Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
To approve & sign the
Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a
gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Amlinellodd a
manylodd Neil Cornish a Mallika Singh ar y cynllun sy'n cael ei ariannu gan FiMT ar y cyd â Phrifysgol Northampton
a Nacro i geisio adolygu a gwella nodi cyn-filwyr yn
y system gyfiawnder a monitro’u defnydd o gefnogaeth ddilynol unwaith y cânt eu
nodi. Mae'r cynllun yn
cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban ac mae cam cenedlaethol o gyfweliadau wedi’i
gwblhau, ond ystyrir datblygu cam mwy lleol yn awr yn Abertawe a Phen-y-bont ar
Ogwr. Dywedodd eu bod
wedi cysylltu ag arweinwyr y Lluoedd Arfog yng
ngwasanaeth yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf lleol ac y bydden nhw'n
ceisio datblygu'r cysylltiadau hyn ymhellach. Cysylltwyd hefyd â Charchar
Abertawe a threfnwyd ymweliad yno ym mis Tachwedd. Gofynnodd i
unrhyw wirfoddolwyr o'r grwpiau a’r sefydliadau amrywiol o fewn y panel ddod
ymlaen i gael eu cyfweld. Gellir cysylltu â
hwy drwy e-bost ynNeil.Cornish@northampton.ac.uk a Mallika.Singh@nacro.org.uk |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Nid oedd Bethan
Dennedy yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, byddai diweddariad yn cael ei
ddosbarthu ar ôl y cyfarfod. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Adroddodd Capten
Huw Williams fod 3 mis prysur wedi bod ers y cyfarfod diwethaf gyda phob uned
filwrol yn yr ardal yn gweithio'n galed i ddarparu digwyddiadau a rhoi
cefnogaeth i ddigwyddiadau amrywiol. Cafodd llawer o bersonél milwrol eu defnyddio ar ymgyrch UNITY yn ystod mis
Gorffennaf a mis Awst i gefnogi Gemau'r Gymanwlad. Roedd hyn yn ddigwyddiad
gwych a chafodd ein bechgyn a'n merched fynediad am ddim i rai o'r digwyddiadau
a gynhaliwyd. Yn fwy diweddar, roedd yr holl wasanaethau wedi coffáu marwolaeth drist EM
Y Frenhines Elizabeth II drwy gynnal gwasanaethau coffa a diolchgarwch yn
lleol, yn genedlaethol ac ar draws y DU. Cawsom gyfle hefyd i groesawu'r Brenin Siarl III i Gymru a oedd yn
anrhydedd fawr i'r bobl hynny yn y lluoedd arfog a gymerodd ran yn y digwyddiad
arwyddocaol hwn. Mae dyddiadur llawn gennym o ddigwyddiadau sydd ar ddod, dyma rai o'r
uchafbwyntiau allweddol: 22 Hydref: Mae'r Gweilch yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog cyn eu gêm yn
erbyn y Stormers. Mae'r Gweilch yn cynnig
mynediad am ddim i'w gemau ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog rheolaidd ac wrth
gefn sydd ar wasanaeth. 29 Hydref 22: Lansio Apêl y Pabïau 11 Tachwedd: Diwrnod y Cadoediad 11 Tachwedd: Gŵyl Lluoedd Arfog y Maer – Theatr y Dywysoges Frenhinol,
Port Talbot 12 Tachwedd: Gŵyl Lluoedd Arfog yr Arglwydd Faer – Neuadd Brangwyn, Abertawe 13 Tachwedd: Gorymdeithiau Cofio ar draws yr ardal gyda Gwasanaeth Eglwys
yn Eglwys y Santes Fair am 14:00 Amlinellodd fod y gatrawd wedi dychwelyd yn ddiweddar o'i hymarfer
Hyfforddiant Parhaus flynyddol draw yn yr Almaen. Bu’n llwyddiant mawr. Os oes unrhyw ddigwyddiadau ar ddod yr hoffai sefydliadau i ni fynd iddynt,
ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosib i ni gan fod angen 6 wythnos o rybudd i
gyflwyno'r ffurflenni clirio digwyddiadau milwrol cyhoeddus angenrheidiol a
byddwn yn ceisio mynd lle bynnag y bo modd. Amlinellodd y Swyddog Gwarantedig Rob Govier y cysylltiadau agos sy'n
bodoli rhwng HMS Cambria ac Adran Tawe yn Abertawe. Dywedodd nad oedd wedi gweld rhaglen ar gyfer Cyfnod y Cofio eto, ond roedd
yn hapus i ddarparu presenoldeb mewn lifrai i ddigwyddiadau lle bynnag y bo'n
bosib. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Adroddodd Capten

Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth. Cofnodion: Nid oedd Yasmin
Todd yn gallu dod i’r cyfarfod, byddai diweddariad yn cael ei ddosbarthu yn
dilyn y cyfarfod. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Cyngor
Abertawe Gofynnodd Wendy
