Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2023 fel cofnod cywir. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Amlinellodd Caryn
Furlow-Harris (Cyngor CNPT) fod Bethan wedi symud i
swydd arall o fewn CNPT ddiwedd mis Mehefin.
Mae'r swydd
Swyddog Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi cael ei hysbysebu ac mae ceisiadau wedi eu
derbyn. Bydd rhestr fer yn cael ei llunio ychydig cyn y cyfweliadau. Rhoddir
diweddariad yn ystod y cyfarfod nesaf. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Rhoddodd Andy
Davies (y Llynges Frenhinol) ddiweddariad byr a dywedodd fod HMS Cambria wedi'i
ymestyn i 2033, sydd i'w groesawu. Cynhelir diwrnod cyswllt ar 31 Gorffennaf, a
byddai'r gwahoddiadau'n dilyn yn fuan. Amlinellodd fod y
gwasanaeth yn parhau i recriwtio ar gyfer swyddi rheolaidd ac wrth gefn. Cyfeiriodd at
gyfranogiad y gwasanaeth yn y digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yng
Nghasnewydd ac roedd yn edrych ymlaen at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf yn
Abertawe. Amlinellodd fod y
Cadeirydd wedi cael gwahoddiad i ddigwyddiad Cadetiaid Môr Abertawe heno, ac
amlinellodd fod recriwtio ar gyfer y cadetiaid wedi mynd yn dda yn ystod y Sioe
Awyr. Amlinellodd y
Cadeirydd fod y Capten Huw Williams dramor ar leoliad ac yn methu â mynychu'r
cyfarfod heddiw. Roedd wedi cyflwyno diweddariad, a fyddai'n cael ei ddosbarthu
yn dilyn y cyfarfod. Mae'r crynodeb
o'r diweddariad fel a ganlyn; Cynhaliwyd y cyfarfod Cymorth Milwrol diweddaraf ar 13 Mehefin 2023 lle
edrychom ar ddigwyddiadau i ddod sydd bellach wedi dod i ben, a'r meysydd a drafodwyd oedd: Mis y Plentyn Milwrol – 25 Ebrill 23. Cyflwynwyd y
digwyddiad yn ARC The Grange ar gyfer plant milwyr
mewn cydweithrediad â Thîm Ymgysylltu Rhanbarthol Y 160fed Brigâd. Roedd yn wych bod Arglwydd Faer Abertawe a Maer
Castell-nedd a Phort Talbot wedi gallu mynychu, ynghyd â'r Arglwydd Raglaw a'n
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Mrs Wendy Lewis. Cymerodd y plant ran mewn nifer o
weithgareddau a oedd yn cynnwys ysgrifennu barddoniaeth, ioga
ymwybyddiaeth ofalgar, datrys problemau a golwg hanesyddol ar fywyd yn ystod y
dyddiau a fu. Coroni'r Brenin – cynhaliwyd digwyddiadau lleol ar
30 Ebrill 2023 yng Nghastell-nedd ac Abertawe. Roedd hwn yn ddiwrnod arbennig
iawn, ac roedd yn wych bod cynifer o Bersonél y Lluoedd Arfog, Cadetiaid a
Chyn-filwyr wedi gallu mynychu'r gwasanaethau hyn. Diolch yn fawr iawn i bawb a
helpodd i drefnu, cyflwyno a mynychu'r diwrnod arbennig iawn hwn. Cynhaliwyd Diwrnod/Wythnos y Lluoedd Arfog rhwng 19
a 25 Mehefin 2023: 19 Meh yng Nghastell-nedd a Phort Talbot a dydd Sadwrn 24
Mehefin yn Abertawe. Unwaith eto, roedd hwn yn ddigwyddiad a gynrychiolwyd yn
dda, yn enwedig gan y gymuned Cadetiaid a Chyn-filwyr. Roedd Pibyddion y
Cadetiaid Awyr yn hollol wych, hoffwn ddiolch yn bersonol i'r unigolion ifanc
hyn. Cafodd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ei chyflwyno
rhwng 30 Mehefin a 2 Gorffennaf 2023. Roedd y torfeydd yn enfawr a chynhaliwyd
llawer o weithgareddau. Roedd gennym nifer o stondinau milwrol yno dros y
penwythnos. Digwyddiadau i ddod: Taith Gerdded Gŵyr Dug Caeredin, 9 Medi 2023.
