Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

66.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Susan Jones – Cofnod Rhif 70 – Mab yn weithiwr i Heddlu De Cymru

 

Y Cynghorydd Wendy Lewis - Cofnod Rhif. 70 - Mab yn weithiwr i Heddlu De Cymru

67.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

68.

Cofnodion. pdf eicon PDF 242 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2021 fel cofnod cywir.

69.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

70.

Craffu ar Droseddu ac Anhrefn - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru a'r cyngor i'r cyfarfod er mwyn darparu adroddiad cynnydd ar Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, a gyd-gadeirir gan y ddau sefydliad, ac ateb cwestiynau.

 

Tynnodd y Dirprwy Brif Weithredwr sylw at heriau a oedd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Roedd y pandemig wedi arwain at heriau newydd yn ogystal â chynnydd mewn digwyddiadau domestig, ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chymdogion a throseddau casineb. Roedd gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth, a adeiladwyd yn ystod y pandemig, wedi bod yn allweddol i ymdrin â'r problemau hynny a byddai'n hanfodol eu cynnal yn y dyfodol.

 

Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·                     Cefndir

o    Gweledigaeth y bartneriaeth

o    Diben y bartneriaeth

·                     Llywodraethu Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel presennol

o    Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

o    Grŵp Llywio Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel

o    Blaenoriaethau Strategol

·                     Blaenoriaethau Strategol

o    Trais yn erbyn menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

o    Camddefnyddio Sylweddau

o    Cymunedau Cryfach

o    Economi'r hwyr a'r nos

o    Monitro troseddau casineb a thensiwn cymunedol

·                     Taith mewn pandemig

·                     Pandemig: Hyblygrwydd Ymateb

o    Tîm Gorfodi ar y Cyd – ymrwymiad adnoddau rhwng yr awdurdod lleol a Heddlu De Cymru i edrych ar feysydd o bryderon allweddol megis trwyddedu, safonau masnach a gorfodi materion yn ymwneud â COVID-19 a oedd yn cynnwys gosod tasgau a chydlynu ar y cyd – cyflwynwyd dros 1,200 o hysbysiadau o gosb benodol mewn perthynas â gorfodi materion yn ymwneud â COVID-19

o    Grwpiau Datrys Problemau – Datrys problemau ar gyfer pob ardal drwy ddefnyddio’r dull Amcan, Sganio, Dadansoddi, Ymateb ac Asesu (OSARA) e.e. ar gyfer Annifyrrwch yn ymwneud â Beiciau Modur, Gweithwyr Rhyw etc.

o    Prosiectau Cymunedol – e.e. Prosiect yn y Vetch i fynd i'r afael â materion Llinellau Sirol a Throseddoldeb a oedd wedi cynnwys gosod teledu cylch cyfyng mewn ardaloedd allweddol, tocio gordyfiant, bwrw wal i lawr, creu Ardal Gemau Aml-ddefnydd a seddi yn ogystal â datblygu caffi cymunedol.

o    Cyfarfodydd Partneriaeth – Cefnogodd y Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg ar gyfer pobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd (MARAC) dros 60 o unigolion a oedd yn ddigartref a/neu'n cardota gan ddefnyddio ateb mwy cyfannol i ddiwallu anghenion - Datblygu Clybiau Ieuenctid Dros Dro

o    Gwaith Allgymorth – Cafodd ei beryglu yn ystod COVID-19 ond parhaodd y gwaith. Roedd arian ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer swyddi ychwanegol – gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd ym Mharc Cwmdonkin – Cynhaliodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru waith ymgysylltu ar ddechrau tanau a thanau mynydd – Dosbarthwyd parseli bwyd i VAWDASV – 35 o gamerâu mewn mannau allweddol yn Abertawe a'r tu allan iddynt – Digwyddiadau ymgysylltu Pawennau ar Batrol mewn parciau

·                     Heddlu De Cymru 

o    Gostyngiad yn y Galw

o    Cynnydd yn y Galw

o    Heriau Mewnol ac Allanol Newydd

o    Cyd-destun Plismona Newydd sy'n Esblygu

o    Gwreiddio Dysgu Drwy Adferiad

·                     Effaith COVID-19 (23 Mawrth 20 – 22 Mawrth 21) – Cynnydd mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (gyda'r mwyafrif yn gysylltiedig â COVID-19) – gweithio ar ymyrryd yn gynnar a defnyddio gorfodaeth fel dewis olaf – Niweidiau cudd e.e. Ni adroddwyd am drais domestig cymaint

·                     Cyfanswm Troseddau a Gofnodwyd Dros Amser – sut roedd troseddau'n symud o le i le mewn perthynas â'r cyfyngiadau symud

