Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

56.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim.

57.

Cofnodion. pdf eicon PDF 137 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

 

58.

Heddlu De Cymru. (Rachel Pook)

Cofnodion:

Cyfeiriodd Rachel Pook at ei phenodiad diweddar i'w rôl fel Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu Heddlu De Cymru.

 

Amlinellodd ei chefndir yn y system cyfiawnder troseddol wrth iddi weithio i'r Gwasanaeth Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf.

 

Amlinellodd ei bod wedi derbyn tasg gan y Prif Gwnstabl i wella'r gwasanaeth a gynigir i gyn-filwyr sy'n mynd i'r ddalfa.

 

Roedd hi'n gobeithio cwblhau cyfeiriadur o gysylltiadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a swyddogion fel ei gilydd, y gellir ei ddefnyddio i gael gafael ar wybodaeth a chael cymorth os oes angen i gyn-filwyr oddi wrth sefydliad/elusennau. Nod arall wrth symud ymlaen yw gwella sgiliau staff mewn dalfeydd, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau gorfodol yn ymwneud â 'chyn-filwyr' wrth dderbyn pobl i brosesau dalfeydd.

 

Bydd yn rhannu'r cyfeiriadur maes o law i sicrhau ei gywirdeb a nododd ei bod ar gael i fynd i gyfarfodydd/ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chyn-filwyr pryd bynnag y gallai.

 

59.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Rhoddodd Finola Pickwell ddiweddariad i'r panel ar y meysydd canlynol:

 

Anfonwyd cynlluniau at Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Wendy Lewis, i gynnal cystadleuaeth gelf ar gyfer plant y lluoedd arfog, 'The Art of Being a Military Child' ac un i holl blant ysgol ledled awdurdod lleol Abertawe, 'The Art of D-Day', a fydd yn cynnwys naill ai darlun, paentiad, cerdd neu stori fer sy'n rhoi dehongliad y person ifanc o D-Day neu o fod yn blentyn milwrol.

 

Nododd bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddi gasglu gwybodaeth am unrhyw

ddigwyddiadau D-Day a Diwrnod y Lluoedd Arfog yn fy rhanbarth, gan eu bod am eu hychwanegu at eu cronfa ddata, felly os oes yw unrhyw un wedi cynllunio unrhyw ddigwyddiadau, a allent anfon eu manylion ataf. Armedforces@npt.gov.uk

 

Ar hyn o bryd, mae hi'n diweddaru'r cysylltiadau ar ei chronfa ddata a'r ardaloedd yng Nghymru y maent yn dymuno derbyn gwybodaeth amdanynt, felly pe gallech ateb yr e-bost a anfonais yn ddiweddar os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, hyd yn oed os ydych am ofyn i gael eich dileu, byddwn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr.

 

Rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog – Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog

Yn dilyn lansio'r Strategaeth i Deuluoedd ym mis Ionawr 2022, creodd y Weinyddiaeth Amddiffyn gronfa bwrpasol, sef 'Cronfa Teuluoedd y Lluoedd Arfog' (AF3). Mae'r rhaglen hon yn rhan o Gronfa AF3. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i weinyddu Cronfa AF3.

 

 

Cronfa Grantiau Cyfalaf Mawr - Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog

Bydd y rhaglen hon yn dyfarnu grantiau rhwng £75,000 a £500,000 tuag at brosiectau sy'n cefnogi gwaith adnewyddu sylweddol, gan gynnwys estyniadau ac adeiladau newydd, ar lety rhent a fydd yn cynnig cymorth o ansawdd uchel i gyn-filwyr y mae angen tai arnynt.

 

Rhaglen Grantiau Adnewyddu - Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog

Bydd y rhaglen hon yn dyfarnu grantiau o hyd at £75,000 tuag at brosiectau sy'n cynorthwyo i adnewyddu neu adeiladu estyniad ar lety rhent a fydd yn cynnig cymorth o ansawdd uchel i gyn-filwyr y mae angen tai arnynt.

 

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

Rhoddir £20,000-£25,000 dros 4 blynedd i fynd i'r afael â chanlyniadau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) o sefydliad cwmni The Leatherellers. Mae ar gael ar gyfer Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol yn unig a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan.

 

Sefydliad Cyn-filwyr - dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gyllid

·          30 Gorffennaf 2024 - penderfyniad ym mis Medi 2024

·          15 Hydref 2024 - penderfyniad ym mis Rhagfyr 2024

 

Atgoffodd bawb i gysylltu â'ch cymdeithas gwirfoddolwyr leol gan eu bod yn dal cronfa ddata o'r holl gyllid sydd ar gael ar gyfer gwahanol bethau, nid oes rhaid iddo fod ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yn unig i ni gael mynediad ato.

