Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

 

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2018 yn gofnod cywir.

 

44.

Project 360, Gwasanaeth ar gyfer Cyn-filwyr. (Helen Shaw - Age Cymru)

Cofnodion:

Roedd Helen Shaw, Age Cymru, wedi dweud na fyddai'n gallu dod i'r cyfarfod oherwydd profedigaeth.

 

Gohiriwyd yr eitem tan y cyfarfod ym mis Mawrth.

 

45.

Clwb a Chanolfan Baffio Bulldogs. (Mal Emerson)

Cofnodion:

 

Nid oedd Mal Emerson yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Gohiriwyd yr eitem tan y cyfarfod ym mis Mawrth.

 

46.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau perthnasol.

 

Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cyfeiriodd Grace Halfpenny at gynllun grantiau newydd yn ymwneud â grantiau ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw adeiladau. Anfonwyd manylion o'r blaen at aelodau, ond byddai Grace yn ailanfon manylion ar ôl y cyfarfod hwn. 

 

Cyfeiriodd at fanylion cynllun i gefnogi cyn-filwyr D Day a oedd yn ymweld â Ffrainc yr oedd wedi'i gylchredeg yn ddiweddar.  Amlinellwyd manylion digwyddiad elusennau/ randdeiliaid/y 3ydd sector yn ogystal â menter ariannu'n ymwneud â cholli clyw i gyn-filwyr a aned cyn 1950, ynghyd â thaflen wybodaeth Llywodraeth Cymru a gylchredwyd yn ddiweddar. Caiff yr wybodaeth ei hailanfon at aelodau'r panel.

 

Cyfeiriodd hefyd at ffair swyddi ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle croesawyd cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru sef pecyn cymorth i gyflogwyr a llwybr i geiswyr swyddi.   

 

Dywedodd Adrian Rabey o'r Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig fod y bwrdd wedi bod yn rhan o ddylunio'r cymhorthion cefnogi cyflogaeth hyn.  

 

Dywedodd Grace y bydd yn anfon y rhain ymlaen at aelodau ac awgrymodd y dylid cyfeirio atynt mewn digwyddiadau cyflogaeth yn ardal Abertawe. 

 

Holodd aelodau ynghylch cynnwys presennol tudalennau'r cyfamod ar wefan y cyngor. Esboniodd Grace ei bod wedi cael trafodaethau â Spencer Martin am ddiweddaru'r tudalennau, a hefyd ynghylch cael ymagwedd fwy cyson at wybodaeth ar draws ardaloedd y 3 awdurdod lleol. 

 

Adroddodd Grace ei bod wedi bod mewn trafodaethau â rheolwyr Bwrdd Iechyd PABM ynghylch ailsefydlu Fforwm Cyfamod y Lluoedd Arfog. Byddai'r fforwm hwn yn canolbwyntio ar faterion iechyd yn unig, ond mae'n amlwg y byddai croesfgyfeiriadau rhwng y Bwrdd Iechyd a fforymau'r awdurdodau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  Mynegodd y byddai'n mynd i gyfarfodydd i gyfleu unrhyw faterion a nodwyd gan y panel hwn sy'n effeithio ar iechyd a lles er mwyn ceisio mwy o gydweithio. Byddai hefyd yn briodol i gynrychiolydd o'r Bwrdd Iechyd fynd i gyfarfodydd yr awdurdod lleol i weld y gefnogaeth ar gyfer blaenoriaethau iechyd a lles a nodwyd gan y Bwrdd Iechyd. Awgrymodd y dylai agendâu yn y dyfodol gynnwys eitem fel y gall cynrychiolydd PABM adrodd am hyn wrth y panel.

 

 

 

 

 

Y Gwasanaeth Prawf

Cyfeiriodd Clive Thomas at gynllun yr oedd wedi cael gwybod amdano'n ddiweddar i gyn-filwyr yng Ngogledd Iwerddon a oedd yn ymwneud ag anawsterau clywed. Byddai'n ceisio cael mwy o fanylion a'u cylchredeg i'r grŵp.

 

Dywedodd fod y gwasanaeth prawf yn newid y ffordd y mae'r sefydliad yn gweithio eto yn y misoedd i ddod a bydd ef a'i gydweithwyr yn ceisio nodi unrhyw gyn-filwyr y dônt i gysylltiad â nhw a'u cyfeirio i unrhyw wasanaethau a sefydliadau perthnasol.

 

The Poppy Factory

Cyfeiriodd Natalie McCombe hefyd at wedudalennau "Inform Abertawe" a'r ddolen ar-lein i wybodaeth Newid Cam.

 

Cyfeiriodd at fenter "Abertawe'n Gweithio" a mynegodd ei fod hefyd yn gyfleuster ar-lein defnyddiol i hyrwyddo materion sy'n ymwneud â'r Lluoedd Arfog. 

 

Amlinellodd fod gan ei sefydliad llwyth achos o 35 o gleientiaid, yr oedd 21 ohonynt yn weithredol ac 14 ohonynt mewn gwaith, ac roedd 50% o'r rhain hefyd yn gyn-filwyr ac yn gleifion y GIG.

