Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a
gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022 fel cofnod cywir. |
|
Diwrnod y Lluoedd Arfog / Sioe Awyr. Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd fod Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr unwaith eto wedi bod yn
llwyddiant mawr. Diolchodd i bawb a
gymerodd ran am eu cefnogaeth a'u cymorth dros y ddau ddigwyddiad. Dywedodd y bydd y
Sioe Awyr yn cael ei chynnal dros benwythnos 1 a 2 Gorffennaf 2023. Bydd Diwrnod y
Lluoedd Arfog 2023 ar 24 Mehefin. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Amlinellodd
Bethan Dennedy fod cylchlythyr diweddar Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi'i
ddosbarthu ym mis Mehefin. Nododd ei bod yn
ceisio cryfhau'r ymddiriedolaethau a'r grantiau sydd ar gael i grwpiau ac mae'n
edrych ymlaen at gymryd rhan yn nigwyddiadau amrywiol y Cofio. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Nododd yr Is-gomender Andy Davies ei fod, yn ogystal â bod yn swyddog ar
wasanaeth, yn gysylltiedig â HMS Cambria, Is-adran Tawe a Chadetiaid Môr
Abertawe. Dywedodd fod HMS
Scott yn parhau ar ei ymfyddiniad cyfredol a
gobeithiai y gallai'r llong ymweld â'r ddinas eto. Amlinellodd y
Cadeirydd ei bod wedi cael galwad Skype ddiweddar gyda chomander y llong a
fynegodd bod cynlluniau ar gyfer ymweliad arall. Yna amlinellodd
Andy Davies y bydd 50 o chwaraewyr a staff y Gweilch yn treulio rhywfaint o'u hyfforddiant
cyn y tymor yng nghyfleuster y Llynges yn Portsmouth. Nododd fod y
gwasanaeth wedi cefnogi'r gwahanol ddigwyddiadau i Goffáu Falkland a gynhaliwyd
yn ddiweddar a bod y Cadetiaid Môr wedi bod yn rhan o'r Sioe Awyr. Gofynnodd a
oedd yn bosib cael mwy o le yn sioe'r flwyddyn nesaf fel y gellid cynnwys
cyfarpar ac arddangosfeydd ychwanegol. Roeddent wedi bod
yn nigwyddiad codi'r faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ac yn ddiweddar roedd
wedi mynd i ddigwyddiad y Lluoedd Arfog ym Mharc y Scarlets. Amlinellodd fod y
Cadetiaid Môr ar gael i fynd i ddigwyddiadau a hyrwyddo'u grŵp a'u bod
wedi mynd i sioe hen geir a hanner marathon Abertawe. Roedd yr Arglwydd
Raglaw wedi bod mewn seremoni ym mis Ebrill i roi gwobrau a nododd y byddai hi
a'r Arglwydd Faer yn mynd i ddigwyddiad ym mis Gorffennaf sy'n gysylltiedig â
Jiwbilî Blatinwm y Frenhines. Byddai'r
gwasanaeth yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru'r wythnos nesaf ac amlinellwyd
bod y gwasanaeth yn awyddus i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ddigwyddiadau'r
Cofio gan gynnwys unrhyw ddigwyddiad yn y Brangwyn
a'r orymdaith ar y Sul. Dywedodd Capten
Huw Williams y daeth llawer o bobl i ddigwyddiad llofnodwyr y Lluoedd Arfog yn
stadiwm Swansea.com ond bod lle o hyd i gael rhagor o gwmnïau a sefydliadau i
ymwneud â'r cyfamod. Amlinellodd fod
wythnos y Lluoedd Arfog wedi bod yn un brysur iawn gyda digwyddiadau yn
Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot a Doc Penfro. Er mwyn sicrhau'r
gynrychiolaeth fwyaf posib o'r holl wasanaethau yn y gwahanol seremonïau a
digwyddiadau, dywedodd ei fod wedi gofyn am y rhybudd cynharaf posib gan fod yn
rhaid iddo gyflwyno gwaith papur y digwyddiadau milwrol cyhoeddus i Heddlu De
Cymru o leiaf 6 wythnos cyn digwyddiad, er mwyn sicrhau presenoldeb digonol gan
