Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: PDF 140 KB a) Aelod y Cabinet dros Gyflwyno (y Cynghorydd David
Hopkins). b) Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth
(y Cynghorydd Robert Francis-Davies). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: A)
Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno – (Y Cynghorydd David Hopkins) Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno
adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio. Nodwyd bod ei bortffolio bellach
yn cynnwys cyfrifoldeb am amrywiaeth. Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod
Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Effaith
myfyrwyr a Thai Amlfeddiannaeth ar Abertawe ·
Trwyddedu
a rheolau cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ·
Ansawdd
tai ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ·
Ansawdd
llety rhentu preifat – anawsterau wrth ymdrin â materion yn y sector preifat ·
Integreiddio
amcan newydd y cyngor sef 'cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth
Abertawe' i bolisi cynllunio ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer swyddogion
gorfodi ·
Cynnydd
ar ddefnyddio'r Plasty ar gyfer gweithgareddau masnachol ·
Cyllid
y Fargen Ddinesig ·
Pryder
ynghylch y posibilrwydd o dorri coed yng nghanol y ddinas at ddiben gosod
isadeiledd 5G B)
Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth (y cynghorydd Robert
Francis-Davies) Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar benawdau
allweddol ei bortffolio. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:- ·
Perthynas
gyda phrifysgolion, canolbwyntio ar Abertawe a'i hyrwyddo fel dinas i fyfyrwyr
ac effaith datblygiadau llety newydd i fyfyrwyr ·
Y
diweddaraf am Goridor yr Afon - ffordd gerdded yr afon a strategaeth yr afon ·
Gwaith
ar y bont wrthbwys – amserlenni a chostau rhagweledig ·
Marina
– lefelau angori a chostau presennol, cynlluniau ar gyfer y dyfodol a'r
berthynas gyda Chlwb Iotiau a Thanddwr Abertawe mewn perthynas ag ysgraffau ac
angorau ar lannau'r afon. ·
Y
diweddaraf am brosiect Skyline ar Fynydd Cilfái ·
Cyfleoedd
newydd ar gyfer busnesau lleol a rhanbarthol ·
Cyfleoedd
posib ar gyfer buddsoddi a Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ·
Cynlluniau
tymor hir ar gyfer y Ganolfan Ddinesig ac opsiynau ynghylch adleoli'r
gwasanaeth archifau ·
Prisiad
y Ganolfan Ddinesig ·
Y nod
o adeiladu Pentref Chwaraeon Rhyngwladol neu gaeau chwarae Brenin Siôr V – mae
mwyafrif y cyfleusterau yn eu lle, y mater allweddol o farchnata brandiau ·
Llunio
cytundeb trwydded drafft i gynnwys grwpiau cyfeillion parciau'n ffurfiol er
mwyn gwella'r llywodraethu a'r trefniadau rhwng y cyngor a grwpiau amrywiol a
chynyddu cyfleoedd i sicrhau grantiau ·
Llwyddiant
a datblygiad cynllun beiciau Santander a'r
posibilrwydd o'i ehangu ·
Hanner
canmlwyddiant y ddinas ·
Hysbysiadau
o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â datblygiadau ar lannau Bae Abertawe –
potensial i graffu ar unrhyw ddewisiadau posib a ddeillir o'r ymatebion cyn
gynted â phosib, cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud Diolchodd y
Cadeirydd i ddau aelod y Cabinet Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 112 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Gwahoddodd y
Cadeirydd y pwyllgor i ystyried a ddylid gofyn i Baneli Craffu Perfformiad
presennol benodi cynullydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/20. Cefnogodd y
pwyllgor yr arfer hwn gyda'r disgwyl y gwneir hyn bob blwyddyn (heblaw am
flwyddyn etholiad y cyngor), ac esboniwyd ymhellach pe bai mwy nag un
cynghorydd yn mynegi diddordeb ac, os bydd nifer y pleidleisiau'n gyfartal,
byddai'r bleidlais fwrw gan y Cynullydd sy'n llywyddu. Nodwyd y byddai
angen dileu enwau Aelodau'r Cabinet sydd newydd eu penodi, sef y Cynghorwyr Sam
Pritchard, Alyson Pugh ac Andrew Stevens, o unrhyw baneli neu weithgorau craffu
gweithredol. Penderfynwyd: 1)
Dileu
enw'r Cynghorydd Mo Sykes o'r Panel Perfformiad Ysgolion; 2)
Penodi
Cynullydd newydd i'r Panel Perfformiad Ysgolion; 3)
Dylai'r
Paneli Perfformiad benodi cynullydd; a 4) Dylai Cynullwyr yr holl Baneli Craffu ar Berfformiad barhau i fod yn aelodau heb bleidlais ar Bwyllgor y Rhaglen Graffu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd adroddiad
y llythyrau craffu. Darparodd y Cynghorydd Terry Hennegan, Cynullydd y Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, drosolwg byr o'i lythyr i Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddiadau
Craffu – Nodwyd yr Adroddiad Effaith Chwarterol. Rhoddir yr adroddiad i'r
cyngor i'w drafod. |
|
Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2018/19. PDF 200 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd Adolygiad
Blynyddol y Rhaglen Waith ar gyfer 2018/19. Cyfeiriodd y Cadeirydd
at weithdy a oedd wedi'i drefnu i aelodau'r pwyllgor ac a gynhaliwyd ar 2 Mai
2019. Ymysg y materion a godwyd yn ystod y gweithdy, amlygodd y Cadeirydd awydd
aelodau i sefydlu panel perfformiad a fyddai'n canolbwyntio ar yr amgylchedd
naturiol, sy'n un o flaenoriaethau'r cyngor. Cytunwyd y caiff Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol ei sefydlu. Caiff hyn ei ystyried yn llawn yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith ar y cyd ag ystyriaethau eraill o'r rhaglen. Anogir cynghorwyr i fynegi diddordeb. |
|
Dyddiad ac Amserau Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. PDF 49 KB Cofnodion: Rhoddwyd
dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflwyno - Sesiwn Holi ac Ateb PDF 244 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth - Sesiwn Holi ac Ateb PDF 257 KB |