathliadau Diwrnod VE oherwydd trafodaethau cyfredol am y gyllideb o fewn yr awdurdod.

 

Cyfeiriodd at y sylwadau/cwynion a dderbyniwyd ynghylch y materion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth Distawrwydd yn y Sgwâr a'r gwasanaeth wrth y senotaff. Amlinellodd, oherwydd natur y digwyddiad yn y sgwâr, ei fod bob amser wedi'i gynnal am 11am ar yr 11eg. Roedd yn hapus i drafod ymhellach yr opsiynau ar gyfer cynnal y digwyddiad hwn o bosib ar Sul y Cofio, gyda'r gwasanaeth o Lundain yn cael ei ddangos ar y sgrîn fawr. Bydd y gwasanaeth swyddogol wrth y senotaff yn parhau fel yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn cael ei gynnal am 11am ar yr 11eg.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Diolchodd John Williams i'r holl asiantaethau am eu cymorth wrth ddarparu'r gwasanaethau a'r digwyddiadau amrywiol sy'n ymwneud â Dydd y Cofio.

 

Dywedodd y byddai'r Lleng Brydeinig Frenhinol, fel rhan o ymgyrch yr Etholiad cyffredinol sydd ar ddod, yn ymgyrchu'r pleidiau gwleidyddol amrywiol ar faterion sy'n cynnwys ffïoedd visa ar gyfer cyn-filwyr y gymanwlad a diystyru taliadau iawndal fel incwm sy'n gysylltiedig â Threth y Cyngor a'r Budd-dal Tai.

 

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Cododd Dave Singletary fater ynghylch gallu cysylltu â sefydliadau amrywiol y tu allan i oriau swyddfa ac ar benwythnosau/gwyliau banc. Gofynnodd am rifau cyswllt i gynorthwyo'i sefydliad wrth helpu cyn-filwyr mewn sefyllfaoedd argyfwng.

 

Amlinellodd aelodau'r panel nad oes gan y mwyafrif helaeth o sefydliadau'r sector cyhoeddus rifau neu gysylltiadau y tu allan i oriau swyddfa erbyn hyn. Dywedwyd y gellir dod o hyd i lawer o wybodaeth ar-lein drwy wefannau amrywiol megis gwe-dudalen y Cyfamod, Dowis, Veterans Gateway, Swansea Info etc. Mae gan y Lleng Brydeinig ganolfan alwadau sy'n gweithredu ar benwythnosau hefyd.

 

 

 

Age Cymru

Amlinellodd Danielle Welsh fod y sefydliad yn parhau i wneud cynnydd â'u hymgyrch pensiynau i bobl dros 60 oed. Byddai'n dosbarthu'r wybodaeth ar ôl y cyfarfod.

 

Blesma

Adroddodd Thomas Hall am fater lle bu'n cynorthwyo cyn-filwyr yr oedd ei fudd-dal tai wedi'i atal yn sydyn yn dilyn problem â'i daliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cwrdd â Thomas a swyddogion perthnasol i drafod yr achos.

 

Dyfodol Barics Aberhonddu/Y fyddin yng Nghymru

Trafododd aelodau'r panel yn fyr y materion sy'n ymwneud â dyfodol y Fyddin yng Nghymru.

 

Dywedodd Capten Chris Evans eu bod yn aros am gadarnhad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch yr holl fater, ond mynegodd y byddai'r fyddin yn dal i gadw presenoldeb sylweddol yng Nghymru yn dilyn unrhyw newidiadau.