Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Y Cyn-gynghorydd ACS (Tony) Colburn Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd gyda thristwch at farwolaeth y cyn-gynghorydd Tony Colburn, a oedd
hefyd yn aelod o'r Panel, ac a gynrychiolai'r Lleng Brydeinig Frenhinol (Cangen
y Mwmbwls a De Gŵyr). Safodd pawb a oedd
yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 25 Medi 2017 yn gofnod cywir. |
|
Y diweddaraf gan aelodau'r panel. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd
aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi
gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau, gan gynnwys y
meysydd canlynol: Y Llynges Adroddodd Ruth
Fleming y bydd cyfarfodydd y Rhwydwaith Teuluoedd Llyngesol yn dechrau ym mis
Mawrth. Dywedodd fod Adran Tawe wedi mynd i ddeg digwyddiad coffa. Y Fyddin Adroddodd Chris
Evans ei fod wedi bod i gyfarfod Cyfamod Cymru Gyfan yn Wrecsam yn ddiweddar.
Nododd y bu'r digwyddiad STOMP yn y Grange yr wythnos
diwethaf yn llwyddiant ac y byddai Diwrnod y Lluoedd Arfog yn 2017 ar yr un
diwrnod â'r Sioe Awyr, felly cynhelir digwyddiadau o gwmpas y Senotaff oherwydd y logisteg ar gyfer y penwythnos.
Dywedodd fod yr Adran wedi cymryd rhan mewn tair gorymdaith dros gyfnod y
cofio. Adroddodd fod Cyngor Abertawe wedi ennill gwobr arian yn ddiweddar mewn
seremoni yng Nghaerdydd a'i fod ef ei hun wedi dod yn ail yn y categori
personol. Digwyddiadau
Arbennig Crybwyllodd Nigel
Jones fod yr ail bolyn baner bellach yn ei le yn Sgwâr y Castell ar gyfer digwyddiadau
a gynhelir yno. Cyfeiriodd eto at drefniadau ar gyfer y sioe awyr a diwrnod y
Lluoedd Arfog lle cynhelir digwyddiadau o gwmpas ardal y senotaff.
Cyfeiriodd hefyd at y prosiect Nawr yr Arwr a fydd yn dechrau ym mis Medi. Y Lleng Dywedodd Anna Looker fod yr arweiniad
'Service Children in
Education' bellach ar gael ar eu gwefan, ac y byddai'n ddefnyddiol pe bai
aelodau'n gallu ei rannu a'i hyrwyddo. Dywedodd ei bod hi'n ymddangos y bydd yr
ymgyrch 'Count Them In' (Cyfrifwch Nhw) yn llwyddiannus os profir bod yr
adborth anffurfiol yn gywir, a bydd yn golygu y byddai'r cwestiwn sy'n ymwneud
â "Gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog" yn cael ei gynnwys yng nghyfrifiad
2021. Cyfeiriodd hefyd at ddigwyddiad "Y Bererindod Fawr" i Gât Menin yn Ypres a gaiff
ei gynnal i goffáu digwyddiad tebyg a gynhaliwyd 90 mlynedd yn ôl. Y gobaith yw
y bydd 2,000 o bobl yn mynd iddo, gyda chynrychiolwyr o bob cangen yn y wlad.
Cynhelir gweithgareddau codi arian i helpu i gynorthwyo gyda chost y daith i
gynrychiolwyr. Help for Heroes Adroddodd Shelly Elgin eu bod newydd benodi Amanda Thomas yn brif
weithiwr ar gyfer ardal y de-orllewin. Dywedodd hefyd eu bod hefyd wedi sicrhau
dros £500 mil o gyllid ar gyfer 7 aelod o staff cefnogi newydd a fydd yn
gweithio mewn cydweithrediad â Change Step. Heddlu De
Cymru Adroddodd Alison
Fisher fod swyddogion wedi mynychu digwyddiadau hyfforddi camddefnyddio
sylweddau, ac y dylai swyddogion mewn dalfeydd geisio nodi
"cyn-filwyr" ar bob cyfle. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Adroddodd Adrian
Rabey bod 22 o gwmnïau eraill wedi ymuno â'r cynllun sicrwydd o gyfweliad.
Nododd fod y ganolfan galw heibio yn Heol Eaton, Brynhyfryd yn parhau i fod yn
llwyddiannus, gyda Greggs bellach yn rhoi peth bwyd
ar gyfer digwyddiadau, ac mae croeso i holl aelodau'r panel fynd iddynt. Cymdeithas y
Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) Adroddodd Dave Singleton fod y gwaith achos y parhau i gynyddu a bod yn
fwy technegol, yn enwedig oherwydd y newidiadau diweddar i fudd-daliadau.
