Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Mark Child – Cofnod Rhif 60 – Aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol
Bae Abertawe – Personol |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu'r Strategaeth Digartrefedd. PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau/y Dirprwy Arweinydd 'Adroddiad
Cynnydd ar y Strategaeth Digartrefedd'. Roedd y Pennaeth
Tai ac Iechyd y Cyhoedd, y Rheolwr Gweithrediadau, y Gwasanaethau Tai Cymunedol
a'r Uwch-swyddog Rheoli Polisi a Lesddaliadau hefyd
yn bresennol. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r cynnydd gyda Strategaeth Digartrefedd y cyngor ers
iddi gael ei mabwysiadu gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2018. Amlygodd Aelod y
Cabinet y canlynol: ·
Mae
wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'r gwasanaeth ·
Ymrwymiad
i’r addewid 'gwely ar gael bob amser' ·
Roedd
y Strategaeth Digartrefedd ar y pwynt canolog ar hyn o bryd ·
Er
gwaethaf y pandemig gwnaed cynnydd da ar bob un o 5
amcan y strategaeth ·
Roedd
y pandemig wedi arwain at waith partneriaeth rhagorol
a gobeithiwyd y byddai hynny'n parhau Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Beth
oedd wedi newid ers i'r strategaeth ddechrau – a oedd unrhyw elfennau'n
ddiangen o ystyried y sefyllfa bresennol. Nodwyd bod y pandemig
wedi cyflymu cynlluniau mewn sawl ffordd ·
Cyllid
a chynaliadwyedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn ystod y pandemig ·
Canolbwyntio
ar ymagwedd ailgartrefu cyflym – lapio cymorth amlasiantaethol
o amgylch pobl i'w helpu i lwyddo yn eu tenantiaethau ·
Mae’n
debygol y caiff y prawf 'angen blaenoriaethol' ei ddileu fel maen prawf ar gyfer
tai – effeithiau posibl ar gyllid, adnoddau a'r system bwyntiau gyfredol ·
Newid
amgyffrediad y cyhoedd o ddigartrefedd ·
Nifer
y bobl ddigartref mewn llety Gwely a Brecwast – ymdrechion i gael tai mwy
cynaliadwy y lle hyn ·
Yr
angen i gynyddu'r cyflenwad o eiddo 1 ystafell wely – nid yw'r cyflenwad yn
ateb y galw ·
Cynnal
adolygiad tai â chymorth dros dro ·
Gwella'r
sefyllfa i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid – darparu cymorth ar gyfer anghenion
sylweddol, yn enwedig i’r rheini sy'n gadael llety’r Swyddfa Gartref wrth newid
statws. Nodwyd bod Abertawe yn un o bedair ardal wasgaru yng Nghymru ·
Hyfforddiant
ar 'Amgylchedd sy'n Seicolegol Wybodus' – effaith hynny – dyddiau cynnar i
asesu effaith yr hyfforddiant hwn ·
Effaith
digartrefedd ar blant a phobl ifanc mewn perthynas â'u haddysg – sicrhau nad
oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl ·
Plant
sy'n gadael gofal – dywedwyd bod cymorth er mwyn bod yn 'barod ar gyfer
tenantiaeth' yn gweithio'n dda ·
Targed
i osgoi tai Gwely a Brecwast i deuluoedd ·
Symud
oddi wrth ddatblygu 'canolfan atebion' gyfannol – opsiynau amgen ar gyfer
gwasanaethau o'r fath gyda mwy o weithio allgymorth neu rai gwasanaethau a
ddarperir mewn canolfannau eraill fel Tŷ Tom Jones neu Ganolfan Canol y
Ddinas. ·
Gweithio
mewn partneriaeth rhwng y cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i
atal digartrefedd ·
Cynnydd
y rhaglen frechu mewn perthynas â'r rheini sydd wedi cael eu lletya gan y
cyngor ·
Darpariaeth/Cyllid
i Gefnogi Iechyd Meddwl ·
Cynnydd
o ran darparu tai i'r rheini ag anifeiliaid anwes Nododd y pwyllgor
ac Aelod y Cabinet y gwaith rhagorol a wnaed gan staff yn ystod y pandemig. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet a'r swyddogion ar ran y Pwyllgor Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd, yr wybodaeth ddiweddaraf am y Panel Craffu
Perfformiad Datblygu ac Adfywio. Yn dilyn yr
adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, tynnodd sylw'n benodol at y ffaith bod y
panel yn edrych ar ystod eang o bynciau yn ogystal â'r Fargen Ddinas. Byddai
cam nesaf Datblygiad Canol y Ddinas yn hanfodol o ran llwyddiant y prosiect ar
gyfer Abertawe a byddai'n parhau i gael ei fonitro gan y panel. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 230 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Hysbyswyd y pwyllgor fod y Cynghorydd Peter Jones wedi'i ailbenodi'n Gynullydd Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol. |
|
Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2020/22. PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2022/22. Nododd y Cadeirydd fod y Gweithgor Craffu ar y Gweithlu wedi cyfarfod ar 29 Mawrth 2021. Cymeradwyodd y pwyllgor gais y Gweithgor i gyfarfod eto ymhen 6 mis i ailedrych ar y pwnc. Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 18 Mai 2021. Y brif eitem a drefnwyd oedd Craffu ar Drosedd ac Anhrefn, a fyddai'n edrych ar berfformiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe, Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm
Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 194 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|