Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Mike Day – Cofnod Rhif 40 –
Mae'n byw gyferbyn ag un o'r cynlluniau teithio llesol a drafodwyd –
Personol Y Cynghorydd Mark Child – Cofnod Rhif 40 – Aelod ward ar gyfer West Cross,
soniwyd am Fairwood Road yn ystod trafodaethau – Personol |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2019/20. PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Craffu Adroddiad Blynyddol Craffu 2019/20. Mae'r adroddiad yn
amlygu'r gwaith a wnaed gan graffu, ac yn dangos sut mae craffu wedi gwneud
gwahaniaeth wrth hefyd gefnogi gwelliant parhaus swyddogaeth craffu. Mae'r
adroddiad hefyd yn sôn am bandemig ac adnoddau
COVID-19, a gafodd effaith ar gyflawni'r rhaglen waith craffu yn ystod 2019/20.
Tynnwyd sylw at
bwysigrwydd craffu a'r angen i hyrwyddo'r gwaith a wnaed yn benodol mewn
meysydd lle'r oedd craffu wedi cael effaith ac wedi gwneud gwelliannau. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb a gymerodd ran yn y gwaith craffu. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Craffu 2019/20 a'i roi gerbron y cyngor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd, Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a thrafodwyd gweithgareddau'r panel
dros y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd sylw'n benodol at y ffaith bod eleni wedi
bod yn unigryw iawn a gwariwyd ar bethau na fyddent fel arfer yn ddisgwyliedig
e.e. adeiladu ysbyty Maes y Bae, gwario ar offer cyfarpar amddiffyn personol ac
ati. Dywedodd fod y
cyngor wedi perfformio'n dda yn ystod y pandemig ac y
dylid canmol yr holl staff. Er enghraifft, roedd gwaith gwasanaethau casglu
gwastraff wedi bod yn rhagorol yn ystod y pandemig yn
ogystal â'r swyddogion a oedd wedi rhoi ad-daliadau a grantiau niferus i helpu
busnesau bach. Mae llawer o
staff wedi gorfod ymdrin â COVID-19 yn bersonol, p'un a oeddent wedi bod yn sâl
eu hunain, neu fod aelodau o'u teulu wedi bod yn sâl neu wedi dioddef
profedigaeth. Roedd wedi bod yn gyfnod llawn straen i'r staff a theimlwyd y
dylid cydnabod eu hymdrechion a'r gwaith rhagorol a wnaed ganddynt yn ystod y
cyfnod hwn ym mha ffordd bynnag y bo modd yn y dyfodol. O ystyried
blwyddyn ddigynsail ac effaith y pandemig,
ychwanegodd ei fod yn anodd dweud beth fyddai'r sefyllfa ariannol yn y dyfodol,
ond bydd y panel yn monitro'r gyllideb yn ofalus. Nododd y
Cadeirydd fod COVID-19 wedi cael effaith ar incwm y cyngor (rhenti, Treth y
Cyngor, ac ati) ac y byddai'n werth monitro o hyn ymlaen, asesu'r incwm a
gollwyd ar draws pob ffrwd incwm, a gweld pa mor dda y mae hyn wedi cael ei
adennill. Penderfynwyd nodi'r diweddariad. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl
cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Gofynnodd Mr
Anderson a oedd yn siarad ar ran Cymdeithas Preswylwyr Blackpill, Derwen Fawr a
Mayals y cwestiwn canlynol:- Mae paragraff 3.1.3
o'r Canllawiau Dylunio yn datgan: 'Dylai ymgynghori arwain at ddylunio gwell a
chynlluniau gwell. O ganlyniad, mae'n well ei wneud ar sawl cam: o ddatblygu'r
rhwydwaith i gynlluniau unigol. (...) a chael mwy o gefnogaeth gymunedol.' O
ystyried y protestiadau cyhoeddus enfawr yn erbyn y ddau gynllun (Olchfa a
Mayals) a'r gred gyffredinol bod dewisiadau amgen gwell ar gael i'r ddau, pam
yr anwybyddwyd yr agwedd hon? Cadarnhaodd Aelod
y Cabinet fod y cyngor yn gweithredu o dan ganllawiau teithio llesol 2014 ac
archwiliwyd i bob dewis arall a awgrymwyd. Fe’u gwrthodwyd gan nad oedent yn
ymarferol. Dywedodd fod yr holl ofynion o dan y canllawiau presennol yn cael eu
bodloni, ac yn ogystal â hyn mae'r cyngor wedi ymgysylltu ag unrhyw un sydd
wedi bod mewn cysylltiad â’u barn. Lle y bo'n bosibl, mae newidiadau wedi'u
