Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2017 yn gofnod
cywir. |
|
Help for Heroes. (Cyflwyniad) Shelley Elgin - Wales/Cymru - Help for Heroes Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
manwl ac addysgiadol gan Shelly Elgin (Rheolwr Adfer)
a Paula Mitchell (Cyswllt Clinigol Hen Filwyr) o Help for Heroes,
i'r panel ar fanylion cefndir a'r gwaith a wneir gan Help for Heroes yng Nghymru. Mae'r pynciau a
drafodwyd fel rhan o'r cyflwyniad yn cynnwys y meysydd canlynol: ·
Cefndir
sefydlu'r sefydliad; ·
Y
prif nodau ac amcanion; ·
Y tîm
yng Nghymru; ·
Canolfannau
adfer ar draws y DU, a chlinigau arbenigol sydd ar gael; ·
Digwyddiadau
chwaraeon wythnosol rheolaidd yng Nghasnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr,
posibilrwydd o ddatblygu cysylltiadau â rygbi cadair olwyn y Gweilch; ·
Cyrsiau
a dosbarthiadau amrywiol sydd ar gael; ·
Cynllun
Pathfinder; ·
Cymorth
a chyngor ar les ar gael (tai, cyflogaeth, budd-daliadau etc); ·
Prosiect
Band of Brothers/Sisters; ·
Cynllun
Cefnogaeth Seicolegol Hidden Wounds; ·
Gwasanaeth
Cyswllt Clinigol i Hen Filwyr newydd ei sefydlu; ·
Cysylltiadau
ariannu newydd gyda Hen Filwyr GIG Cymru ar gyfer therapyddion: ·
Problemau
gan nad yw hen filwyr yn cofrestru fel "hen filwyr"; ·
"mannau
problemus" Help for Heroes; ·
Meini
prawf cymhwysedd: Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad. |
|
Y diweddaraf gan aelodau'r panel. (Llafar) Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariadau ar lafar gan Aelodau'r Panel ynglŷn â'r gweithgareddau
presennol ac arfaethedig, digwyddiadau a llwythi gwaith eu grwpiau/sefydliadau
priodol, gan gynnwys y meysydd canlynol: Y Gweilch Dywedodd Paul
Whapham nad oedd y cais diweddar am arian ar gyfer y prosiect "sporting reminiscence" wedi
bod yn llwyddiannus, ond bydd mwy o waith ac ymchwil yn cael eu gwneud cyn
cyflwyno cais arall ar gyfer rownd ariannu yn y dyfodol. Cyfeiriodd at
ddigwyddiad y Lluoedd Arfog sy'n cael ei gynnal yng ngêm Clermont
ar 15 Hydref, a fydd yn cynnwys cadetiaid, milwyr wrth gefn, personél amrywiol
y gwasanaethau, waliau dringo, stondinau/arddangosfeydd etc. Hyfforddiant Aartic Dywedodd Antony
Rabey fod dros 2,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cyrsiau hyfforddiant
amrywiol. Mae'r cynllun
trosglwyddo sgiliau'n parhau i weithio'n dda gydag ailhyfforddi a rhoi sgiliau
newydd i gyn-bersonel y lluoedd. Cyfeiriodd at
gynllun newydd y mae'r sefydliad yn mynd i fod yn rhan ohono sef prosiect
Gwaith Tîm (Teamwork) a ariennir drwy arian Cynnydd
ac mae ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
(NEET). Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Dywedodd Adrian
Rabey ei fod wedi derbyn cyfres o ystadegau manwl yn ddiweddar ynghylch
niferoedd a lleoliadau cyn-filwyr yn ardal Abertawe. Dywedodd y byddai'n
rhannu'r wybodaeth ag aelodau'r panel. Dywedodd fod y
cynllun gwarantu cyfweliad yn parhau i dyfu gyda 24 cwmni bellach yn cymryd
rhan. Amlinellodd y
cefndir i ddatblygu cynllun Academi Cymunedol y Lluoedd Arfog a fydd,
gobeithio, yn cael ei ddatblygu drwy gyllid Cynnydd a fydd yn ceisio helpu pobl
ifanc i ddatblygu eu cysylltiadau â'r lluoedd arfog. Y Llynges Dywedodd Ruth
Fleming yr edrychir ymlaen yn eiddgar at y digwyddiadau amrywiol yng ngêm y
Gweilch ar 15 Hydref, lle cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a bydd amrywiaeth o
bersonél yn bresennol. Dywedodd hefyd y
bydd y Llynges Frenhinol yn cyflwyno pêl gêm yr Elyrch ar 4 Tachwedd, i
gyd-fynd â digwyddiadau Sul y Cofio. Dywedodd fod cyfres
o ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges yn cael eu
cadarnhau'n fuan a byddant yn cael eu rhannu ag aelodau'r panel. Cadeirydd Dywedodd y
Cynghorydd June Burtonshaw mai'r bwriad yw cynnal cynllun plannu 'pabïau' y