Dywedodd fod aelod newydd o staff wedi'i benodi'n ddiweddar a chanddo
arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â budd-daliadau/pensiynau, felly dylai
hyn fod o gymorth mawr i'r sefydliad. Amlinellodd y byddai dawns yr SSAFA yn
cael ei chynnal unwaith eto yn Ngwesty'r Aberavon
Beach ym mis Chwefror ac bod croeso i holl aelodau'r panel ddod iddi. Blesma Dywedodd Tom Hall
ei fod yn falch o fod yn mynd i'w gyfarfod cyntaf, ac amlinellodd brif ffocws
ei sefydliad wrth helpu cyn-filwyr heb goesau/breichiau ac aelodau eu teulu. Prifysgol Cymru
y Drindod Dewi Sant Dosbarthwyd
manylion bwrsariaeth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau yn y Brifysgol i
gyn-filwyr/Bersonél y Lluoedd Arfog. Dinas a Sir
Abertawe Rhoddodd Spencer
Martin fwy o wybodaeth am y wobr arian a enillwyd gan yr awdurdod yn y seremoni
Cyfamod diweddar yng Nghaerdydd, a dywedodd y byddai'r awdurdod yn parhau i
anelu at gyflawni'r wobr aur. Cyfeiriodd at gronfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar
gyfer cryfhau perthnasoedd mewn awdurdodau iechyd y mae Cyngor CNPT yn cydlynu
cais ariannu ar ei chyfer. Os bydd y cais yn llwyddiannus, byddai'n arwain at
benodi swyddog amser llawn yn yr ardal awdurdod iechyd PABM leol i gasglu data
perthnasol. Diolchodd y
Cadeirydd i Chris Evans am fynd i'r digwyddiad yn Wrecsam ar ei ran, gan ddweud
ei bod yn parhau i ymwneud ag achosion tai unigol lle gall gynorthwyo
sefydliadau ac unigolion. Dywedodd fod Cyngor Abertawe wedi cyflwyno pwyntiau
ychwanegol ar gyfer personél y lluoedd arfog/cyn-filwyr sy'n llwyddiannus. Soniodd am y posibilrwydd o
gynnal digwyddiadau'r flwyddyn nesaf i goffáu 100 mlynedd o'r Awyrlu Brenhinol,
ac y byddai mwy o fanylion yn dilyn maes o law.
Dywedodd hefyd y byddai Catrawd Frenhinol Cymru'n cael eu gwahodd i ddod
i gemau'r Elyrch yn Stadiwm Liberty ym mis Chwefror.
Amlinellodd yr adborth o Wasanaeth Dydd y Cofio a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes
Fair, gan ddweud bod yr Archesgob wedi nodi ei fod yn
awyddus i'r eglwys gymryd mwy o ran yn y cyfamod. |
|
Adrian Bailey, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe - Cydgynhyrchu. (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Adrian
Bailey, un o swyddogion datblygu CGGA gyflwyniad Powerpoint
manwl i'r panel a oedd yn ymwneud â mater cyd-gynhyrchu. Amlinellodd yr
hanes, y cyd-destun a'r egwyddorion sylfaenol a oedd wrth wraidd datblygu'r
syniad cyd-gynhyrchu, yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd o ran ymgynghori ac opsiynau
a phosibiliadau ar gyfer y dyfodol. Cyfeiriodd at y newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd o dan Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sydd mewn gwirionedd yn golygu y dylid
ymgynghori ag unrhyw un y mae newidiadau'n effeithio arno, yn enwedig ym maes
gofal cymdeithasol, ac y gallant hwy hefyd ofyn i fod
yn rhan o'r broses cyd-gynhyrchu . Dylai hyn olygu y dylid cyd-gynhyrchu'r holl gynlluniau a mentrau gyda
sefydliadau a phobl y mae eu canlyniadau posib yn effeithio arnynt. Dywedodd fod strategaeth cyd-gynhyrchu newydd yn cael ei datblygu ar hyn
o bryd gan Gyngor Abertawe, a bydd ei
nodau'n cynnwys ymgysylltu'n well â'r cyhoedd, yn enwedig y bobl hynny ag
anableddau a namau y byddai'r newidiadau i'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn
effeithio arnynt. |