gwneud i'r llwybrau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Cafwyd trafodaeth
am y canllawiau dylunio sydd ar waith a oedd yn cael ei ddiwygio ar hyn o bryd
gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Aelod y Cabinet
y byddai arfer ynghylch ymgynghori’n cael ei addasu pe bai angen yn unol ag
unrhyw ganllawiau newydd a gyhoeddir yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru. Gan fod nifer o aelodau'r cyhoedd nad oeddent yn bresennol wedi cyflwyno cwestiynau, gofynnodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd roi ymateb ysgrifenedig i bob un. Ychwanegodd y byddai rhai o'r materion a godwyd yn cael sylw yn ystod trafodaeth y pwyllgor gydag Aelod y Cabinet. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Pennaeth Priffyrdd a
Thrafnidiaeth, Rheolwr yr Uned Drafnidiaeth Integredig, Prif Beiriannydd
Priffyrdd a Chludiant ac Arweinydd y Tîm Priffyrdd a Chludiant yn bresennol er
mwyn i'r pwyllgorau ystyried y broses ymgynghori ar deithio llesol. Tynnodd y
Cadeirydd sylw at y ffaith mai nod yr eitem hon, oedd holi ynghylch proses
ymgynghori'r cyngor ar deithio llesol ac ystyried gwelliannau posibl ar gyfer y
dyfodol, a hynny oherwydd pryderon y cyhoedd. Pwysleisiodd nad oedd yn ymwneud
ag edrych ar fanylion cynlluniau penodol y cytunwyd arnynt eisoes, nac
ymholiadau sy'n benodol i safle, ond y profiad cyffredinol o ymgynghori. Darparodd yr
Aelod y Cabinet amlinelliad o'r ymgynghoriad ar deithio llesol a dilynwyd hyn
gan drosolwg o'r broses gan Arweinydd y Tîm, Priffyrdd a Chludiant ac yna
drosolwg o’r broses gyflawni gan y Prif Beiriannydd, Priffyrdd a Chludiant.
Tynnwyd sylw at y canlynol: ·
Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013 – mae’n gosod cyfrifoldeb statudol ar y cyngor i
fapio, cynllunio a gwneud gwelliannau i'w rwydweithiau teithio llesol ·
Deddf
Llesiant a Chynhyrchu'r Dyfodol (Cymru) 2015 – mae’n gosod dyletswydd ar gyrff
cyhoeddus i roi'r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith ym mhopeth y mae’n ei
wneud – 5 ffordd o weithio ·
Aiff
yr holl gynlluniau teithio llesol drwy Broses Fframwaith Cenedlaethau'r Dyfodol
ac asesir pob cynllun gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r Arweiniad ar
Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. ·
Yn
2016 creodd Cyngor Abertawe 2 Fap fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013 – 1 map oedd y Map Llwybrau Presennol (MLlP)
a'r llall oedd y Map Rhwydwaith Integredig (MRhI) ar
gyfer llwybrau cerdded a beicio ·
Cyhoeddwyd
yr MRhI drafft i ymgynghori arno yn 2017, ac fe'i
hanfonwyd wedyn at Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ·
Gwneir
ceisiadau am grant bob blwyddyn yn seiliedig ar y map ·
Y
broses o wneud cais am grant - mae Llywodraeth Cymru'n clustnodi cyllid grant
bob blwyddyn – gwahoddir ceisiadau am grant tua mis Rhagfyr/mis Ionawr, gan roi
tua 4-6 wythnos i lunio'r ceisiadau am grant. Cyhoeddir canlyniadau'r cais
hwnnw’n gyffredinol ym mis Mai/Mehefin ac mae'n rhaid cyflawni'r cynlluniau
erbyn diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn ariannol honno ·
Eleni,
ar ôl clustnodi’r cyllid grant, hysbyswyd aelodau ward mewn ardaloedd lle
cymeradwywyd cynlluniau gan y Cynghorydd Mark Thomas ·
Roedd
cyfnod byr i ddatblygu'r rhaglen fanwl ar ôl i’r arian grant gael ei gymeradwyo ·
Dosbarthwyd
llythyrau am rai cynlluniau i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol
yn ogystal â sesiynau MS Teams ar gynlluniau Mayals a
Sgeti ·
Unwaith
y cytunwyd ar gynlluniau byddai unrhyw awgrymiadau ar gyfer
gwelliannau/diwygiadau wedi'u cadw o fewn y cynllun y cytunwyd arno Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Holi
