Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol gyngor i Aelodau'r Pwyllgor ar ddatgelu
buddiannau personol a rhagfarnol. Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd Cyril
Anderson – Personol – Cofnod rhif 29 – Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio Y Cynghorydd Jeff
Jones – Personol – Cofnod Rhif 29 – Mae ei wraig yn aelod o'r Pwyllgor
Cynllunio Y Cynghorydd Will
Thomas – Rhagfarnol – Cofnod Rhif 29 – Aelod o Gyngor
Cymuned y Mwmbwls Y Cynghorydd Mike White – Personol – Cofnod Rhif 29 - Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Cyflwynodd aelod
o'r cyhoedd y cwestiynau canlynol: - 1)
Deallwn
mai cylch gwaith y Pwyllgor yw penderfynu ar brydles safle Llwynderw
i Gyngor Cymuned y Mwmbwls, gan fod cynllunio ar gyfer yr ailddatblygiad
arfaethedig eisoes wedi bod drwy broses lawn ac wedi'i gymeradwyo. A allai'r
Pwyllgor gadarnhau bod hyn yn gywir? 2)
Rydym
yn ymwybodol o'r gefnogaeth gref i ailddatblygu safle Llwynderw
gan y cymunedau sglefrfyddio, BMX a sgwter, ymhlith
eraill, a'r pryderon a fynegwyd ynglŷn â'r amser y mae'r broses wedi'i
gymryd hyd yma. Rydym hefyd yn ymwybodol y bydd y gymuned, wrth i'r cyfyngiadau
symud ddod i ben, yn awyddus i fanteisio ar gyfleusterau a difyrion nad ydynt
wedi gallu eu mwynhau ers peth amser. Gan ragdybio bod y cynnig yn cael ei
gymeradwyo, beth fyddai'r amserlen ragweladwy ar gyfer llofnodi'r brydles, er
mwyn galluogi'r ailddatblygiad i ddechrau o ddifri, ac a fyddai'n ymarferol
gobeithio y gellid cwblhau'r datblygiad cyn haf 2021? Cadarnhaodd y
Cadeirydd mai nid cylch gwaith Pwyllgor y Rhaglen Graffu oedd gwneud
penderfyniad ar y brydles, ond cwestiynu a thrafod y mater gydag aelodau
perthnasol y Cabinet ac yna cyflwyno barn y Pwyllgor i'r Cabinet fel y gallai
ystyried hyn fel rhan o'u penderfyniadau. Cadarnhaodd Aelodau'r Cabinet hefyd, pe bai'r penderfyniad yn cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet, y byddai'r cyngor yn ceisio symud y mater yn ei flaen cyn gynted â phosib, gan sicrhau hefyd y dilynir y broses briodol yn gywir a chan ystyried y pwysau presennol o ymdrin â pandemig COVID-19. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad ar benawdau allweddol Portffolio'r Economi, Cyllid a
Strategaeth. Tynnodd sylw hefyd at natur ddigynsail y 9 mis diwethaf a
diolchodd i'r holl staff gan gynnwys holl staff yr ysgol yn ogystal ag uwch-swyddogion
a chydweithwyr yn y Cabinet sydd wedi gweithio'n galed i ddarparu ymateb i
COVID-19. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:- COVID-19 · Cynnydd ar y rhaglen frechu – problemau cychwynnol – nodwyd bod bron 21,000 o frechiadau wedi'u rhoi erbyn hyn. · Rhaglen i roi ail ddos o'r brechiadau. · Sefydlu tair Canolfan Brechu Torfol – Ysbyty'r Bae, Margam a Chanolfan Gorseinon. · Cynnydd da o ran brechu staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal. · Roedd y broses o roi brechiadau i bobl dros 75 oed a 70 oed, wedi dechrau. · Yr oedd pob un o'r 49 o feddygfeydd bellach yn cymryd rhan yn y rhaglen frechu. · Ar y trywydd iawn i gwblhau'r 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf gan Lywodraeth Cymru erbyn tua 15 Chwefror 2021 – yn dibynnu ar gyflenwadau o'r brechlynnau ac adnoddau. · Ei nod oedd symud i Grwpiau Blaenoriaeth 5-9 erbyn y gwanwyn · Posibilrwydd ac ymarferoldeb canolfannau brechu gyrru drwyddo. · Cynllunio rhag Argyfyngau Lleol – parodrwydd ar gyfer y pandemig a'r gwersi a ddysgwyd, gan gynnwys strwythurau cadernid rhanbarthol sydd ar waith. · Ymateb i ddarparu ac ailgynllunio gwasanaethau yn ystod y pandemig a sefydlu gweithio o bell. · Roedd paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb wedi darparu rhywfaint o gymorth wrth ymateb i COVID-19 a pharodrwydd. · Cyfradd tâl y gweithwyr rheng flaen/gweithwyr allweddol – mater cenedlaethol. Brexit · Effaith Brexit ar Abertawe yn sgîl y cytundeb y cytunwyd arno – dyddiau cynnar, protestiadau gan y diwydiant pysgota, rhai problemau’n ymwneud â masnach ddiffwdan. · Anhawster gweld effaith lawn ochr yn ochr â'r pandemig. · Dangosodd asesiad blaenorol y byddai Cymru'n colli £1.5 biliwn o leiaf hyd yn oed pe byddai bargen dda. · Pwysigrwydd gwneud y gorau o'r sefyllfa bresennol. · Parhau i fonitro goblygiadau Brexit. · Cynnydd ac eglurder ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin. · Pwysigrwydd cynllun ERASMUS a'r posibilrwydd o barhau â'r cynllun. · Cynnal a gwella cysylltiadau â Mannheim – gefeillddinas Abertawe yn yr Almaen. · Diogelu hawliau gweithwyr – gweithlu medrus sy'n cael eu talu'n dda. Cyllideb · Y gallu i gyflwyno cyllideb gytbwys yng ngoleuni Brexit a COVID-19 – rhagwelwyd y byddai cyllideb gytbwys yn cael ei chyflwyno a'r gobaith oedd cael cyllideb gadarnhaol. · Gwaith rhyfeddol y tîm cyllid wrth weinyddu cymorth/grantiau/cefnogaeth yn ystod y pandemig. Gweithio mewn Partneriaeth a Gweithio'n Rhanbarthol · Edrych ar weithio mewn partneriaeth ac a fyddai'n werth dod â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg at ei gilydd – gan edrych ar ôl troed gweithio'n rhanbarthol a symleiddio strwythurau. Canol y ddinas · Cyfansoddiad y 467 o swyddi ychwanegol a ragwelir (cyfwerth ag amser llawn) a grëwyd yn sgîl datblygiad yr arena. · Sefyllfa bresennol Debenhams - siop a phenderfyniadau cenedlaethol, ond byddai'r cyngor yn ceisio cefnogi lle bo'n bosib. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