·                     Mannau lle ceir llawer o droseddu

o    Cydlyniant – Llais Cymru

o    Protestiadau – Mae Bywydau Du o Bwys (BLM), Lladd y Bil ac Adennill y Strydoedd

o    SA1 / Traethau / Mannau allweddol

o    Effaith Digartrefedd mewn Llety Dros Dro

o    Rheoliadau COVID-19 – y 4 'E'

o    Busnes Dyddiol – VAWDASV/Camddefnyddio Sylweddau/Troseddau Casineb

·                     Heriau 

o    Partneriaeth

o    Canlyniadau Ymarferol Newid Rheoliadau

o    Ymateb Cymesur ond Cadarn

o    Caniatâd

o    Lles

o    Adfer

·                     Ystadegau Perfformiad a Throseddau

o    Trais yn erbyn Menywod a Merched

o    Troseddau Casineb

o    YMGYRCH SCEPTRE – Troseddau/Digwyddiadau sy'n cynnwys cyllyll

o    Masnachu Cyffuriau

·                     Y dyfodol

o    Adfer

o    Cadwch y Darnau Da

o    Y 12 mis nesaf - Heriau ar y Cyd

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·         Strategaeth Gymunedol Abertawe Mwy Diogel – y broses ar gyfer ymgynghori ar y strategaeth a'i hadnewyddu

·         Profiad ym maes torri rheolau a rheoliadau COVID-19 - nodwyd mai'r brif broblem oedd ymgynnull dan do - cyflwynwyd 846 o hysbysiadau o gosb benodol am ymgynnull dan do

·         Effaith COVID-19 ar drosedd ac anhrefn – clywyd am ymgysylltu ar-lein, gosodwyd camerâu mewn mannau lle mae trosedd ac anhrefn yn digwydd yn gyson

·         Dwyn Cŵn – nid oedd yn ymddangos bod cynnydd yn nifer y cŵn a gafodd eu dwyn yn Abertawe, yn groes i amgyffrediad y cyhoedd – roedd menter Pawennau ar Batrol yn tawelu meddyliau perchnogion cŵn ar hyn

·         Paratoadau wrth i'r cyfyngiadau symud ddod i ben ac effeithiau posib hynny – sefydlu clybiau ieuenctid

·         Cynnydd mewn dwyn trawsnewidwyr catalytig – dywedwyd wrthynt am weithred i sicrhau bod prosesau cywir ar gyfer trafod nwyddau o'r fath yn cael eu dilyn

·         Cynnydd mewn fandaliaeth mewn rhai ardaloedd – ffocws y grŵp datrys problemau lleol

·         Yfed a gyrru/ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lan y môr/partïon ar y traeth - gwydr ar y traeth – pwerau posib i atal problemau

·         Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - yn ddatrysiad posib ond dylid bod yn ofalus nad yw'n symud pobl yn unig ac yn symud y broblem i rywle arall

·         Mynd i'r afael â Throseddau Casineb – mae Swyddogion Troseddau Casineb penodedig sy'n cysylltu â chydlyniant

·         Ofn yr heddlu 

·         Arddangosiadau cyhoeddus yn Abertawe - wedi'u plismona'n heddychlon lle'u trefnwyd yn gywir a chadwyd a phellter cymdeithasol

·         Parhad Arolygwyr yr Heddlu a chyfathrebu ag Aelodau Lleol i ddatblygu perthnasau

·         Pwerau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu – natur y rôl a phwerau ychwanegol a roddwyd y tu allan i Gymru

·         Gweithredu yn erbyn y rheini sy'n byw oddi ar enillion anfoesol

·         Ariannu Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel - nodwyd nad oes cyllid wedi'i neilltuo, ond derbyniwyd rhai grantiau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

·         Cydbwysedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Swyddogion yr Heddlu

·         Adrodd ar wybodaeth/rwydwaith o ddata

·         Darparu allgymorth ar-lein yn y dyfodol – cydbwysedd cymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb, cafwyd rhai achosion lle'r oedd wyneb yn wyneb yn bwysig

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol.

71.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Yr Amgylchedd Naturiol (Y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd, adroddiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y Panel Craffu Perfformiad - Yr Amgylchedd Naturiol.

 

Sefydlwyd y panel newydd ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd wedi cyfarfod 5 gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw. Byddai'n cyfarfod bob deufis yn y dyfodol.

 

Tynnwyd sylw at gyflawniadau'r paneli a'r gwaith a drefnwyd yn y dyfodol, yn enwedig canlyniadau cadarnhaol o graffu a arweiniodd at benodi Swyddog Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 ac Ecolegydd Cynllunio.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

72.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Ni chafwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad. 

73.

Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2020/21. pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/21.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 15 Mehefin 2021. Y brif eitem a drefnwyd oedd Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

74.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. 

75.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfod nesaf paneli/gweithgorau.