Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn
unol â’r Côd Ymddygiad a fabwsiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y budd canlynol: Y Cynghorydd Clive Lloyd – Cofnod Rhif 109 – Datganodd y Cynghorydd Clive Lloyd fudd personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem. Cofnodion: Yn unol â’r
Côd Ymddygiad a fabwsiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y budd canlynol: Y Cynghorydd
Clive Lloyd – Cofnod Rhif
109 – Datganodd y Cynghorydd
Clive Lloyd fudd personol a
rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer
yr eitem. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â
chwestiynau o fewn cyfnod o
10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion 2020/21. PDF 271 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i
Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn bresennol ar
gyfer Adroddiad Blynyddol Cwynion 2020/21. Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yr adroddiad a thynnodd sylw at y
canlynol: ·
Dylid
cymharu 2020/21 â blynyddoedd blaenorol yng nghyd-destun y pandemig
·
Newidiadau
mewn perthynas ag adrodd, o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 newydd, sydd bellach yn cynnwys adroddiad i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio i roi sicrwydd ynghylch prosesau ymdrin â chwynion y
cyngor ·
Er
gwaethaf y pandemig, adroddwyd am gynnydd da o ran
hybu newidiadau a mentrau newydd – adolygu a diweddaru'r holl bolisïau cwynion ac
roedd y Tîm Cwynion wedi derbyn hyfforddiant rhithwir yn uniongyrchol gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ·
Roedd
yr holl gamau gweithredu o Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon i'r cyngor wedi'u
cwblhau ·
Newidiadau
i ymdrin â Chwynion Iaith Gymraeg yn unol â deddfwriaeth y Gymraeg ·
Cwynion
Cam 1 a Cham 2 yn ogystal â sylwadau a chanmoliaeth gwasanaethau, corfforaethol a chymdeithasol – ac effaith y pandemig ar y niferoedd: Gostyngodd nifer y cwynion
corfforaethol Cam 1 a Cham 2 ar gyfer 2020/21, er bod Ceisiadau am Wasanaeth
wedi cynyddu, sy'n ddealladwy; gostyngodd nifer cwynion Cam 1 y Gwasanaethau
Cymdeithasol i Oedolion, a chafwyd ychydig o gynnydd yn nifer y cwynion Cam 2;
cynyddodd nifer cwynion Cam 1 y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ychydig, cafwyd
yr un faint o gwynion Cam 2. Roedd niferoedd yn uwch mewn rhai achosion
oherwydd derbyniwyd amryfal gwynion am yr un achos ·
Defnyddio
sylwadau, cwynion a chanmoliaeth i ddysgu a datblygu gwasanaethau ·
Yr achosion
hynny a aeth at yr Ombwdsmon a gafodd eu cadarnhau a'r rhai na gafodd eu
cadarnhau ·
Roedd
cwynion yn mynd yn fwyfwy cymhleth ac yn aml yn cynnwys nifer o asiantaethau ·
Roedd
system TG newydd yn cael ei datblygu'n fewnol a'r gobaith oedd iddo fod yn fyw
ar gyfer cwynion corfforaethol i ddechrau yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn
ariannol newydd – byddai hyn yn caniatáu i rai cwynion gael eu hawtomeiddio a
dylai wneud y broses yn haws i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i staff gyda
gwell ymarferoldeb adrodd. ·
Adroddwyd
nad oedd unrhyw dueddiadau sy'n peri pryder yn deillio o'r data ar y cyfan, o'i
gymharu â'r flwyddyn(au) blaenorol ·
Nodwyd
yn benodol y gwaith da a wnaed gan y staff, yn enwedig y Tîm Cwynion, yn ystod
blwyddyn heriol iawn Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: - ·
Ymateb
y cyngor i Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon a'r camau a gymerwyd ·
Deall
pam roedd cwynion yn mynd yn fwy cymhleth, ac a oedd hyn yn fater sy'n ymwneud
â systemau a oedd ar waith – nodwyd nad oedd yn ymwneud â systemau ond roedd yn
ymwneud yn fwy am natur gwasanaethau, anghenion cymhleth ac amgylchiadau
unigol, a chyfranogiad amlasiantaeth. ·
I ba
raddau roedd y straen ar y Gasanaethau Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu mewn cwynion
– a pham roedd y niferoedd wedi gostwng. Nodwyd bod cwynion wedi gostwng ar y
cyfan a'i bod yn anodd dweud yn union pam, ond bod y cynnig a ddarparwyd mor
wahanol yn ystod y pandemig ei bod yn anodd gwneud
cymariaethau. Mae'n bosib bod disgwyliadau a dealltwriaeth pobl o realiti yn
ystod y pandemig wedi newid, ynghyd â mwy o wytnwch.
