Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad
canlynol: y Cynghorydd Peter Black
– Cofnod rhif 18 - Datganodd y Cynghorydd Peter Black gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd Peter Black – Cofnod Rhif 19 – Datganodd y Cynghorydd Peter
Black gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.
|
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. |
|
Ethol Cadeirydd Dros Dro ar gyfer Eitem 5 (Cofnod Rhif 19) Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd Peter Jones yn
Gadeirydd Dros Dro ar gyfer eitem 5 ar yr Agenda (Cofnod Rhif 19). Y Cynghorydd P K Jones (Cadeirydd Dros Dro) fu'n
llywyddu |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Derbyniwyd
cwestiynau gan ddau aelod o'r cyhoedd, a oedd yn bresennol i ofyn eu
cwestiynau, a oedd yn ymwneud ag eitem chwech ar yr agenda (cofnod rhif
20). Cyflwynodd Ms S Morgan gais, ar ran preswylwyr Green Close,
i adfer croesfan a oedd wedi'i thynnu o ddiwedd y ffordd oherwydd y gwaith
adeiladu parhaus i'r llwybr beicio ar Mayals Road. Credwyd y byddai diogelwch a
mynediad yn cael eu peryglu'n ddifrifol pe na bai croesfan newydd yn cael ei
gosod. Ymatebodd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd
a Rheoli Isadeiledd. Cadarnhawyd y byddai Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 3 yn
cael ei gynnal ar ôl cwblhau'r gwaith a phe byddai unrhyw broblemau'n cael eu
nodi y byddai camau pellach yn cael eu hystyried. Gofynnodd Mr H
Francis y cwestiynau canlynol am y gwasanaeth a ddarperir gan yr Adran
Priffyrdd. 1.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan y cyngor yn dangos ei fod
wedi methu â chyflawni ei darged tai ei hun ym mhob un o'r 10 mlynedd diwethaf
o faint cronnol o tua 50%; Mae contractwyr a datblygwyr yn credu bod oedi o ran
gwaith priffyrdd yn cyfrannu'n sylweddol at y methiant hwn. I ba raddau ydych
chi'n credu y gall yr Adran Priffyrdd wella ei gwasanaeth i fynd i'r afael â'r
diffyg hwn? 2.
Ydych yn credu bod gan yr Adran Priffyrdd ddigon o
adnoddau ar gael i gyflawni ei swyddogaethau statudol yn ogystal â chefnogi
gwaith cyfalaf fel prosiectau adfywio'r cyngor? 3.
Oes cwmpas i'r Adran Priffyrdd gontractio gwasanaethau
technegol i ymgynghorwyr allanol ymhellach er mwyn helpu i wella ei wasanaeth? Ymatebodd y
Cynghorydd Mark Thomas – Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli
Isadeiledd. Cydnabuwyd y gallai materion penodol godi ar rai datblygiadau, fodd
bynnag, ni chytunwyd bod problem gyffredinol gyda'r gwasanaeth a ddarperir gan yr
Adran Priffyrdd ac, o ystyried amgylchiadau'r pandemig,
teimlwyd bod yr adran wedi ymdopi'n eithriadol o dda. Cafwyd trafodaeth ar
fater adnoddau, y gallu i lenwi swyddi cymwys yn ogystal â staffio ar gyfer
lefelau gwaith newidiol. Cadarnhawyd y gellid defnyddio adnoddau allanol (gan
gynnwys contractio gwaith yn allanol) ac roedd adnoddau allanol wedi'u
defnyddio lle teimlwyd bod hynny'n angenrheidiol. Y Cynghorydd P M Black (Cadeirydd) fu'n llywyddu |
|
Trafodaeth ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet PDF 250 KB ·
Aelod y Cabinet: Priffyrdd a
Pheirianneg ·
Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw
Isadeiledd Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, gyda chefnogaeth Arweinydd
Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd ac Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith
Traffig a Phriffyrdd, adroddiad ar Briffyrdd a Pheirianneg, Isadeiledd a
Chynnal a Chadw. Rhoddwyd cyfeiriad
llafar ynghylch yr adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd yn nodi'n benodol y
canlynol: ·
Pa
waith a wnaed gan yr Is-adran Cynnal a Chadw Priffyrdd a'r hyn yr oeddent yn
gyfrifol amdano ·
Trefniadau
cynnal a chadw a'r gyllideb cynnal a chadw – cyllideb 2021/22 ar gyfer cynnal a
chadw oedd £3.9 miliwn. Clustnodwyd £1.4 miliwn ychwanegol am y 4 blynedd
diwethaf yn dilyn yr adroddiad comisiynu. Derbyniwyd arian ychwanegol hefyd gan
Lywodraeth Cymru. ·
Roedd
y rhaglen cynnal a chadw bresennol ar gyfer y cyfnod 2020-2025 – y gobaith oedd
y byddai'r rhaglen yn cael ei chwblhau flwyddyn yn gynt na'r disgwyl yn 2024 ·
Cynhaliwyd
Adolygiad Draenio yn 2020/21 – effaith glaw trwm cynyddol ar yr isadeiledd
ffyrdd a phriffyrdd ·
Gwaith
yn ystod y pandemig – parhaodd y gwasanaeth i
weithredu drwy gydol y pandemig a gwnaed newidiadau
i'r rhaglen er mwyn parhau â'r gwaith gan hefyd gadw staff a'r cyhoedd yn