a) Rôl
y pwyllgor. b) Ystyried
Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau. c) Barn y pwyllgor i'r Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Aelod y
Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, a swyddogion perthnasol yn bresennol er
mwyn i'r Pwyllgor ystyried adroddiad y Cabinet ar 'Brydles Arfaethedig i Gyngor
Cymuned y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol' Roedd adroddiad y Cabinet yn ymwneud â gwaredu tir i Gyngor Cymuned y
Mwmbwls er mwyn adeiladu a rheoli Parc Sglefrio newydd ar y safle y cyfeirir
ato fel Llwynderw. Amlygodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau yr adroddiad
cynhwysfawr a nododd fod caniatâd cynllunio wedi'i roi. Roedd yn gyfle cyffrous
i'r ddinas. Amlygodd y
Cadeirydd y ffaith nad oedd y Pwyllgor yn gwneud penderfyniad ar y brydles, ond
ei fod am roi ei farn ac unrhyw argymhellion i'r Cabinet. Arhosodd y
Cynghorydd Will Thomas yn y cyfarfod i roi barn yn unig, gan ddweud bod angen gwelliannau
i'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol, yna gadawodd y cyfarfod, heb gymryd
unrhyw ran yn y drafodaeth ar yr eitem hon.
Mynegodd y
Cynghorydd Linda-Tyler Lloyd, y cymeradwywyd ei chais i annerch y Pwyllgor,
farn fel aelod lleol am leoliad datblygiad arfaethedig y parc sglefrio gan
Gyngor Cymuned y Mwmbwls a'r manteision o ddefnyddio safle Lido Blackpill ar
gyfer y datblygiad yn lle. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:- ·
Materion
diogelwch am ei fod wrth ymyl y brif ffordd a mynediad i'r datblygiad ·
Effaith
ar yr ardal gyfagos, gan ei bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ·
Caniatâd
Cynllunio – asesiadau effaith adroddiadau priffyrdd ac ecolegol, yn ogystal ag
argymhellion/gofynion cynllunio ·
Adroddiad
annibynnol a luniwyd gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls ar safleoedd posib ·
Ymateb
i ymgynghoriad – ymatebion cadarnhaol ar y cyfan gydag ymateb mawr gan bobl
ifanc hefyd Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd. I gloi, cytunodd
y Pwyllgor yr aethpwyd i'r afael â'r holl gwestiynau a godwyd a'u bod yn hapus
i gefnogi'r penderfyniad arfaethedig yng ngoleuni'r ymateb cadarnhaol i'r
ymgynghoriad ynglŷn â gwaredu, a'r tebygolrwydd y byddai'r datblygiad yn
cael ei gyflawni'n llwyddiannus gan y Cyngor Cymuned a chanlyniad cadarnhaol
i'r ddinas a defnyddwyr, yn enwedig pobl ifanc.
Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff
adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Ionawr 2021 cyn iddynt benderfynu ar
adroddiad y cabinet. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 231 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu', yn dilyn cytuno
ar raglen waith craffu Penderfynwyd ychwanegu'r Cynghorydd June Burtonshaw at Weithgor Craffu'r Gwasanaethau Bysus. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2020/2022 PDF 262 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22. Nododd y
Cadeirydd fod cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 16 Chwefror 2021 lle
trefnwyd cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc.
Hysbysodd y Pwyllgor hefyd y byddai'r gwaith craffu cyn penderfynu arfaethedig
ar adroddiad y Cabinet 'Achos Busnes dros Adleoli'r Ganolfan Ddinesig' yn cael
ei ohirio i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth gan fod yr adroddiad hwn bellach
wedi'i restru ar gyfer Cabinet mis Mawrth. Rhybuddiodd y
Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor am gyswllt cyhoeddus diweddar ynghylch cynlluniau
Teithio Llesol y cyngor a phryderon penodol a ddygwyd i sylw'r pwyllgor craffu.
Gwahoddodd Aelodau'r Pwyllgor i ystyried a ddylid gofyn i Aelod y Cabinet dros
Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i'r Pwyllgor ddod i drafodaeth a allai
ganolbwyntio ar y broses ymgynghori a ddilynwyd, ac i fyfyrio ar brofiad
diweddar a phryderon y cyhoedd. Penderfynwyd y dylid gwahodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i gyfarfod mis Chwefror y Pwyllgor i drafod y broses ymgynghori ar Deithio Llesol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 197 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu PDF 240 KB |
|