Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2017 yn gofnod cywir.

 

31.

The Poppy Factory.

Cofnodion:

Rhoddodd Natalie Mccombe o'r Ffatri Babïau gyflwyniad llafar i'r panel a oedd yn amlinellu ei rôl fel cynrychiolydd rhanbarthol ar gyfer y sefydliad dros dde-orllewin Cymru.

 

Amlinellodd hanes cefndir sefydlu'r sefydliad, a'i brif nod yw helpu cyn-filwyr â materion iechyd i ddychwelyd i'r gwaith. Gall y sefydliad gynorthwyo cyn-filwyr gyda materion megis llunio CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad, dod o hyd i ffrydiau cyllido a'u trefnu a chefnogaeth yn y gwaith yn ystod y 12 mis ar ôl iddynt gael cyflogaeth.

 

Cyfeiriodd at y cysylltiadau da sydd gan ei sefydliad â grwpiau ac elusennau sy'n cefnogi cyn-filwyr eraill ac mae ganddo hefyd berthynas ardderchog â'r GIG.

 

32.

EFT Consult.

Cofnodion:

Rhoddodd Adrian Matthews o EFT Consult gyflwyniad llafar i'r panel a oedd yn amlinellu cefndir defnydd ei gwmni o dechnoleg i ymdrin â materion a godwyd gan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Dywedodd fod "lles" wrth wraidd y busnes a bod 90% o'r gwaith yn gysylltiedig â gwella dyluniad/cynllun adeiladau a gwella dyluniad adeiladu'r dyfodol/dylanwadu arno. Amlinellodd yr "economi gylchog" a'r defnydd o dechnoleg i reoli a gwella bywydau.

 

Cyfeiriodd at y digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty ar 14 Mehefin a dywedodd fod y cwmni'n hapus i gwrdd â sefydliadau i drafod unrhyw faterion sydd ganddynt ac archwilio syniadau ar gyfer gwella.

 

33.

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad gan amlinellu'r arolwg sydd wedi cael ei lunio gan Ddinas a Sir Abertawe ac sy'n gysylltiedig ag amcanion ei Gynllun Corfforaethol.

 

Roedd copïau papur o'r arolwg ar gael ar gyfer aelodau o'r panel ac roedd yn bosib anfon y rhain yn electronig pe bai angen.

 

34.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau, gan gynnwys y meysydd canlynol:

 

Y Gweilch

Amlinellodd Paul Whapham y cyswllt sy'n cael ei ddatblygu gyda Help for Heroes ac URC a fydd, gobeithio, yn helpu cyn-filwyr i hyfforddi fel hyfforddwyr rygbi cymwys.

 

Dywedodd y byddai'r Gweilch unwaith eto'n cymryd rhan yn nigwyddiadau Dydd y Cofio ac yn cynnal "digwyddiad" y Lluoedd Arfog mewn gêm gartref a byddai manylion yn dilyn ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

 

Digwyddiadau Arbennig

Rhoddodd David Price-Deer y diweddaraf am lwyddiant y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog. Dywedodd fod defnyddio'r ffordd gerbydau ar gyfer arddangosiadau wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda'r cyhoedd.

 

Nododd nad yw dyddiadau'r digwyddiadau a gynhelir y flwyddyn nesaf yr un peth, felly bydd angen trafodaeth bellach cyn bo hir i gadarnhau trefniadau.

 

PCYDDS

Adroddodd Sue Warburton am y daflen newydd a luniwyd i gynyddu ymwybyddiaeth cyn-filwyr o argaeledd bwrsariaeth gwerth £1000 ar gyfer astudio a'i hamlinelli.

 

Cyfeiriodd at fenter Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n berthnasol i blant "gwasanaeth".

 

Dywedodd, er nad oedd y cyswllt arfaethedig â Help for Heroes wedi datblygu yng Nghaerfyrddin, erys cyfleusterau'r campws megis y gampfa, y pwll etc ar gael i'w defnyddio gan gyn-filwyr.

 

Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Dywedodd Adrian Rabey fod 147 o gwmnïau bellach wedi ymuno â'r cynllun sicrwydd o gyfweliad.

 

Dywedodd fod y cwmni wedi bod yn aflwyddiannus wrth gyflwyno cais am gyllid y cyfamod, ond roedd wedi derbyn adborth a chyngor pellach ar ei gynnig a bydd yn cyflwyno cais arall.

 

Aartic Training

Dywedodd Antony Rabey fod y cwmni wedi derbyn 4 cyn-filwr arall i gyflwyno ei gyrsiau a rhoi cyngor ar draws y wlad.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Adroddodd Phil Flower am restr o ddigwyddiadau amrywiol a fydd yn nodi canmlwyddiant ers diwedd yr Ail Ryfel Byd a'i dosbarthu.