yr heddlu a bod y chwiliadau perthnasol yn cael eu cynnal. Amlinellodd
gyfraniad y gwasanaethau yn y Sioe Awyr a dywedodd mai dyma'r tro cyntaf iddo
gymryd rhan ac roedd yn credu ei fod wedi bod yn ddigwyddiad gwych ac yn
llwyddiant mawr gyda llawer o gefnogaeth ac arddangosfeydd gan wahanol unedau
milwrol. Yn anffodus bu'n
rhaid i rai o'r grwpiau dynnu'n ôl ar fyr rybudd oherwydd COVID-19 a oedd yn
gysylltiedig â digwyddiad arall ym Mhort Talbot. Amlinellodd fod
mater wedi'i godi gydag ef sef y gost o £380 y mae'n rhaid i'r elusennau
milwrol ei thalu yn y digwyddiad, a olygai fod rhai ohonynt yn colli cryn dipyn
o arian dros y penwythnos, a gofynnodd i'r mathau hyn o sefydliadau gael eu
rhoi ym mhabell y cyfamod. Roedd pob un o'r
3 gwasanaeth wedi cymryd rhan yn nigwyddiad diweddar y Lluoedd Arfog yn Wrecsam
a ras gyfnewid baton y Frenhines. Byddai'r Fyddin
hefyd yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru a mynegodd y byddent fel catrawd yn
mynd i'r Almaen ym mis Awst ar gyfer ymarfer hyfforddi pythefnos. Mae'r ffocws hefyd
yn awr yn symud tuag at bresenoldeb a chyfranogiad mewn digwyddiadau Cofio yn
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Yn 2023, cynhelir
dathliadau Cymreig y Lluoedd Arfog yng Nghasnewydd ond yn 2024 bydd yn
Abertawe. Cyfeiriodd at y
digwyddiadau posib y gellid eu cynnal yn Abertawe, gan gynnwys cyfuno Diwrnod y
Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr o bosib dros benwythnos y 6 a 7 Gorffennaf gan
gynnwys presenoldeb sawl band milwrol. Mae digwyddiad
milwrol posib gyda'r nos yn y Brangwyn yn opsiwn. Mae angen i drafodaethau
cynnar rhwng yr holl asiantaethau dan sylw barhau er mwyn sicrhau yr eir ati i
gyflawni'r lefel ofynnol o gynllunio. Mae 5 o bersonél
wedi'u lleoli yn Birmingham i gefnogi gemau'r Gymanwlad sydd ar y gweill. Mae Brigâd 160
hefyd yn datblygu cysylltiadau â Chyngor Hil Cymru a'r ganolfan gymunedol
Affricanaidd, y mae'r ddau ohonynt yn Abertawe ac yn cefnogi mentrau LHDT
Cyngor Abertawe. Rhoddodd
ddiweddariad hefyd gan yr Arweinydd Sgwadron Adam Davies yn Sain Tathan a oedd
wedi mynychu digwyddiadau'r Jiwbilî ym Mae Caerdydd a Llundain ac wedi bod yn
rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog. Roeddent hefyd yn
bresennol yn y Sioe Awyr ac roedd y sioe yn llwyddiant enfawr iddynt o ran
cysylltiadau cyhoeddus a recriwtio. Byddant hefyd yn bresennol yn Sioe Frenhinol
Cymru a disgwylir iddynt hefyd fynd i ddigwyddiad coffa ar 6 Awst yng Nghaeriw/Cheriton a byddant yn rhan o ddigwyddiad
treftadaeth De Asiaidd yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod. Maent hefyd
bellach yn canolbwyntio ar gymryd rhan yn nigwyddiadau'r Cofio ar gyfer yr
hydref. Yna rhoddodd yr
Arweinydd Sgwadron Phil Flower ddiweddariad ar ran y cadetiaid awyr. Amlinellodd fod y
cadetiaid, ar ôl y pandemig, bellach yn dechrau
cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau awyr agored â phosib, gyda
gweithgareddau amrywiol sy'n cynnwys dringo yn yr awyr agored, saethu
colomennod clai, caiacio, marchogaeth etc. Cyfeiriodd at y
digwyddiad a gynhaliwyd yng nghyfleuster St Madocs ym
Mhenrhyn Gŵyr, a oedd wedi bod yn ganolfan ragorol mewn lleoliad gwych. Roedd y cadetiaid
hefyd wedi bod yn rhan o gario ffagl Jiwbilî'r
Frenhines ac fe fuon nhw'n cynorthwyo gyda'r hanner marathon. Byddant yn
