Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Peter Jones – Cofnod Rhif 9 – Aelod o grŵp gorchwyl
'Gweithio gyda Natur' Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe Y Cynghorydd Sam Pritchard – Cofnod Rhif 9 – Aelod o Fwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Abertawe – Grŵp Partneriaeth |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor
y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021 a 20 Mai 2021 fel cofnodion cywir.
|
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 416 KB Cofnodion: Fel cyfarfod
cyntaf blwyddyn ddinesig 2021/22, cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu yr
adroddiad ar 'Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu'. Roedd yr adroddiad hefyd yn
gwahodd y Pwyllgor i adnewyddu penodiad aelodau cyfetholedig y Pwyllgorau. Penderfynwyd
ar y canlynol: - 1)
Adnewyddir
cyfetholiadau cynullwyr y Paneli Perfformiad Craffu
i'r Pwyllgor. 2) Adnewyddir cyfetholiadau'r sefydliadau partner i alluogi cynrychiolwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd
cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth
Naturiol Cymru, Fforwm Amgylcheddol Abertawe a Chyngor Abertawe yn bresennol i
graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Mae'r pwyllgor yn
craffu ar berfformiad y BGC a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud. Canolbwyntiodd y
sesiwn ar ddeall rôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a
Chyfoeth Naturiol Cymru, fel Aelodau Statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Abertawe, a'r cynnydd o ran cyflawni amcanion lles y maent yn arwain arnynt. Yn dilyn yr
adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n
canolbwyntio ar:- ·
Effaith/gwerth
ychwanegol y BGC – clywyd am rwydweithiau/cysylltiadau a grëwyd, gwaith
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ar y Stryd Fawr, diogelu, radicaleiddio,
hiliaeth a chyllid a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r gwaith o
wella'r amgylchedd gwyrdd ·
Y
nifer sy'n manteisio ar waith partner/cydweithio ar faterion allweddol –
darparwyd enghreifftiau o weithio gyda phartneriaid ynghylch troseddu,
ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau ·
Llwyddiant
gweithio gyda phartneriaid ar danau glaswellt bwriadol ·
Materion
yn ymwneud â llywodraethu'r BGC, diffyg adnoddau, diffyg cyllid a'r gwersi a
ddysgwyd. ·
Cymharu
â Byrddau Cynllunio Rhanbarthol – gwahanol safbwyntiau ariannol ·
Camddefnyddio
Sylweddau – roedd y Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol a'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn
edrych ar hyn - roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal yn arwain ar ddatblygu'r Model
Iechyd Cyhoeddus Integredig ac roedd yn adrodd yn ôl i'r BGC. ·
Datblygu
Dangosyddion Perfformiad ar gyfer y BGC a gweld cynlluniau gweithredu i helpu i
fonitro a mesur cynnydd – nodwyd na fyddai pob agwedd ar waith yn fesuradwy,
e.e. y materion hynny sy'n canolbwyntio ar newid hirdymor ·
Lobïo
am adnoddau a chyllid ychwanegol ·
BGCau rhanbarthol a straen ar y sefydliadau hynny sy'n mynychu nifer o BGCau – roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu
cynnal y BGCau lleol ar hyn o bryd ·
Cyfathrebu
rhwng y BGC, y Gweithgorau a'r Cydbwyllgor ·
Effaith
pandemig COVID-19 ar waith y BGC a chyllid ·
Trefnwyd
i'r BGC adolygu eu ffocws yn y cyfarfod nesaf yn dilyn pandemig
COVID-19 Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol. Edrychodd ymlaen at y sesiwn nesaf ar y BGC a datblygu gwell gwybodaeth am berfformiad o amgylch gwaith y BGC gan gynnwys dangos bod amcanion lles penodol yn cael eu cyflawni drwy gynlluniau gweithredu. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd/Arweinydd y Tîm Craffu 'Adroddiadau Craffu – Adroddiad Effaith', gan
dynnu sylw at gyflawniadau craffu yn ystod 2020/21. Penderfynwyd bod yr adroddiad yn mynd ymlaen i'r cyngor |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Nododd y Pwyllgor
benodiad Cynullwyr y Panel Perfformiad gan y Paneli perthnasol ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2021/22 hyd yn hyn sef: ·
Y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - ailbenodwyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams ·
Gwasanaethau
i Oedolion - ailbenodwyd y Cynghorydd Susan Jones ·
Gwella
Gwasanaethau a Chyllid – ailbenodwyd y Cynghorydd Chris Holley Penderfynwyd: - 1)
Tynnu'r
Cynghorydd Mark Child oddi ar unrhyw baneli/gweithgorau, gan ei fod wedi dod yn
aelod gweithredol. 2) Ychwanegu'r Cynghorydd Oliver James a'r Cynghorydd Hannah Lawson at Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 262 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/21 i'w ystyried. Trefnwyd cynnal
cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 13 Gorffennaf 2021. Y brif eitem a
restrwyd oedd trafodaeth ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet ar gyfer
Priffyrdd a Pheirianneg ac Atgyweiriadau a
Chynnal a Chadw Isadeiledd gydag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd
a Rheoli Isadeiledd. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Roedd Cynullydd y
Gweithgor Craffu ar gyfer cynhwysiant digidol, y Cynghorydd Lesley Walton, yn
bresennol i grynhoi'r canfyddiadau. Tynnodd sylw at y gwaith a wnaed gan
Swyddogion er gwaethaf pandemig COVID-19 a oedd, er
enghraifft, yn parhau i ddarparu menter newydd 'Sgwrsfot'.
Byddai'r Gweithgor yn parhau i gefnogi staff gyda'r datblygiadau enfawr a'r
newidiadau parhaus mewn technoleg ac yn edrych ar y Strategaeth Cynhwysiad
Digidol yn ogystal ag ailwampio gwefan y cyngor. Teimlai'r Gweithgor fod angen
goruchwylio'r gwaith ar Gynhwysiad Digidol ymhellach wrth i bethau ddatblygu, efallai'n flynyddol. Cyfeiriodd
Cynullydd y Gweithgor Craffu ar gyfer y Gweithlu, y Cynghorydd Cyril Anderson,
at lythyr y Gweithgor at Aelodau'r Cabinet a'r ymateb, yn dilyn cyfarfod y
Gweithgor. Tynnodd sylw at waith staff yn ystod pandemig
COVID-19. Yn dilyn y cyfyngiadau symud cyntaf roedd staff wedi addasu'n well yn
ystod yr ail gyfyngiadau symud, gyda gwelliannau i gefnogaeth gan y cyngor.
Nodwyd y byddai arolwg staff pellach yn cael ei ddosbarthu yn ystod y 6 mis
nesaf i holi staff ynghylch gweithio gartref nawr eu bod yn fwy profiadol/wedi
dod yn fwy cyfarwydd ag ef. Roedd y Gweithgor yn awyddus i gyfarfod eto pan
oedd canlyniadau'r arolwg yn hysbys. Diolchodd y ddau
Gynullydd i'r staff am eu holl waith caled wrth helpu'r cyngor drwy gyfnod
anodd iawn. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at rai materion yn ymwneud â defnyddio gweithwyr asiantaeth, a
drafodwyd yn ddiweddar yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a dywedodd y
byddai'n trafod ffordd ymlaen mewn perthynas â thrafodaethau yn y dyfodol gyda
Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gan osgoi unrhyw ddyblygu
rhwng y Pwyllgorau perthnasol. Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 198 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiad ac amser cyfarfod nesaf y panel/gweithgor. |
|
Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 239 KB |