 

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe

Cyfeiriodd Alex Baharie at y cyfleuster chwilio ar-lein o'r enw “Infoengine” sy'n manylu ar amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gael o'r sector gwirfoddol, y byddai'n cylchredeg y manylion ar ôl y cyfarfod.

 

Clwb Cyn-filwyr

Dywedodd Sandy Shaw fod y sefydliad wedi ehangu eto a'i fod bellach yn cynnal cyfarfodydd yn ardaloedd Glyn-nedd a Phenlan, a bydd yn ehangu i ardal Caerdydd yn y man. Cyfeiriodd at y cysylltiad mewn perthynas â hyfforddiant a sefydlwyd â Heddlu De Cymru.

 

Cyfeiriodd hefyd at y digwyddiadau sydd ar ddod ym Mharlwr yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas, y Plasty a The Wig and Pen.

 

 Blesma

Adroddodd Jason Suller fod y sefydliad yn parhau i weithio ar draws Cymru, gan gynnwys y rhaglen ddigidol newydd sy'n ceisio annog cyn-filwyr i fynd ar-lein.

 

Amlinellodd lwyddiant y cynllun “Generation X” sy'n cael ei ehangu i Gymru. Gyda'r cynllun hwn, mae trychedigion yn ymweld ag ysgolion ac yn trafod eu hamgylchiadau â phobl ifanc.

 

Amlinellodd lwyddiant cyfranogaeth dau o'i gleientiaid â thîm rygbi cadair olwyn y Gweilch.

 

Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Cyfeiriodd Adrian Rabey at y pecyn cymorth cyflogaeth y mae ei gwmni wedi bod yn rhan fawr o'i ddatblygiad, a dywedodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn ymddangos fel pe bai'n ystyried y syniad ar gyfer cyn-filwyr.

 

Dywedodd, o'r cyllid a ddyfarnwyd y llynedd o'r Cyfamod, fod rownd gyntaf y sesiynau hyfforddiant wedi cychwyn. O'r 10 ar y cwrs, mae gan 3 leoliadau'n barod ac mae 5 wedi sicrhau cyfweliadau.

 

Manylodd gysylltiadau'r sefydliad â Phrifysgol Llundain/South Bank i gyn-filwyr ychwanegu at eu cymwysterau a chyflawni gradd Meistr. Cyfeiriodd hefyd at y cysylltiadau sy'n cael eu datblygu â PCYDDS.

 

Dywedodd y byddai'r sefydliad yn ceisio cyflwyno cais am gyllid dan gynllun gwobrau newydd y cyfamod sy'n ymwneud ag adeiladau.

 

 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Adroddodd Paul Osborne fod y brifysgol bellach yn agos iawn at ymrwymo i'r cyfamod.

 

Amlinellodd fod y wefan wedi'i diweddaru bellach i ddangos yr holl gyrsiau sydd ar gael.

 

Y Gweilch

Cyfeiriodd Nick Lockley at ddigwyddiad diweddar y Lluoedd Arfog yn y gêm yn erbyn Stade Francais yr oedd 196 o bobl o sefydliadau amrywiol yn bresennol yno, yn ogystal ag arddangosfeydd a stondinau recriwtio amrywiol. Byddai'r digwyddiad yn cael ei ailadrodd eto mewn gêm y tymor nesaf.

 

Cyfeiriodd at y ffaith bod cyn-filwyr yn cael mynediad am ddim i gemau gyda chardiau'r lluoedd arfog, a dywedodd y byddai'n ymchwilio'n fwy i'w hargaeledd i bersonél y Lluoedd Arfog sy'n dal i wasanaethu.

Cyfeiriodd at y cysylltiadau gwych yr oedd gan y Gweilch ag ysgolion y gellid eu defnyddio o bosib ar gyfer prosiect Generation X.

 

Y Llynges

Amlinellodd Ruth Fleming fenter y Llywodraeth sy'n ymwneud â chardiau personél y Lluoedd Arfog. Dywedodd ei bod hi'n deall y byddai cardiau cyn-filwyr bellach yn cael eu torri yn hytrach na chael eu tynnu oddi ar bobl pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog.

 

Cadeirydd

Dywedodd June Burtonshaw ei bod hi'n parhau i weithio gyda sefydliadau amrywiol ar faterion tai.

 

Amlinellodd fod posibilrwydd yn y dyfodol o ehangu'r digwyddiad blynyddol a gynhelir yn ystod gêm gartref yr Elyrch i gyn-filwyr.

 

Cyfeiriodd at y fenter “Borrowbox” yn Llyfrgelloedd Abertawe, lle mae llyfrau llafar ar gael am ddim.

 

Ceisiodd farn y panel ar amlder cyfarfodydd ac roedd y panel yn hapus i gwrdd bob chwarter o hyn ymlaen.

 

Dywedodd y byddai'n cwrdd â swyddogion perthnasol i drafod a chynllunio eitemau'r agenda ar gyfer cyfarfodydd y panel yn y dyfodol.