 

Mae rôl holl Swyddogion Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a hoffwn ddweud diolch i bob un ohonoch y mae'r gwerthuswr wedi cysylltu â nhw; mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bawb a dywedodd nad yw'n credu bod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli pa mor lwcus ydyn nhw bod gennym Swyddogion Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Nid yw'r Cyfamod Cymunedol a lofnodwyd gan lawer o bobl ynghyd â Chyngor Dinas Abertawe yn bodoli mwyach; cafodd ei ddisodli gan 'Gyfamod y Lluoedd Arfog' ddeng mlynedd yn ôl ac mae angen i bawb wneud eu haddewidion unigol a llofnodiCyfamod y Lluoedd Arfog dros eu hunain.

 

O ran  'Gwobrau'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr', unwaith y byddwch wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chytunwyd arno gan y cyfamod, rydych yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y gwobr Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.  Fodd bynnag, mae gwobrau Arian ac Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr wedi'u cynllunio wrth ystyried cyflogwyr yn fwy, gan gynyddu eu gwybodaeth a'u cefnogaeth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog.

 

Ar gyfer canghennau o sefydliadau mwy, byddai'n ofynnol i'r brif swyddfa neu'r lleoliad canolog wneud cais, ond i gael mwy o eglurder ynghylch hynny, cysylltwch â'r REED (Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol) Craig Middle: wa-reed@rfca.mod.uk

 

60.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Y Fyddin

 

Adroddodd y Capten Huw Williams, fel y mae wedi'i wneud mewn cyfarfodydd blaenorol, fod llawer yn digwydd, gan gynnwys lleoli personél i gefnogi un o addewidion y Llywodraeth i gyn-aelodau lluoedd diogelwch Afghanistan ac eraill a leolwyd dramor i gefnogi un o'r ymarferion NATO mwyaf sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Almaen ac yng Ngwlad Pwyl.

 

Mae llawer o gynllunio'n digwydd ar gyfer "Normandy 80", a darperir cymorth ar gyfer digwyddiadau yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot ac ar gyfer digwyddiad coffa'r DU yn Southsea. Mae'r gatrawd yn symud dramor ar gyfer astudiaeth maes cad ar ddechrau mis Mehefin i Monte Cassino, yr Eidal.

 

Cynhelir gwasanaeth eglwys ar 9 Mehefin 2024 yn Eglwys y Santes Fair i gofio D-Day a Normandi. Anfonwyd gwahoddiadau ar gyfer hwn gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

Ar 27 Mehefin, mae'r uned yn gweithio ar y cyd â'r Gweilch yn y Gymuned i gyflwyno digwyddiad a fydd yn cefnogi ysgolion a phlant lleol 14–15 oed. Disgwylir i dros 150 o blant fod yn bresennol.

 

Cynhelir digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Abertawe ar 29 Mehefin yn y Rotunda yn Neuadd y Ddinas (mae'r gwasanaeth yn dechrau am 11am), ond prif ffocws yr uned yw Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru 2024 a Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ar yr un pryd dros benwythnos 6-7 Gorffennaf, gan nodi Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn benodol ar 6 Gorffennaf.

 

Bydd llawer yn digwydd ar hyd glan y môr ar 6 a 7 Gorffennaf, felly mae croeso i bawb fynd yno a chefnogi unedau wrth gefn a lluoedd cadetiaid lleol y Lluoedd Arfog. Bydd llawer o adloniant a chodir Baner Diwrnod y Lluoedd Arfog am hanner dydd (i'w gadarnhau ar y cyd â hediad y Red Arrows) ar 6 Gorffennaf.

 

Mae pabell y cyfamod bellach yn llawn, ond mae lle ychwanegol ar gael o bosib os oes angen. Dylai grwpiau gysylltu â thîm Digwyddiadau Arbennig y Cyngor i wirio hyn.

 

Y Llynges Frenhinol

 

Nododd y Cynghorydd Andy Davies fod gwaith yn parhau i gefnogi Diwrnod Lluoedd Arfog Abertawe a Chymru a Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.

 

Byddai personél hefyd yn bresennol ar gyfer gorymdaith VE ar 5 Mai.

 

Y gobaith yw y bydd llong o'r Llynges Frenhinol yn cael ei lleoli yn Nociau Abertawe ar gyfer penwythnos y sioe awyr.

