Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cyflwyniad gan Aartic Training/Bwrdd Hyfforddi Prydeinig. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
llawn gwybodaeth i'r panel ynghylch gwaith Aartic Training a The British
Training Board gan Adrian Rabey. Sefydlwyd y cwmnïau
ganddo a'i frawd Antony yn 2014 yn dilyn diwedd eu gyrfaoedd yn y fyddin wedi
22 o flynyddoedd o wasanaeth. Roeddent wedi sylweddoli ar ôl eu rhyddhad nad oedd y cymwysterau yr
oeddent wedi eu hennill yn y fyddin yn drosglwyddadwy i'r farchnad lafur sifil
a gwelson nhw gyfle i sefydlu gwasanaeth pontio er mwyn cynnig cymorth i
gyn-aelodau'r lluoedd arfog wrth sefydlu eu hunain mewn cyflogaeth sifil. Nododd Adrian
gronfa dysgu uwch gan y Weinyddiaeth Amddiffyn y gall pobl fanteisio arni er
mwyn talu tuag at gostau cyrsiau, er bod rhaid iddynt wneud cyfraniad at yr
hyfforddiant. Mae gan y ddau gwmni dros 200 o gyrsiau erbyn hyn ar amrywiaeth
eang o weithgareddau cyflogaeth. Amlinellodd y cwmnïau amrywiol y maent yn
gysylltiedig â nhw er mwyn darparu cyfleoedd cyflogaeth. Dywedodd fod y cwmnïau’n cyflogi dros 1,800 o gyn-weithwyr o’r lluoedd
arfog erbyn hyn a'u bod newydd ennill "gwobr arian". Amlinellodd fod
canolfan galw heibio wedi'i sefydlu'n ddiweddar ar Heol Eaton, Trefansel ar y
cyd â SSAFA ac roedd croeso i aelodau'r panel fynd iddi. Nododd y byddai'n
ddiolchgar i aelodau'r panel os byddent yn hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am y
gwasanaethau a gynigir gan y ddau gwmni cymaint â phosib. |
|
Y diweddaraf gan aelodau'r panel. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariadau ar lafar gan Swyddogion ac Aelodau'r Panel ynglŷn â'r
gweithgareddau a’r digwyddiadau presennol ac arfaethedig, llwythi gwaith eu
grwpiau/sefydliadau priodol, gan gynnwys y meysydd canlynol. GIG Cymru i
Gyn-filwyr Adroddodd Victoria
Williams fod y gwasanaeth wedi derbyn 35 o atgyfeiriadau yn ddiweddar ond bod y
rhestr aros wedi lleihau i chwe mis yn awr. Amlinellodd y bu'r
digwyddiad Diwrnod Ymwybyddiaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Heddlu De
Cymru ar 6 Hydref yng nghanolfan y fyddin yn llwyddiannus a’u bod wedi derbyn
adborth ardderchog gan y rheiny a ddaeth iddo. Cyfeiriodd at y cysylltiad â Barnardo's a Military Families. Rhoddodd fanylion
hefyd am gynllun peilot sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth
ynglŷn â chymorth cyfreithiol a'i argaeledd i gyn-aelodau'r lluoedd arfog. Newid Cam Dywedodd Kev Bogdan fod y gwasanaeth yn brysur o hyd gyda rhwng 10 a 12 o
atgyfeiriadau'r mis. Nododd eu bod nhw wedi dechrau cymryd rhan mewn cynllun
yng Ngharchar Abertawe yn dilyn llwyddiant cynllun o'r fath yng Ngharchar y
Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Heddlu De Cymru Cyfeiriodd Alison Fisher at y prosiect "Cerdyn Ymweld Cadw'n
Ddiogel" sydd wedi'i gyflwyno. Nododd fod pob cyn-aelod o’r lluoedd arfog yn cael ei annog
i gofrestru ar ei gyfer. Gall fod yn gymorth
mawr wrth nodi cefnogaeth a chymorth addas i gyn-aelodau'r lluoedd arfog, yn
enwedig y sawl â phroblemau iechyd meddwl, PTSD etc, yn enwedig ar adeg eu
haestio. Nododd fod yr
heddlu'n annog meddygfeydd meddygon teuluol i gymryd rhan yn y cynllun a dywedodd
y byddai'n dosbarthu gwybodaeth i'r panel yn y cyfarfod nesaf. Age Cymru Bae
Abertawe Rhoddodd Nicola Russel-Brooks gyflwyniad ar ran y panel ar botensial ei
sefydliad hi i fod yn rhan o gais am gyllid gyda Chynghrair Henoed Cymru.