bresennol yn Sioe Gŵyr, y Treiathlon a 10k Bae
Abertawe. Mynegodd ei fod
wedi cysylltu'n ddiweddar â swyddogion arweiniol lleol Cadetiaid y Fyddin a'r
Môr i geisio cael mwy o weithio cydlynol a defnyddio gweithgareddau ac adnoddau
a allai fod o fudd i bawb. Mae dros 150 o gadetiaid
bellach yng Ngorllewin Morgannwg, gyda 46 o gadetiaid yn mynd i wersyll yr haf
eleni, ond mae recriwtio'n parhau lle bynnag y bo modd. Cyfeiriodd at y
grant a dderbyniwyd gan Gyngor Abertawe o £6,500 a ddefnyddiwyd i ddarparu
gweithgareddau awyr agored a hyrwyddo gweithgarwch corfforol, a fu'n
llwyddiannus gyda'r bobl ifanc. Roedd y cadetiaid
wedi codi tua £1,600 yn ystod apêl y Pabi a £4,000 ar gyfer apêl Wings. Manylodd y bydd y
cadetiaid yn cymryd rhan yng ngwasanaeth y Sul Brwydr Prydain yng Nghilâ ar 11 Medi. Mae manylion
llawn holl ddigwyddiadau'r Cofio yn cael eu coladu a byddant yn cael eu
dosbarthu i'r grŵp pan fyddant wedi'u cwblhau. Diolchodd hefyd
i'r Capten Huw Williams am ei holl waith a'i ymdrech yn y Sioe Awyr a oedd yn
ddiamau wedi helpu tuag at ei lwyddiant. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Amlinellodd Steve
Spill fod Fforwm Lluoedd Arfog y Bwrdd Iechyd wedi cyfarfod ar 25 Mai gyda'r
cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 8 Medi. Amlinellodd fod y
fforwm wedi derbyn cyflwyniad diddorol iawn gan aelod o staff sydd wedi bod yn
filwr wrth gefn ers blynyddoedd lawer ac a fu'n gwasanaethu am 3 mis yn
ddiweddar i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Yn anffodus, bu'n
rhaid gohirio'r diweddariad arferol o'r uned aelodau artiffisial tan y cyfarfod
nesaf. Bydd arolwg
gweithlu'r bwrdd iechyd a fydd yn ceisio data a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â
chyfranogaeth yng ngwasanaeth y lluoedd arfog/milwyr wrth gefn yn cael ei
ddosbarthu'n fuan. Amlinellodd
Victoria Williams fod GIG Cymru i Gyn-filwyr, yn ystod y chwarter diwethaf,
wedi derbyn 23 o atgyfeiriadau i'w gwasanaeth, ac roedd 19 ohonynt wedi dewis
defnyddio'r gwasanaeth. Amlinellodd y
cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y Rhwydwaith Clinigol ar 2 Mehefin a chynhelir yr
un nesaf ar 22 Medi. Mae croeso i bawb ac mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn
bersonol yng nghanolfan Bulldogs ym Maglan. Roedd hi wedi bod
i ddigwyddiad diweddar gan y Lluoedd Arfog a gynhaliwyd ar y cyd â gorsaf radio
The Wave a fu'n llwyddiannus ac roedd y gwasanaeth
wedi derbyn 3 atgyfeiriad o ganlyniad i'r digwyddiad a oedd i'w groesawu. Dywedodd fod
treial clinigol yn ymwneud ag EMDR (Dadsensiteiddio
ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid) a thrawma sy'n gysylltiedig â brwydro i
gymharu therapi ar-lein â therapi wyneb yn wyneb ar fin dechrau. Yna chwaraeodd
fideo yr oedd fforwm y bwrdd iechyd hefyd wedi'i weld gan filwr wrth gefn lleol
a oedd wedi bod yn ymwneud â'r gwasanaeth yn dilyn 2 daith ddyletswydd o
Affganistan. Roedd y fideo'n
amlinellu ei brofiadau o fod yn filwr wrth gefn a'r problemau y bu'n rhaid iddo
ddelio â hwy ar ôl ei ymfyddiniadau a dywedodd pa mor
ddiolchgar yr oedd am y gefnogaeth a gafodd gan GIG Cymru i Gyn-filwyr. |
|
Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth. Cofnodion: Cyfeiriodd Yasmin
Todd at lansiad swyddogol y cynllun Ysgolion sy'n Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog.
