Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

15.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 249 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

17.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

18.

Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 258 KB

a) Gwybodaeth Gefndir

b) Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2019/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad ar 'Graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe' a chroesawodd y Cynghorydd Andrea Lewis, y Cynghorydd Clive Lloyd, Roger Thomas, Adam Hill a Cherrie Bija a oedd i gyd yn bresennol i ystyried yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Clive Lloyd, cyn-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, Adroddiad Blynyddol 19/20 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a thynnodd sylw at y canlynol:

 

·            Adolygiad Llywodraethu a Strwythur Newydd

·            Gweithio tuag at fethodoleg sy'n fwy seiliedig ar gyd-gynhyrchu

·            Sefydlu 4 amcan allweddol - 

1.   Blynyddoedd Cynnar

2.   Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda

3.   Gweithio gyda Natur

4.   Cymunedau cryf

·            Ymgorffori'r pedwar amcan yn sefydliadau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'u busnes dyddiol

·            Y gallu i ymateb a chydweithio ar faterion allweddol wrth iddynt godi e.e. diogelwch cymunedol a grwpiau digwyddiadau critigol ar linellau sirol

·            Effaith COVID-19 - dim cyfarfod ffurfiol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, ond cafwyd ymateb rhanbarthol a chydweithio ardderchog yn ystod y pandemig

·            Ystyried Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mwy rhanbarthol

 

Amlinellodd y Cynghorydd Andrea Lewis, Cadeirydd presennol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rai meysydd cynnydd ers cymryd yr awenau fel Cadeirydd

 

·            Sefydlu 3 maes blaenoriaeth ar ôl COVID-19

1.   Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt

2.   Agenda Newid yn yr Hinsawdd Werdd

3.   Llinellau Sirol, camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

·            Siarter Newid yn yr Hinsawdd i'w chyflwyno i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i annog sefydliadau partner i ymuno â'r siarter

·            Cyffredinrwydd a chydweithio ar faterion rhanbarthol fel camddefnyddio sylweddau

 

Nododd Adam Hill, Dirprwy Brif Weithredwr, fod y cysylltiadau a'r rhwydweithiau rhanbarthol a adeiladwyd fel rhan o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn galluogi gwell ymateb i bandemig COVID-19. Tynnodd sylw hefyd at rai meysydd cynnydd allweddol ar draws y 4 amcan lles:

 

·            Blynyddoedd Cynnar – SKIP Meithrin, swyddog 30 awr o ofal plant a ariennir, hyfforddiant nad yw’n hyfforddiant Dechrau'n Deg, ymgyrch Dechrau Gorau

·            Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda – Y Sgwrs Fawr - fforymau ar draws y sir

·            Gweithio gyda Natur – Digwyddiadau ymgysylltu â'r Isadeiledd Gwyrdd, Cynllun Plannu Coed Trefol, Fforwm Amgylcheddol Abertawe a Chanolfan Amgylcheddol

·            Cymunedau Cryfach – gwelliannau i'r Stryd Fawr yn ogystal ag ymatebion allweddol a chydweithio ar droseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, llinellau sirol, camddefnyddio sylweddau, gweithwyr rhyw ar y stryd a manteisio ar bobl sy'n agored i niwed a mannau cyhoeddus

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·            Cylch Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

·            Cyflawni amcanion lles

·            Rhai enghreifftiau o welliannau/fentrau a weithredwyd – faniau patrolio rheolaidd ar y Stryd Fawr, rhaglen cyfnewid nodwyddau, prosiect SWAMP, parseli bwyd i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod COVID-19, ymgyrch lanhau ar gyfer siopau ac unedau manwerthu, gwella tai ar y Stryd Fawr, ymatebion i ymddygiad gwrthgymdeithasol, plannu coed trefol, Men’s Sheds, cyllid a sicrhawyd ar gyfer tanau ar Kilvey Hill, cynigion gofal plant a Dechrau'n Deg.