Naill ai taith gerdded 22 milltir (dechrau yn Rhosili) neu daith 10 milltir
(Porth Einon) o amgylch rhan o'r arfordir mwyaf golygfaol yn y byd. Digwyddiadau Coffa 2023: Mae'r Lleng Brydeinig
Frenhinol yn gofyn am gymorth dros bythefnos Apêl y Pabi i helpu i gasglu a
gwerthu pabïau fel y gall yr LlBF barhau i wneud ei
gwaith rhagorol. Os hoffai unrhyw gyn-filwyr neu sefydliadau
cyn-filwr gynorthwyo, cysylltwch â'r Asgell-gomander Phil Flower neu rhowch
eich manylion i mi a byddaf yn eu hanfon ymlaen ato. 27 Hydref – Theatr y
Dywysoges Frenhinol, Gŵyl Goffa Port Talbot 28 Hydref 23 – Codi'r
Faner ac agoriad yr Ardd Goffa
4 Tachwedd - Gŵyl Goffa Neuadd Brangwyn 11 Tachwedd 2023: Pabïau
i Paddington – Gorsaf Drenau Abertawe – drwy wahoddiad yn unig. 11 Tachwedd 2023: Pabïau
yn y Sgwâr Abertawe (mwy o fanylion i ddilyn) 11 Tachwedd – Senotaff Abertawe, Ffordd y Mwmbwls – gorymdaith 10:30 12 Tachwedd – Port Talbot – 11:00 –
Sgwadron Trafnidiaeth 223 12 Tachwedd – Senotaff Abertawe 12 Tachwedd – Y Gnoll, Castell-nedd 12 Tachwedd – Eglwys y
Santes Fair – 14:00 Darparodd Catrawd 157, Sgwadron 223 gymorth i lawer o asiantaethau yn yr
ardal leol, ac roedd yn dda bod gofyn i ni gefnogi digwyddiadau fel diwrnodau
agored a darparu sesiynau gweithgareddau ar gyfer grwpiau lleol. Sylwer, nid
ydym yn 'dewis' pa sefydliadau neu asiantaethau a gefnogir gennym ond rydym
wedi ceisio cynorthwyo'r rhai a ofynnodd am ein help a'n cymorth. Mae sibrydion
am elusennau'r cyn-filwyr, bod gen i fy 'ffefrynnau' ac nid yw hyn yn wir. Sylwer hefyd, ni allwn ddarparu adnoddau milwrol heb gostau ar gyfer
gweithgareddau elusennol sy'n codi arian ar gyfer sefydliadau elusennol. Y sefydliadau y gellir eu defnyddio o
bosib yw'r cadetiaid, a dylai elusennau gysylltu'n uniongyrchol â nhw. Rydym hefyd yn ymgysylltu â grwpiau lleol eraill mewn perthynas â'u briffio
am yr hyn y mae'r Fyddin Wrth Gefn yn ei olygu a beth yw ein rôl. Mae hyn er
mwyn rhoi eglurder am ein rôl. Mae croeso i chi ein defnyddio ni os credwch y
gallwn ychwanegu gwerth. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Adroddodd
Victoria Williams fod 27 o bobl wedi cael eu hatgyfeirio
i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr dros y 3 mis diwethaf, y mae 21 ohonynt wedi
cael eu hasesu. Penodwyd therapydd
newydd a bydd yn dechrau ar ddechrau mis Hydref, sydd i'w groesawu. Mae Frankie,
myfyriwr nyrsio, wedi helpu yn ystod y cyfnod o golli therapydd gan ei bod, fel
rhan o'i gradd Meistr mewn Astudiaethau Nyrsio Iechyd Meddwl, wedi cynorthwyo'r
tîm ac wedi delio â chleifion cyn iddynt ddechrau eu therapi. Mae hyn wedi