ynghylch pa fanylion penodol am gynlluniau a gynhwyswyd yn adroddiad Cabinet
FPR7 ym mis Gorffennaf 2020 – dywedodd swyddogion y cyfeiriwyd at fapiau fel
papurau cefndir ·
Hysbysu
Aelodau perthnasol y Ward am gynlluniau ·
Ymgynghoriad
ar ddatblygu'r mapiau rhwydwaith/llwybrau - Syniadau ar gyfer gwella cynlluniau
neu ychwanegu atynt. ·
A
gynhaliwyd astudiaethau dichonoldeb cyn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian
grant – dywedwyd y dilynwyd yr holl ganllawiau ·
A
oedd y cyngor wedi derbyn unrhyw bryderon gan Lywodraeth Cymru ynghylch dull
Cyngor Abertawe o ymdrin â theithio llesol – dywedwyd na fu unrhyw bryderon ·
Cyfle
i ymgynghori ar gynlluniau a’u diwygio ar ôl cytuno arnynt. Gofynnodd y
pwyllgor i weld unrhyw bapurau a gododd o gyfarfodydd rhithwir a gynhaliwyd
ynglŷn â chynllun Mayals yn ogystal ag eglurder
ynghylch nifer y llythyrau a anfonwyd at breswylwyr ·
A
yw'r canllawiau statudol yn darparu ar gyfer ymgynghori digonol – o ystyried
profiad y preswylwyr a’r ffaith eu bod yn teimlo nad ymgynghorwyd â hwy ·
Archwiliadau
diogelwch ffyrdd a gynhaliwyd ar bob cynllun ac amodau ar gyfer llwybr a rennir
o’i gymharu â llwybr ar wahân ·
Cysondeb
mewn agweddau – crybwyllwyd Cynllun Walters Road fel cynllun mawr yr oedd angen
agwedd wahanol ar ei gyfer, rhywbeth nad yw'n bosib ei wneud ar bob cynllun os
ydynt yn mynd i ddatblygu ·
Rheoli'r
ffactorau a'r safbwyntiau sy'n cystadlu a barn pawb ·
Pobl
yn teimlo nad ydynt yn ymwybodol ac nad ymgynghorwyd â hwy ar y cynlluniau hyn
sy'n arwain at ragor o waith i'r cyngor o ran mynd i'r afael â hyn/ymateb iddo ·
Gwersi
a ddysgwyd o brofiad diweddar ·
Anawsterau
ymarferol gan gynnwys cyfyngiadau amser ar gynlluniau teithio llesol ar ôl i'r
cyllid gael ei gadarnhau. Diolchodd y
cadeirydd i Aelodau a Swyddogion y Cabinet. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 230 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Ni chafwyd unrhyw
ddiwygiadau. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2020/2022. PDF 260 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22. Trefnwyd cyfarfod
nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 16 Mawrth 2021. Y prif eitemau a drefnwyd
oedd Adroddiad Cynnydd Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2019 a chraffu cyn
penderfynu ar adroddiad y Cabinet ar 'Achos Busnes dros Adleoli'r Ganolfan
Ddinesig'. Nodwyd y gallai
adroddiad y Cabinet gael ei ohirio, felly byddai craffu'n symud ymlaen yn unol
â hynny. Teimlai'r
Cadeirydd y dylai'r pwyllgor ailedrych ar Gynllun Adferiad COVID-19 y cyngor a
chytunodd y pwyllgor y dylai ofyn am adroddiad cynnydd ar gyfer cyfarfod mis
Mawrth hefyd. Dywedodd y
Cynghorydd Chris Holley ei fod wedi cael cais i edrych ar Is-ddeddfau'r cyngor
a'i fod wedi cael rhywfaint o drafodaeth anffurfiol gychwynnol â swyddogion
ynglŷn â chraffu. Dywedodd y byddai hyn yn cael ei archwilio yng nghyfarfod
y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Chyllid yn y dyfodol. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Nododd y pwyllgor
ganlyniad cyfarfod dilynol yr Ymchwiliad Cydraddoldeb ar 28 Ionawr, a oedd yn
edrych ar gynnydd y gwaith o roi argymhellion craffu ar waith ac effaith yr
ymchwiliad. Er i'r panel gydnabod rhywfaint o gynnydd da, a gynullwyd gan y
Cynghorydd Lyndon Jones, teimlwyd bod angen cynnal cyfarfod dilynol pellach,
tua mis Tachwedd 2021, a fydd yn caniatáu i'r panel ystyried ac asesu'n well y
cynnydd a wnaed ac effaith yr ymchwiliad, cyn i'r gwaith monitro ffurfiol ddod
i ben. Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 197 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfod nesaf y panel/gweithgor. |
|