 

Nododd y bydd HMS Cambria yn derbyn ac yn ymarfer Rhyddid Abertawe ym mis Medi ac yn dathlu gyda gorymdaith sy'n cynnwys y Band y Môr-filwyr Brenhinol trwy ganol y ddinas i Lawnt Amgueddfa Genedlaethol y Glannau/yr Amgueddfa.

 

Amlinellodd hefyd yr hoffai gynnal digwyddiad yn Nhŷ John Chard gyda swyddogion dinesig lleol etc. i hyrwyddo'r gwaith sy'n digwydd gyda milwyr wrth gefn/cadetiaid yn Abertawe.

 

61.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Adroddodd Steve Spill fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ei gyfarfod Fforwm y Lluoedd Arfog diweddaraf ym mis Chwefror, ac roedd yn sesiwn dda arall lle roedd llawer o bobl yn bresennol.

 

Gwneir cynlluniau i gynnal bore coffi arall, gan fod yr un olaf wedi bod yn llwyddiant mawr.

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio tuag at y safon cyflogwr aur.

 

Adroddodd Victoria Williams fod 29 o bobl wedi cael eu hatgyfeirio i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr dros y 3 mis diwethaf, y mae 15 ohonynt wedi dewis defnyddio'r gwasanaeth. Yr amserau aros presennol yw 2 wythnos ar gyfer asesiad a 5 wythnos ar gyfer therapi.

 

Amlinellodd y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella cysylltiadau â chlystyrau meddygon teulu yn yr ardal. Y nod yw mynd i gyfarfodydd clwstwr meddygon teulu ac amlinellu manteision atgyfeiriadau i'r tîm.

 

Nododd os  yw pobl yn hunangyfeirio i'r gwasanaeth, mae 47% yn parhau i ymgysylltu yn hytrach na 36% os cânt eu hatgyfeirio gan feddygon teulu.

 

Mae gwasanaeth cerdded a siarad hefyd ar gael i bobl sy'n ei chael hi'n anodd mynychu'r clinigau go iawn, fel arfer ar hyd traeth Abertawe.

 

62.

Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth.

Cofnodion:

Ymddiheurodd y swyddog.

 

Caiff y diweddariad ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

63.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Blesma

 

Nododd Tom Hall nad oedd wedi gallu mynychu cyfarfod yn bersonol am gyfnod oherwydd pwysau gwaith.

 

Amlinellodd y gefnogaeth a'r gwasanaethau y gellir eu derbyn trwy ei sefydliad i gyn-filwyr a'u teuluoedd eto.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

 

Cyfeiriodd Phil Flower at Wasanaeth Eglwys D-Day a gynhelir ar 9 Mehefin yn Eglwys y Santes Fair. Mae lleoedd ar gael o hyd os oes angen.

 

Dyma un o'r unig ddigwyddiadau D-Day a drefnwyd yng Nghymru, felly dylai pawb sy'n cymryd rhan fod yn falch iawn.

 

Rhoddodd fanylion hefyd am y gwahanol ddigwyddiadau a gadarnhawyd o gwmpas cyfnod y Cofio, a ddosberthir ar ôl y cyfarfod.

 

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn parhau i weithio i gefnogi digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr.

Fighting With Pride

 

Amlinellodd Ruth Birch fod Swansea Pride wedi ymuno â'r Pride in Veterans Standard yn ddiweddar, ac mai dyma'r sefydliad Pride cyntaf yn y DU i ymuno ag ef.

 

Gall grwpiau/sefydliadau gysylltu â hi i gael help a chymorth wrth wneud cais am y safon.

 

CGGA

 

Amlinellodd Christina Christie fod ei sefydliad wedi sefydlu canolfan trafnidiaeth gymunedol a sefydlwyd i leddfu'r pwysau gan gynlluniau ceir cymunedol bach a gynhelir gan wirfoddolwyr.

 

Byddwn yn cefnogi gyda datblygiad cynlluniau newydd a phresennol, gan recriwtio gyrwyr gwirfoddol, rhoi hyfforddiant a chyfeirio at y cynlluniau.

 

Siaradodd â Wayne Jenkins, yr oedd angen cludiant arno i gyn-filwyr fynd i ganolfan cyn-filwyr Abertawe. Rydym yn awyddus i recriwtio gyrwyr gwirfoddol, sy'n rôl werth chweil, ac roedd hi'n meddwl y gallai cyn-filwyr fod â diddordeb mewn gwneud hynny, a gofynnodd a allai aelodau'r panel ledaenu'r gair gan y byddai'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.