Y peth pwysig oedd nifer y cwynion yr oedd cyfiawnhad amdanynt, yn hytrach na'r
niferoedd cyffredinol. Byddai unrhyw gwynion a wneir ac a gadarnhawyd yn bwydo
i mewn i'r gwaith adfer i ddysgu gwersi ar gyfer y system iechyd a gofal.
Nodwyd bod nifer y canmoliaethau wedi codi yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i
Oedolion a Phlant ·
Pwysigrwydd
pobl yn mynnu eu hawliau a gallu codi cwynion ·
Adfer
y Gwasanaethau Cymdeithasol – clywyd bod cryn dipyn o waith heb ei wneud o hyd
a heriau i'w goresgyn a fydd yn cymryd sawl mis i weithio drwyddynt, gan
gynnwys gofal preswyl/gofal cartref – ac mae cynnydd wedi bod yng nghyfraddau
trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned yn yr ardal gan ychwanegu at yr her. Nid yw
effaith lawn COVID-19 wedi'i gweld eto, wrth iddo barhau ·
Roedd
gofal cartref yn dal i fod yn broblem – ac mae'r cyngor yn gwella amodau i
helpu i recriwtio a chadw staff ·
A
yw'r cyngor yn gweld cynnydd yng nghyfran y cwynion sy'n cael eu gwneud drwy
gwmnïau cyfreithiol, gan weithredu ar ran preswylwyr, o ystyried y llu o
gwmnïau sy'n hysbysebu 'dim llwyddiant, dim ffi'. Cytunodd y Pennaeth
Gwasanaeth i ymchwilio i hyn ac ymateb. Nodwyd mewn rhai meysydd gwasanaeth,
e.e., o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod y cyngor yn derbyn heriau
cyfreithiol, nid o reidrwydd drwy'r broses Cwynion Corfforaethol, fel sy'n
briodol i'r mater ·
Pwynt
Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau Cymdeithasol (PMC) – roedd un gŵyn
wedi'i chadarnhau a'i datrys. Nid oedd
yn ganlyniad i unrhyw fethiant systemig yn y PMC, ond mater unigol ydoedd Diolchodd y
Cadeirydd i Aelodau a Swyddogion y Cabinet am yr adroddiad ac am ateb
cwestiynau.
|
|
Ymchwiliad Craffu Caffael - Adroddiad Terfynol. PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y bydd Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad Craffu Caffael yn mynd gerbron y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd yr Ymchwiliad Craffu Caffael, yr 'Ymchwiliad
Craffu Caffael – Adroddiad Terfynol'. Gofynnwyd i'r pwyllgor gytuno y gellir
cyflwyno adroddiad y panel i'r Cabinet i'w benderfynu. Rhoddodd y
Cynullydd amlinelliad byr o broses yr ymchwiliad a'r ystod o dystiolaeth a
gasglwyd. Roedd dealltwriaeth bod caffael yn ymwneud â mwy na phrynu rhywbeth
oddi ar y silff yn unig ond ei fod yn ymwneud â chael yr hyn y mae ei angen
arnoch o'r ansawdd a'r maint cywir. Amlinellodd yr adroddiad, a oedd yn cynnwys
llawer o ganfyddiadau cadarnhaol, 9 casgliad a 14 o argymhellion ar gyfer y
Cabinet. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Argymhelliad
ar gwblhau'r Arweiniad i Ysgolion ar Gaffael i helpu ysgolion i ddeall rheolau,
rheoliadau ac arferion gorau caffael pe bai'r Cabinet yn derbyn yr
argymhelliad, a'r disgwyliadau o ran yr amserlen ar gyfer rhoi hyn ar waith.