 

Nododd ei fod wedi ysgrifennu i'r Elyrch a'r Gweilch i drefnu digwyddiadau yng ngemau cartref priodol.

 

Cyfeiriodd at gynnig y mae'n ei drafod â Chyngor Abertawe ar gyfer digwyddiadau amrywiol yn y ddinas megis goleuo adeiladau amlwg, gosod pabïau ar bolion lampau ac arddangosfa "llygad sy'n wylo".   

 

Dywedodd fod 2019 yn nodi canmlwyddiant ers ehediad trawsatlantig di-stop cyntaf Alcock a Brown, a digwyddiad a oedd yn cael ei drefnu yn ardal y Mwmbwls, y gobeithir y byddai'n cynnwys awyrennau'n "hedfan heibio".

 

Cyfeiriodd hefyd at Ganmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2021 ac amlinellodd gynigion drafft y byddai'n eu trafod â Chadeirydd y panel ac Arweinydd y Cyngor ar gyfer digwyddiadau amrywiol, a fydd o bosib yn cynnwys gorymdaith gyda phob uned y Lluoedd Arfog a oedd wedi derbyn rhyddid y ddinas.

 

 Blesma

Dywedodd Tom Hall fod ei sefydliad wedi derbyn swyddog allgymorth a fydd yn cynorthwyo wrth wneud eu gwaith achosion.

 

Gofynnodd i aelodau'r panel argymell eu gwasanaethau i unrhyw gyn-filwyr y gall fod angen cymorth arnynt.

 

Amlygodd gyfranogiad ei sefydliad yn natblygiad Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru.

 

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Cyfeiriodd Dave Singletary at y digwyddiad codi arian a gynhelir ar 4 Awst yn nhafarn The Twelve Knights ym Mhort Talbot.

 

Dywedodd y cynhelir diwrnod golff Cymdeithas y Milwr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd ar 10 Awst ar gwrs Coed y Mwstwr.

 

Dywedodd fod y gampfa awyr agored a'r ganolfan galw heibio Bulldogs bellach yn cael eu hadeiladu a chynhelir digwyddiad agoriadol ar 15 Medi.

 

Dywedodd fod croeso i bob aelod o'r panel ddod i unrhyw un o'r digwyddiadau.

 

Y Llynges

Amlygodd Ruth Fleming ei gwerthfawrogiad am yr holl waith ac ymdrech a wnaed gan bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog.

 

Cyfeiriodd at ddigwyddiad elusennol posib sy'n gysylltiedig â HMS Scott y gweithir arno ar hyn o bryd.

 

Y Ffatri Babïau

Adroddodd Natalie Mccombe am y digwyddiad a gynhelir i ddathlu'r cyflawniad o gael 1000 o gyn-filwyr i ddychwelyd i'r gwaith.

 

Y Fyddin

Talodd Chris Evans deyrnged hefyd i lwyddiant ac ymdrech pawb a gymerodd ran yn y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog. Dywedodd fod ei uned wedi recriwtio 20 o wirfoddolwyr newydd ac roedd 6 eisoes wedi dechrau.

 

Dywedodd y cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr ar ddyddiadau gwahanol yn 2019, felly bydd angen trafodaeth bellach ynghylch sut i ymdrin â'r digwyddiadau yn y modd gorau.

 

Cyfeiriodd at ddigwyddiad y Cyfamod yng Nghastell-nedd Port Talbot a drefnwyd ar gyfer 20 Hydref ac mae croeso i bawb ddod iddo.

 

Dywedodd ei fod yn hapus i gynghori/gynorthwyo unrhyw un sydd am gyflwyno cais am grant cyllid y cyfamod.

 

Dywedodd fod y cyngor, yn dilyn y wobr "arian" ddiweddar, wedi cyflwyno cais am y safon "aur" ac adroddir am ganlyniad hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyngor Abertawe

Diolchodd June Burtonshaw i'r holl Luoedd Arfog, y sefydliadau partner ac is-adrannau perthnasol y cyngor am eu cymorth wrth gyflwyno digwyddiad y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog, a oedd yn hynod lwyddiannus.

 

Cyfeiriodd at gystadleuaeth a gynhelir i blant ysgol ddylunio torch. Byddai'r enillydd yn cael gosod y dorch ar y Senotaff ar 11 Tachwedd.

 

Cyfeiriodd hefyd at ddadorchuddio meinciau coffa o gwmpas ardal y Senotaff.