Nododd y byddai rhan fwyaf o’r cyllid posib yn cael ei ddefnyddio ar waith
adnewyddu yn Cambria ac yn cynllun y "Woodies". Dywedodd Steven Jones o'r Llynges Frenhinol
ei fod dan yr argraff y byddai Cambria yn cael ei wacáu yn y blynyddoedd nesaf
ac felly roedd yn ansicr beth gallai'r cefndir i'r cais fod. Cyfeiriodd at
amcanion amlinellol a sail elfen rhaglen ddigyfalaf y prosiect a dywedodd ei
bod wedi cael anhawster wrth gael gwybodaeth lawn ac, o ganlyniad, ei bod hi'n
ansicr a ddylai ymrwymo i gefnogi'r cynllun. Amlinellwyd a thrafodwyd amcanion
y cynllun a theimlai aelodau'r panel fod llawer o'r cynigion eisoes yn cael eu
gweithredu yn Abertawe ac y gallai arwain at ddyblygu gwaith ac felly nid oedd
hi’n gallu argymhell cefnogi'r cynllun. Prifysgol Cymru
y Drindod Dewi Sant Dywedodd John
Howells fod Cam 1 o'r gwaith adeiladu yn SA1 wedi cychwyn a disgwylir y bydd yn
cael ei gwblhau ym mis Medi 2018. Cyfeiriodd hefyd at gwrs gradd newydd ar
Reoli Gwestai y byddai’r brifysgol yn ei gynnal, gan ddosbarthu gwybodaeth
amdano. Byddai'r cwrs yn derbyn 3 myfyriwr y flwyddyn a byddai cyswllt profiad
gwaith cryf â Gwesty'r Marriott. SSAFA Estynnodd Dave
Singletary wahoddiad i holl aelodau'r panel i ddawns flynyddol y SSAFA yng
Ngwesty Traeth Aberafon ar 4 Chwefror 2017. Cododd y mater am
yr awdurdod yn cynnwys holiadur ar gefn ei holl ffurflenni sy’n ymwneud â
gwasanaeth milwrol. Rhaid i’r swyddogion ystyried y mater ac adrodd yn ôl. Dywedodd hefyd ei fod ar banel Castell-nedd Port Talbot a nododd y
manteision posib o gyfarfod neu ddigwyddiad ar y cyd rhwng y 3 phanel er mwyn
rhannu gwybodaeth, syniadau, arfer gorau etc. Croesawyd yr amgrwm gan aelodau'r
panel. Holodd hefyd
ynghylch "blychau" Age Concern a ddarparwyd yn flaenorol i bobl
hŷn at ddiben trefnu meddyginiaeth/manylion cyswllt y teulu ar gyfer achos
argyfwng a ph'un a oeddent ar gael o hyd. Nododd Nicola Russel-Brooks ei bod
hi'n meddwl bod y cynllun yn gweithredu o hyd ond y byddai'n sefydlu pwynt
cyswllt ac yn adrodd yn ôl. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Adroddodd Tony
Colburn fod digwyddiad Dydd y Cofio a gynhaliwyd yn y Mwmbwls wedi bod yn
llwyddiannus ac y cafwyd presenoldeb da. Er hynny, nododd fod ei gangen ef, fel
llawer eraill, yn cael anhawster wrth recriwtio gwirfoddolwyr gweithgar i
drefnu digwyddiadau. Y Llynges Cadarnhaodd Steve Jones o'r Llynges Frenhinol ei farn ef mai’r bwriad oedd
gwacáu'r Cambria dros y blynyddoedd nesaf i adeilad newydd ym Mae Caerdydd. Holodd hefyd
ynghylch y gost uchel i'r ganolfan o leoli'r cerbyd yng nghanol y ddinas ac yn ardal
Sgwâr y Castell. Gofynnodd y
Cadeirydd i ddymuniadau gorau'r panel gael eu trosglwyddo i'r Is-gomander Ruth
Fleming ar ôl genedigaeth ddiweddar ei merch. Cadeirydd Adroddodd June
Burtonshaw ar drafodaethau yr oedd wedi'u cynnal â’r arweinydd ynghylch sicrhau
cyllid ar gyfer gwaith y cyfamod ar gyfer digwyddiadau megis Diwrnod y Lluoedd
Arfog, Distawrwydd yn y Sgwâr a chefnogaeth ar gyfer defnyddio canol y ddinas
ar gyfer hyrwyddo'r lluoedd arfog a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer. Meddai y
byddai'n parhau i drafod cyllido â'r arweinydd. Nododd fod y cyngor
llawn yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr wedi cefnogi'n unfrydol y cynnig ynglŷn
â holiadur "Cyfrwch nhw" y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer y
cyfrifiad. Nododd hefyd ei bod wedi derbyn cefnogaeth i'r ymgyrch gan 2 AS
lleol. Aartic
Training/The British Training Board Ychwanegodd Adrian
Rabey at ei gyflwyniad cynharach drwy nodi bod eu sefydliad wedi cynnal cwrs
"lletygarwch" yn ddiweddar a bod pob un o'r pedwar cyn-aelod o’r
lluoedd arfog a’i fynychodd wedi cael cyflogaeth ers hynny. Cyfeiriodd hefyd at
ddigwyddiad codi arian diweddar yn Nhregŵyr yr oeddent wedi cyfranogi
ynddo a oedd wedi codi dros £1,400 o bunnoedd. Digwyddiadau
Arbennig Cyfeiriodd Nigel Jones at y "Distawrwydd yn y Sgwâr" llwyddiannus a gynhaliwyd ac a ddenodd bron i 1,000 o bobl, a chroesawodd waith y cadeirydd i sicrhau cyllid ar gyfer digwyddiadau'r cyfamod |