Roedd y Cynullydd yn hyderus y byddai hyn yn ddymunol ac fe'i nodwyd yn yr
adroddiad, ar ôl ymgynghori â Phennaeth y Gwasanaethau Masnachol, fel nod tymor
canolig. Croesawyd y gwaith o gyflwyno'r arweiniad yn gadarn gan y pwyllgor ·
Amserlen
ar gyfer sefydlu gweithgor i edrych ar Gaffael Addysg er mwyn helpu i wella
cysondeb o ran glynu wrth bolisi, ffyrdd o weithio a nodi bylchau a dod o hyd i
atebion cyffredin, pe bai'r Cabinet yn derbyn yr argymhelliad – nodwyd hyn fel
'llwyddiant cyflym' gan y disgwylid y gellid rhoi trefniadau ar waith yn hawdd
i ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o ysgolion (e.e. rheolwyr safleoedd) a Thîm Caffael
y cyngor ·
Un
o'r materion a nodwyd, sy'n ymwneud â chaffael mewn ysgolion, oedd cost
Gwasanaethau Adeiladu’r cyngor a sut y cânt eu hamgyffred – tynnodd yr
adroddiad sylw at anawsterau wrth gymharu dyfynbrisiau â chontractwyr allanol,
a'r angen i sicrhau bod cymariaethau ‘cyffelyb’ yn cael eu gwneud, gan ystyried
diogelwch/ansawdd neu waith a deunyddiau. Byddai'r gweithgor awgrymedig yn
helpu i wella dealltwriaeth o hyn a materion perthnasol eraill ynghylch rheolau
caffael ac yn helpu i gefnogi ysgolion. Nodwyd bod angen mynd i'r afael hefyd â
materion sy'n ymwneud â Ffurflenni Caniatâd Landlordiaid, a oedd y tu allan i
gwmpas yr Ymchwiliad ·
Prydlesu,
sy'n rhan bwysig o'r system gaffael bresennol ·
Cyfrifoldebau
ac ymrwymiad y cyngor i newid yn yr hinsawdd – mae'r adroddiad yn cynnwys
argymhellion a allai fod yn radical, newid polisi/arfer cyfredol, e.e.,
ystyried ôl troed carbon ac atebion sy'n seiliedig ar natur wrth gaffael –
nodwyd y rhain fel heriau tymor hwy ac yn rhai a allai arbed costau o bosib ·
Pwysigrwydd
mwy o gyfranogiad a chyfleoedd i gwmnïau lleol wneud cais am waith, a defnyddio
sgiliau lleol Diolchodd y
Cynullydd i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad gan gynnwys aelodau,
partneriaid, swyddogion, ac i'r Swyddogion Craffu am eu cefnogaeth a'u hymchwil
a wnaed gan gynnwys edrych ar arferion caffael mewn mannau eraill. Diolchodd y
Cadeirydd i'r panel am ei waith a chanmolodd yr adroddiad a'r gwahaniaeth y
bydd yn ei wneud. Nodwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod
cynharaf y Cabinet a oedd ar gael ar ôl etholiadau'r cyngor ym mis Mai. Nodwyd hefyd fod
y panel wedi gofyn i'r pwyllgor ystyried sut mae caffael yn cyd-fynd â'r
rhaglen waith craffu’n gyffredinol ac a oes lle yn y dyfodol i drafod y pwnc hwn
a materion perthnasol yn flynyddol. Beth bynnag, byddai'r panel yn gwneud
gwaith dilynol ar yr ymchwiliad yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf (ar ôl
penderfyniad y Cabinet) felly bydd y pwnc yn aros yn y rhaglen waith. Ar ôl i'r
broses ddilynol ddod i ben, gallai'r pwyllgor wedyn ystyried y ffordd orau o
gadw llygad ar faterion a pherfformiad Caffael yn y dyfodol. Penderfynwyd bod yr Ymchwiliad Craffu Caffael -
Adroddiad Terfynol yn mynd i'r Cabinet.