flwyddyn nesaf i gyd-fynd â choffáu 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf,
rhywbeth tebyg i'r cynllun llwyddiannus a gynhaliwyd rai blynyddoedd yn ôl. Dywedodd ei bod yn
parhau i helpu unigolion fesul achos pan ofynnir am gymorth gan aelodau'r
panel. Amlinellodd fod y
mater gyda'r polyn baner gobeithio, wedi'i ddatrys ac y byddai Sioe Awyr 2018
yn cael ei gynnal ar 31 Mehefin ac 1 Gorffennaf 2018. Gan mai diwrnod y Lluoedd
Arfog yw 30 Mehefin, byddai angen trafod ymhellach y ffordd orau i fwyafu'r cysylltiadau rhwng y ddau ddigwyddiad hyn er budd
pawb. Cymdeithas y
Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) Dywedodd Dave
Singletary fod ei sefydliad wedi colli gweithwyr achosion yn ddiweddar ac y
byddai'n croesawu unrhyw wirfoddolwyr newydd. Dywedodd fod y
prosiect Bulldog yn parhau i dyfu a gobeithio y bydd
yn meithrin cysylltiadau â Hen Filwyr y GIG a Help for Heroes
yn y dyfodol. Y Fyddin Adroddodd Chris
Evans am lwyddiant y ffair gyrfaoedd a gynhaliwyd yn y Grange
yn ddiweddar gan ddenu mwy na 40 o hen filwyr. Gobeithio bydd y digwyddiad yn
cael ei gynnal eto yn y dyfodol. Cyfeiriodd at y
prosiect sy'n cael ei ddatblygu gydag Hyfforddiant Aartic
a fydd yn defnyddio'r cyfleusterau yn y Grange dros
gyfnod o fisoedd. Dywedodd fod y
trefniadau angenrheidiol ar gyfer Gorymdeithiau Sul y Cofio yn eu lle. Age Cymru
Bae Abertawe Dywedodd Nicola
Russel-Brooks ei bod wedi cwrdd yn ddiweddar â chynrychiolwyr o HMS Cambria
ynghylch Cynllun Llety Woodies. Esboniodd y cynllun
cwrdd/cinio "unigrwydd" sydd ar gael yn Abertawe ac ym Mhen-y-bont ar
Ogwr ar ôl cael cyllid gan Tesco. Dywedodd gan fod yr
arian wedi'i dynnu yn ôl, byddai'r prosiect "bod yn gyfaill" yn dod i
ben ym mis Mawrth 2018, ond dywedodd y gallai ei sefydliad gyfeirio pobl i
gynlluniau tebyg eraill os byddai angen. Dywedodd fod
Cymorth i Fenywod Abertawe'n awyddus i gymryd rhan
gyda chefnogi pobl dros 50 oed a datblygu eu cysylltiadau â theuluoedd y
lluoedd arfog. Dywedodd mai dyma
ei chyfarfod olaf cyn iddi ymddeol. Heddlu De Cymru Dywedodd Dean
Thomas mai dyma ei gyfarfod cyntaf fel aelod o’r panel, a byddai ei brofiad a'i
farn yn adlewyrchu ei gefndir "dalfa" yn yr heddlu. Cyfeiriodd at y
cynllun sydd eisoes ar waith yn ystafelloedd y ddalfa lle mae hen filwyr yn
cael eu hannog gan y gweithwyr atgyfeirio arestio i
ddatgelu eu gwasanaeth blaenorol pan fyddant yn cael eu harestio, er mwyn cael
eu hatgyfeirio i sefydliadau megis Change Step. Amlinellodd y
cyswllt â phrosiect STOMP y Gwasanaeth Prawf. Dywedodd Dave
Singletary fod cyrsiau a phosteri ar gael i heddweision a gorsafoedd i annog
hen filwyr i ddatgelu. Prifysgol Cymru
y Drindod Dewi Sant Dywedodd Eve
Warburton fod y Brifysgol yn parhau i ddarparu cyrsiau i hen filwyr a phersonél
sy'n gwasanaethu fel ei gilydd. GIG Cymru i
Gyn-filwyr Dywedodd Victoria
Williams fod ei gwasanaeth wedi sicrhau £500k ychwanegol dros gyfnod o dair
blynedd a fydd yn ariannu 3 therapydd ychwanegol yn Abertawe, Castell-nedd a
Phen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd y byddai'n edrych i ddefnyddio ystafelloedd yn
lleol er mwyn galluogi staff newydd i weithio'n lleol. Dywedodd aelodau'r
panel efallai fod ganddynt ystafelloedd addas y gallai'r gwasanaeth eu
defnyddio a byddent yn trafod yr opsiynau yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd y byddai
staff newydd yn lleihau'r rhestr aros bresennol i oddeutu 3 mis. Cyfeiriodd ar y
cysylltiadau ardderchog â Help for Heroes gydag
atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaeth. Cyngor ar Bopeth Dywedodd Jackie
Preston fod ei gwasanaeth ar gael i roi cyngor ar faterion fel dyled ar gyfer
hen filwyr a phersonél sy'n gwasanaethu. |