Lewis i aelodau'r panel pe bai ganddynt gyn-filwr sy'n chwilio am gymorth gan y
cyngor, a fyddai modd eu cyfeirio ati hi yn y lle cyntaf er mwyn iddi geisio eu
cyfeirio at y bobl briodol yn yr adrannau perthnasol. Amlinellodd
Spencer Martin fod cronfa cyn-filwyr y cyngor yn dal ar gael ar gyfer
ceisiadau. Rygbi'r
Gweilch Ailadroddodd Tom Sloane y bydd y Gweilch yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd
Arfog cyn eu gêm yn erbyn y Stormers ddydd Gwener
hwn. Diolchodd i'r 3 gwasanaeth am eu cefnogaeth yn y cyfnod cyn y gêm, a
mynegodd y byddai gweithgareddau amrywiol yn digwydd cyn y gêm ac y byddai
cadetiaid yn gorymdeithio o amgylch y cae yn ystod hanner amser y gêm. Byddai 9 ysgol leol hefyd yn bresennol yn y gêm. Dywedodd y byddai'n gwneud cais am arian ar gyfer y fenter In The Squad y maent ei chynnal, gan fod y lefel bresennol o
gyllid yn dod i ben. The Poppy Factory Nododd Kirsty
Gronow, os yw aelodau'r panel yn gwybod am unrhyw un a allai elwa o gefnogaeth
a chymorth ei sefydliada, fod croeso iddynt eu
cyfeirio ati. Amlinellodd y
byddai'n awyddus i fynd i unrhyw ddigwyddiadau hwb y cyn-filwyr yn yr ardal
sy'n digwydd ar ddyddiau'r wythnos. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Amlinellodd
Adrian Rabey fod pobl yn dal i allu ymuno â'r rhaglen Proud,
sy'n ceisio cael swyddi i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd yn y Gwasanaeth
Sifil ac mae'n cael ei hariannu'n llawn yng Nghymru. Manylodd ar ddigwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar 27 Hydref yng ngwesty'r
Village Hotel sy'n
gysylltiedig â rolau diogelwch gyda Border Force. Dywedodd eu bod yn parhau i weithio gyda Busnes Cymru ar eu rhaglen
Veterans Enterprise UK sydd â grantiau o £2,000 ar
gyfer busnesau newydd, ac mae ar gael tan fis Mawrth 2023. Os oes angen cymorth
ar unrhyw un i wneud cais, cysylltwch. SO Fit Amlinellodd Phil
Jones eu bod wedi cynnal rhai sesiynau rhagflas iechyd meddwl mewn ysgolion yn
CNPT a fu'n llwyddiannus. Nod y sesiynau oedd cefnogi plant y gwasanaeth sydd â
rhieni/gwarcheidwaid sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd. Y gobaith yw eu
cyflwyno i ysgolion eraill yn CNPT ac Abertawe yn y dyfodol. Ar hyn o bryd
rydym yn ysgrifennu rhaglen les i gyn-filwyr, sy'n aros am rywfaint o gyllid a
sefydliadau partner i gysylltu â nhw, a nododd y byddai'n cysylltu â Tom yn y
Gweilch i geisio cysylltu â menter In The Squad sydd
eisoes yn bodoli. Rhaglen fydd hon i gyn-filwyr ag Anhwylder Straen Wedi
Trawma. Amlinellodd fod
SO Fit wedi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Cyfamod y Lluoedd Arfog diweddar ac
mae 90% o weithwyr y cwmni’n gyn-filwyr ar hyn o bryd. Maent yn bwriadu cyflogi
rhagor o gyn-filwyr a milwyr wrth gefn. Dywedodd ei fod
ef ei hun ac eraill wedi ymddiswyddo o fwrdd Hwb Cyn-filwyr Abertawe ym mis
Gorffennaf, felly nid oedd bellach yn ymwneud â'r grŵp. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Siaradodd Phil Flower
ymhellach am y diweddariad gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn a manylodd ar 23 o
ddigwyddiadau o gwmpas Cyfnod y Cofio. Byddai'n dosbarthu rhestr i aelodau'r
panel ar ôl y cyfarfod. Amlinellodd fod y
Lleng Brydeinig Frenhinol bob amser yn ceisio recriwtio pobl i gasglu ar gyfer
Apêl y Pabïau yn yr ardal leol er mwyn ceisio adfer y swm a gasglwyd i lefelau
cyn y pandemig. Nododd Tom Sloane
y byddai cyfle i gael casgliad bwced yn ystod gêm ddydd Gwener os oedd yn
ymarferol Amlinellodd Phil
y bydd aelodau o’r Lluoedd Arfog yn bresennol yng ngêm Yr Elyrch yn erbyn Wigan ar 5 Tachwedd. Amlinellodd hefyd y bydd Arddangosfa Goffa Brwydr Prydain yn cael ei lansio
gan Swyddog Awyr Cymru ddydd Sadwrn 22 Hydref am 10.30am yng Nghanolfan y
Cwadrant, Abertawe. Beicwyr y Lluoedd Arfog Amlinellodd Dai Williams fod canolfan galw heibio newydd i gyn-filwyr yn
cael ei lansio ddydd Sul ym Mae Copr yn Castle Street,
Abertawe, rhwng 10am a 12pm, ac mae croeso i bawb. Y nod yw cyflwyno'r sesiynau galw heibio yn ystod yr wythnos hefyd. |