|
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y bydd Adroddiad Effaith Llythyrau
Craffu yn mynd gerbron y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. Penderfynwyd bod yr Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith
yn mynd ymlaen i'r cyngor.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau
Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi'r llythyrau Craffu. |
|
Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2021/22. PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr 'Adolygiad Blynyddol o'r Cynllun Gwaith' a gwahoddodd aelodau'r
pwyllgor i fyfyrio ar waith/raglen waith a phrofiad craffu'r flwyddyn, gan
ystyried yn benodol, er enghraifft, pa mor dda y mae'r pwyllgor wedi gweithio?
A oedd Craffu wedi canolbwyntio ar y pethau cywir? Pa wersi a ddysgwyd? Codwyd y
canlynol: - ·
Pwysigrwydd
Craffu ar gyfer llywodraethu da ·
Mae'r
trefniadau craffu presennol wedi'u hen sefydlu ·
Gorfod
blaenoriaethu gweithgarwch oherwydd diffyg amser ac adnoddau, sy'n gallu bod yn
rhwystredig ·
Yr
angen i sicrhau bod strwythur Craffu a gweithgareddau dan Bwyllgor y Rhaglen
Graffu’n cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau'r cyngor/Cabinet gyda lefel dda o
graffu ar draws holl bortffolios y Cabinet, a'i fod yn canolbwyntio ar
benderfyniadau a wneir gan y Cabinet ·
Mae'r
pwyllgor wedi gwneud yn dda o ran llenwi unrhyw fylchau
yn y rhaglen waith a dwyn aelodau'r Cabinet i gyfrif am gyfrifoldebau a
materion portffolio penodol, yn hytrach nag ymagwedd fras sy'n edrych ar
gyfrifoldebau cyffredinol ·
Mae’r
ffaith bod y Pwyllgor yn cyfethol Cynullyddion y Panel Perfformiad yn dda ·
Ystyried
a allai'r pwyllgor gynnal o leiaf 2 sesiwn y flwyddyn ar berfformiad y
Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn/Abertawe Mwy Diogel, yn hytrach na sesiwn
flynyddol ·
Sicrhau
bod craffu'n ystyried amrywiaeth o safbwyntiau ar faterion ·
Cydbwyso
gwaith craffu lleol â chraffu rhanbarthol/ar y cyd a sicrhau bod gwaith
craffu'n cael ei gydlynu'n effeithiol ac yn ategu'n dda ato, gan gynnwys her
craffu ar y Cyd-bwyllgor Corfforaethol sydd newydd ei sefydlu ·
Annog
rhagor o bobl i gymryd rhan mewn gwaith craffu a rhagor o gynghorwyr yn mynd
ati i holi ·
Yr
angen am raglen hyfforddi a fydd yn cynnwys helpu cynghorwyr craffu i wella'r
ffordd y maent yn cwestiynu ac gwneud gwaith craffu'n well ·
Y
berthynas rhwng Pwyllgorau Craffu a Datblygu Polisi – gan gofio y gall
cynghorwyr craffu hefyd lywio’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisi a
dylanwadu arno drwy eu gwaith ·
Gallai
craffu yn y flwyddyn ddinesig newydd gynnwys edrych ar Ddeddfwriaeth Tai newydd
Llywodraeth Cymru a'r goblygiadau i'r cyngor ·
Pwysigrwydd
cynnal Cynhadledd Cynllunio Gwaith Dywedodd y
Cadeirydd y bydd yr adborth yn cael ei ystyried gan y pwyllgor pan fydd yn
cyfarfod eto ar ôl yr etholiad, a bydd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu
rhaglen waith craffu newydd. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb a oedd wedi cyfrannu at Graffu, aelodau, swyddogion craffu,
swyddogion a oedd yn bresennol ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu ac unrhyw
Baneli, Gweithgorau ac Ymchwiliadau. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i'r aelodau
Cyfetholedig, David Anderson-Thomas ac Alexander Roberts, am eu cyfraniadau. Penderfynwyd nodi'r Adolygiad Blynyddol o'r Cynllun
Gwaith.
|