Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Siambr - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr2017 yn gofnod cywir.

 

27.

Cyflwyniad - Blesma.

Cofnodion:

Rhoddodd Tom Hall, Swyddog Cymorth (Gorllewin) o Blesma gyflwyniad PowerPoint a oedd yn tynnu sylw at y pynciau canlynol:

·       Ei gefndir milwrol;

·       Hanes Sefydlu Blesma ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf   (mae’n un o 10 elusen yn unig sy’n bodoli o hyd o’r cyfnod hwnnw).

·       Prif nodau'r elusen yw cynorthwyo cyn-filwyr – dynion a menywod - sydd wedi colli coesau neu freichiau, (neu ddefnydd o goes/fraich) llygaid neu sy’n dioddef nam ar y golwg;

·       Cynllun y sefydliad a strwythur staffio:

·       Cenhadaeth a gweledigaeth;

·       Mathau o aelodaeth;

·       Meysydd arbenigedd a chymorth/cyngor sydd ar gael:

·       Rôl swyddogion cymorth rhanbarthol;

·       Ardaloedd daearyddol a gynhwysir;

·       Hunan-ariannu;

·       Gweithgareddau a digwyddiadau aelodau sydd ar gael;

·       Nifer yr aelodau, yr ymweliadau/gweithgareddau a gynhelir a'r grantiau a roddir.

 

28.

Y diweddaraf gan aelodau'r panel. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r panel y diweddaraf am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau priodol, gan gynnwys y meysydd canlynol:

 

CGGA

Cyfeiriodd Alex Baharie at gynllun grant Diwrnod y Lluoedd Arfog sy’n derbyn ceisiadau o hyd a nododd y byddai'n rhaeadru dolen i'r cynllun.

 

Clwb hen filwyr

Dywedodd Sandy Shaw fod cyfarfodydd rheolaidd "galw heibio" ar ddydd Llun a dydd Gwener ar fin dechrau yn y Schooner Inn yn Abertawe.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol/Y Llu Awyr Brenhinol

Adroddodd Phil Flower ar y gwahanol ddigwyddiadau a gynlluniwyd i goffáu 100 mlynedd y Llu Awyr Brenhinol, gan gynnwys cyngerdd Gala yn Neuadd Brangwyn ar 20 Ebrill a gwasanaeth eglwys yn y Santes Fair a gorymdaith o fwy na 400 o filwyr ar ôl hynny ar 22 Ebrill.

 

Tynnodd sylw at y trafodaethau parhaus â Chyngor Abertawe ynghylch digwyddiadau posib i goffáu 100 mlynedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys "goleuo" adeiladau, cae coffa, gorymdaith estynedig a digwyddiad ar Sul y Cofio. Ymgymerir â thrafodaethau pellach ar y cynigion â phartneriaid allweddol yn ystod y misoedd nesaf.

 

Nododd fod Apêl Pabïau 2017 wedi codi mwy na £111 mil yn Abertawe, y cyfanswm uchaf erioed.

 

Care after Combat

Nododd Rob Nicholls mai prif rôl y sefydliad oedd cynorthwyo cyn-filwyr yn y system gyfreithiol. Nododd eu bod yn gweithio'n dda gydag asiantaethau eraill i gynghori/gynorthwyo cyn-filwyr cyn ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau a dywedodd fod ganddynt gyfradd lwyddiant o 92% ddim yn aildroseddu o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau.

 

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Dywedodd Dave Singletary fod y gymdeithas yn parhau â'i llwyth gwaith arferol a chyfeiriodd at lwyddiant dawns SSAFA a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngwesty Traeth Aberafan, a gododd dros £1800.

 

 Blesma

Cyfeiriodd Tom Hall at fater ynglŷn â lleihau costau bathodynnau glas y bu'n ymgymryd ag ef yn Lloegr a oedd yn ymwneud â hen filwyr, a holodd a ellid gwneud rhywbeth tebyg yn lleol.

 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Nododd Eve Warburton fod y Brifysgol yn bwriadu ehangu ei chysylltiad â’r Cyfamod, ail-lofnodi'r cytundeb a cheisio sefydlu canolfan yng Nghaerfyrddin ar y cyd â Help for Heroes.

 

Help for Heroes

Nododd Amanda Thomas mai ond 6 wythnos y bu yn y swydd, a chyfeiriodd at y boreau coffi i'w cynnal yng nghampfa Bulldogs.

 

Y Llynges Frenhinol

Cyfeiriodd Ruth Fleming at ddigwyddiad Rhyddid y Ddinas ar gyfer HMS Cambria ar 17 Mawrth. Bydd Band y Môr-filwyr Brenhinol yn perfformio.

 

Cyfeiriodd hefyd at gêm rygbi Menywod y Llynges Frenhinol yn erbyn Prifysgol Abertawe a gynhelir yn San Helen.

 

Nododd ei bod hi'n hapus i gynorthwyo gyda “gweithlu” ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Nododd fod cyn-filwyr yn cael eu hannog i wisgo eu lifrai ar Ddydd y Cofio eleni.

 

Y Fyddin

Cyfeiriodd Chris Evans at y trafodaethau a'r cynlluniau parhaus ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr eleni, a gynhelir ar yr un penwythnos. Cyfeiriodd at faterion ynghylch codi baneri, pentref milwrol a digwyddiadau amrywiol dros y penwythnos.

 

Tynnodd sylw at y ffaith fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi newid mewn perthynas â gweithdrefn grantiau Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae holl geisiadau presennol wedi'u gohirio nes rhoi’r system newydd ar waith.

 

Cyfeiriodd at ddigwyddiad arall sydd yn yr arfaeth yn The Grange.

 

Cyngor Abertawe

Dywedodd Spencer Martin fod yr awdurdod yn parhau i weithio tuag at ddyfarnu gwobr safon aur y cyfamod.

 

Dywedodd June Burtonshaw ei bod hi'n parhau i weithio ar achosion unigol gyda SSAFA, a chyfeiriodd at y cynlluniau ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau posib ar gyfer Dydd y Cofio.