helpu, a bydd yn parhau i helpu'n fawr nes bydd y person newydd yn dechrau. Roedd aelodau
eraill o'r Bwrdd Iechyd wedi cyflwyno ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, ond
roeddent wedi cyflwyno diweddariad a fydd yn cael ei ddosbarthu ar ôl y
cyfarfod. |
|
Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth. Cofnodion: Dywedodd Emma Reeves fod cyfarwyddiaeth addysg Llywodraeth Cymru wedi
ariannu'r holl dîm SSCE tan ddiwedd y flwyddyn academaidd yn 2024. Roedd hi a
chydweithiwr wedi mynychu'r Sioe Awyr ac wedi gweld llawer o bobl yn ystod y
digwyddiad, a oedd yn llwyddiant mawr, y gellir adeiladu arno'r
flwyddyn nesaf. Ei chynllun oedd
cael mwy o ysgolion i ymuno â'u statws Ysgolion sy'n Gyfeillgar i'r Lluoedd
Arfog. |
|
Cofnodion: Siaradodd Tony Strutt ymhellach am yr wybodaeth a ddosbarthwyd, a oedd yn
manylu ar gefndir sefydlu'r grŵp, sy'n ceisio defnyddio cyn-filwyr i
gefnogi prosiectau elusen/cymorth trychineb yn y DU a thramor. Os hoffai unrhyw
unigolion neu sefydliadau gymryd rhan, gallant anfon
e-bost ato yn info@v-aid.org.uk. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: So
Fit/Veterans RV Amlinellodd Phil
Jones ei fod wedi cefnogi Capten Huw ac Emma gyda'r digwyddiad Plant Milwrol yn
y Grange ym mis Ebrill, a fu'n llwyddiant mawr. Amlinellodd fod
ei sefydliad yn parhau i ddarparu sesiynau iechyd meddwl i blant milwyr yn
ysgolion Abertawe, ac mae'n ymddangos bod hyn yn gweithio'n dda a gobeithio y
bydd yn cael ei ehangu yn y dyfodol. Rhoddodd fanylion
am ddigwyddiad cysylltu â Phrifysgol Abertawe a ddatblygwyd i edrych ar
fanteision therapi dŵr oer i gyn-filwyr. Amlinellodd y byddai angen
gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r ymchwil wrth symud ymlaen. Diolchodd hefyd i
Gyngor Abertawe am y cymorth ariannol i'r grŵp nofio Veterans RV. Garrison
Farm Cyflwynodd Ross
Edwards aelod newydd o'r tîm, Chris Kelshaw. Nododd hefyd y
byddai'r fferm mewn sefyllfa i ddod â chnydau i'r farchnad i'w gwerthu yn fuan,
gobeithio. Cyngor
Abertawe Diolchodd David
Price Deer i'r holl sefydliadau am eu cymorth a'u cefnogaeth i gyflwyno Sioe
Awyr hynod lwyddiannus arall. Amlinellodd na ellid cyflawni'r digwyddiad heb eu
cymorth a'u hewyllys da. Ategodd Spencer
Martin y sylwadau ac amlinellodd y gwahanol bobl o bob cwr o'r wlad yr oedd
wedi siarad â nhw yn y Babell Cyfamod dros y penwythnos. Gobeithir cynnal
y Sioe Awyr ochr yn ochr â Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Abertawe'r
flwyddyn nesaf, felly gall y digwyddiad ond fod yn ddigwyddiad mwy a gwell. |