Dywedodd mai ysgol gynradd Pontarddulais yw'r ysgol gyntaf yn Abertawe i
dderbyn y wobr. Mae saith ysgol ledled Cymru wedi ennill y wobr hyd yma. Mae'r cynllun yn
ymwneud â gwreiddio arfer da mewn ysgolion a sicrhau bod ysgolion yn defnyddio
rhestr wirio SSCE Cymru (Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru) i ddewis
camau gweithredu a gweithgareddau sy'n briodol i blant y lluoedd arfog.
Byddai'n ymweld â'r ysgol yfory gan eu bod yn cynnal prynhawn coffi i blant a
theuluoedd y lluoedd arfog. Mae'r cynllun yn
rhoi cyfle i'r plant ddatblygu cyfeillgarwch newydd ac yn caniatáu i deuluoedd
gymysgu ac o bosib adeiladu eu rhwydweithiau cefnogaeth eu hunain, gan fod gan
o leiaf hanner ysgolion Abertawe fwy nag un plentyn sy'n blentyn y lluoedd
arfog. Mae'r Awdurdod Lleol yn awyddus i ddatblygu rhwydwaith clwstwr i
gefnogi'r broses. Amlinellodd fod
gweithgareddau gwyliau'r haf yn cael eu datblygu gyda Forces
Fitness a bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn yn fuan. Mae cylchlythyr
haf SSCE Cymru ar gael a gall aelodau'r panel gyfrannu at rifynnau yn y dyfodol
os dymunant. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Hwb Cyn-filwyr
Abertawe Amlinellodd Phil
Jones a Wayne Jenkins eu bod wedi cynnal digwyddiad yn San Helen ar ddydd
Sadwrn y Sioe Awyr a oedd wedi denu dros 100 o ymwelwyr. Roedd yr Arglwydd
Raglaw hefyd yn bresennol a bu'r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Mae'r Hwb bellach
wedi'i lansio'n swyddogol ac yn cyfarfod bob dydd Sadwrn yn San Helen rhwng
10am a 12pm. Bwriedir i'r Hwb
hefyd fod ar agor cyn ac ar ôl Seremoni'r Senotaff ar Sul y Cofio i alluogi
pobl i ymgynnull a chymdeithasu. Nododd fod rhai
gweithgareddau iechyd a lles yn cael eu cynllunio ar gyfer yr haf, a bydd
manylion y rhain yn cael eu dosbarthu'n fuan. Cynigiodd gymorth
a gwasanaethau'r grŵp i holl aelodau'r panel ac amlinellodd fod aelodau'r
grŵp yn awyddus ac yn barod i gymryd rhan mewn cynifer o ddigwyddiadau a
gweithgareddau â phosib. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Amlinellodd John
Williams fod y sefydliad yn dechrau casglu gwybodaeth ynghylch pa bolisïau a
mentrau y dylai'r sefydliad ymdrechu i'w cynnwys yn eu maniffesto ar gyfer yr
etholiad cyffredinol nesaf. Croesewir unrhyw
fewnbwn. Cyngor
Abertawe Diolchodd Emma
Thomas i'r holl wasanaethau, grwpiau a sefydliadau amrywiol am eu cefnogaeth
a'u cymorth i wneud y Sioe Awyr yn gymaint o lwyddiant. |