ddiogel e.e. osgoi strydoedd preswyl a dechrau ar waith i ffwrdd o eiddo fel
Pont Llwchwr pan oedd cyfrif traffig ar ei isaf erioed ·
Roedd
rhagor o waith ailwynebu wedi'i wneud o'i gymharu â'r
flwyddyn flaenorol ·
Heriau
a chyfleoedd yn y dyfodol – llifogydd a newidiadau i ffiniau wardiau ·
Risgiau Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Dyraniad
digonol/cywir o adnoddau o ystyried bod ôl-groniad gwerth £70 miliwn o waith ·
Blaenoriaethu
gwaith ·
Eglurhad
o'r ffigurau presennol ar gyfer yr ôl-groniad o waith i wneud cymariaethau clir ·
Heriau
newid yn yr hinsawdd – rhagor o lifogydd, effaith tymereddau cynyddol ar
darmac, effaith gaeafau gwlypach/oerach ar arwynebau priffyrdd yn ogystal â
llygredd aer ·
Mesurau
i gynorthwyo gyda heriau newid yn yr hinsawdd – Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), ffosydd cerrig ac ardaloedd wedi'u plannu ·
Cyfathrebu/cydgysylltu
â chwmnïau cyfleustodau ar waith stryd – rhagor o arwyddion ac eglurder
ynghylch pwy oedd yn gwneud y gwaith ·
Archwilio
gwaith stryd ar ôl cwblhau'r gwaith – nodwyd bod sampl wedi'i phrofi am ansawdd
a chydymffurfiaeth ·
Cynnal
a chadw priffyrdd, e.e. Mater a godwyd yn dilyn amnewid cylchfannau uwch i
gylchfannau gwastad – nodwyd problemau a oedd yn ymwneud â chost cynnal a chadw
·
Coed
yn hongian dros briffyrdd/dail yn disgyn i ddraeniau – pwerau cyfyngedig ar
gael i'w gorfodi oni bai fod rhwystr i'r briffordd ·
Beiciwr
yn goryrru ar lwybrau defnydd a rennir ·
Effaith
terfyn cyflymder 20 milltir yr awr (mya) yn cael ei
ystyried gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd preswyl – ariannu, gosod
arwyddion a gorfodi ·
Timau'r
gylïau a pheiriannau'r gylïau sydd ar gael – nododd y timau mai dim ond
llifogydd adweithiol oedd yn tarfu ar y gwaith o lanhau rheolaidd ·
Draeniau
cludo wedi’u blocio – y Tîm Archwilio yn edrych ar hyn Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, y Diweddariad ar y Panel Craffu Perfformiad
Addysg. Yn dilyn yr adroddiad
ysgrifenedig a ddarparwyd, tynnodd sylw'n benodol at dri maes ffocws allweddol:
1.
Ysgolion
yn rhannu arfer gorau 2.
Cymorth
i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim 3.
Parodrwydd
ar gyfer y Fargen Ddinesig e.e. Partneriaeth Sgiliau Abertawe Roedd yr eitem ar
aflonyddu wedi'i gohirio a byddai'n cael ei hystyried ym mis Medi, pan fydd
rhagor o wybodaeth ar gael. O ran y
ddarpariaeth addysg heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), canfu'r Panel fod rhai plant a
phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'u cyfoedion yn yr ysgol yn
ystod y pandemig. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd
ailadeiladu'r berthynas rhwng disgyblion ac ysgolion, ac iddynt beidio â chael
eu heithrio. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Lyndon Jones am y diweddariad. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 236 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. Nododd y Pwyllgor
benodiad Cynullwyr y Panel Perfformiad gan y Paneli
perthnasol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021/22 hyd yn hyn sef: ·
Y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd - ailbenodwyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams ·
Gwasanaethau
i Oedolion - ailbenodwyd y Cynghorydd Susan Jones ·
Gwella
Gwasanaethau a Chyllid – ailbenodwyd y Cynghorydd Chris Holley ·
Addysg
– ailbenodwyd y Cynghorydd Lyndon Jones ·
Amgylchedd
Naturiol – ailbenodwyd y Cynghorydd Peter Jones ·
Datblygu
ac Adfywio – ailbenodwyd y Cynghorydd Jeff Jones Penderfynwyd: - 1) Caiff y Cynghorydd Mike Durke ei dynnu oddi ar y Panel Craffu Perfformiad Addysg |
|
Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer. PDF 263 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu. Tynnodd sylw at y
ffaith bod yr Ymchwiliad Craffu Caffael bellach wedi ailgychwyn. Roedd wedi
adolygu a chytuno ar gylch gorchwyl a chwestiwn allweddol ar gyfer yr
ymchwiliad. Roedd y panel bellach yn casglu tystiolaeth. Trefnwyd cynnal
cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 17 Awst 2021. Y brif eitem a
drefnwyd oedd trafodaeth ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet a
restrir isod gydag Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth: ·
Twristiaeth,
Rheoli Cyrchfannau a Marchnata ·
Hyrwyddo
Busnesau a’r Ddinas Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 196 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd dyddiad ac amser cyfarfod nesaf y panel/gweithgor. |