·            Grŵp Digwyddiadau Difrifol a chydweithio ar faterion sy’n gofyn am ymateb cyflym

·            Anhawster cyrraedd nodau tymor hir a chyflawni uchelgeisiau gyda heriau ariannol a newid gwleidyddol

·            Archwilio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol er mwyn osgoi dyblygu gwaith i sefydliadau sy'n gweithio ar draws nifer o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

·            Strwythur gweithio mewn partneriaeth yn ystod COVID-19

·            Gwaith o gwmpas gwella pa mor barod yw plant i fynychu'r ysgol – y gallu i fonitro a mesur cynnydd

·            Trefniadau mesur a rheoli perfformiad i ddangos y gwahaniaeth y mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei wneud

·            Anhawster mesur effaith rhai camau gweithredu, yn enwedig rhai tymor hir, ac wrth ddelio â chanlyniadau mwy ansoddol a hefyd lle mae angen ystyried canlyniadau meintiol negyddol e.e. yr hyn na ddigwyddodd o ganlyniad i weithred/fenter

·            Materion ariannu ac adnoddau dan bwysau mewn sefydliadau partner – defnyddioldeb cyllidebau cyfun pe baent ar gael

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Clive Lloyd, y Cynghorydd Andrea Lewis, Roger Thomas ac Adam Hill.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.   

19.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Addysg (Y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Addysg, adroddiad ar 'yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Panel Craffu Perfformiad Addysg'. Amlygodd y canlynol yn benodol: -

 

·            Pryder parhaus ynghylch tanberfformiad plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim

·            Anfonodd y Panel lythyr at yr holl athrawon a staff yn yr adran addysg, yn diolch iddynt am eu gwaith yn ystod y pandemig ac am roi dysgu cyfunol ar waith ar gyfer disgyblion

·            Newidiadau i Gynllun Gwaith y Panel er mwyn peidio ag ychwanegu gormod o waith ychwanegol at y rhai sy'n ymdrin â COVID-19, o ystyried y pwysau presennol

 

Trafododd y pwyllgor yr angen i'r Panel ofyn am ganlyniadau'r Grant Datblygu Disgyblion a monitro ei effaith yn lleol.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

20.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu', yn dilyn cytuno ar raglen waith craffu

 

Penderfynwyd cymeradwyo aelodaeth y paneli a'r gweithgor fel yr amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

21.

Rhaglen Waith Craffu 2020/22. pdf eicon PDF 264 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)          Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22.

 

Nodwyd y byddai'r Rhaglen Waith yn destun ceisiadau gan gynghorwyr/y cyhoedd a dderbynnir drwy gydol y flwyddyn. Derbyniwyd cais cyhoeddus ynglŷn â phryderon ynghylch y gwaith ar y llwybr ceffylau yng nghoedwig Dyffryn Clun, sydd wedi'i anfon at Aelod y Cabinet  dros wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i ymateb iddo. Soniodd y Cadeirydd hefyd am ohebiaeth gyhoeddus a dderbyniwyd gyda safbwyntiau a oedd yn ymwneud â'r adroddiad Cabinet sydd ar y gweill ar 'Prydlesu Arfaethedig i Gyngor Cymunedol y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol', ynghylch datblygu parc sglefrio newydd. Bydd yr adroddiad hwn yn destun craffu cyn penderfynu yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Ionawr.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at gynnwys nifer bach o bynciau penodol yng nghynllun gwaith y pwyllgor er mwyn sicrhau bod digon o sylw i graffu ar draws holl bortffolios y Cabinet a'u bod yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y rhaglen waith gyffredinol.

 

Darparwyd cynlluniau gwaith ar gyfer Paneli Craffu Perfformiad ar gyfer ymwybyddiaeth y Pwyllgor.  Nodwyd bod rhai cynlluniau gwaith y Panel Perfformiad wedi'u haddasu er mwyn cefnogi adrannau i ymdrin â COVID-19 a heb greu llwyth gwaith ychwanegol sylweddol. Cyfeiriodd Cynullydd Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol at ganslo cyfarfod a gynlluniwyd ar gyfer 14 Rhagfyr oherwydd pwysau COVID-19 a oedd yn effeithio ar bresenoldeb aelodau'r Cabinet/swyddogion.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

22.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Roedd hyn yn cynnwys gohebiaeth â'r arweinydd yn dilyn trafodaeth ar yr ymateb i COVID-19 a'r cynllun adfer yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Tachwedd. 

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r tîm craffu.

23.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 192 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 244 KB