Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad ar benawdau allweddol eu
portffolios. Yn ogystal â'r
adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, amlinellodd Aelodau'r Cabinet rai
diwygiadau i'w portffolios, gan nodi bod rhai meysydd wedi'u trosglwyddo rhwng
Cymunedau Gwell (Lleoedd) a Chymunedau Gwell (Pobl). Amlygon hefyd
weithgareddau a oedd yn berthnasol i'r canlynol: - ·
Arwain
ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ·
Cydraddoldeb
ac Amrywiaeth ·
Rhandiroedd ·
Gwasanaethau
Lleol/Hybiau Cymunedol ·
Trosglwyddo
Asedau Cymunedol ·
Torri
Gwair Cymunedol – Twtio a Thrwsio ·
Llyfrgelloedd ·
Sbwriel/Glanhau'r
Gymuned ·
Cynllun
Cyllidebau Cymunedol Aelodau ·
Rheoli
Chwyn Roedd cwestiynau
a thrafodaethau ag Aelodau'r Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Cymunedau'n
Gyntaf – Trosglwyddo o'r rhaglen hon, sydd bellach wedi dod i ben, ac
etifeddiaeth; cynaladwyedd prosiectau'r Gronfa Etifeddol a ffynonellau amgen o
gyllid wrth i gyllid ddod i ben yn raddol ·
Tlodi
– Bydd Fforwm Partneriaeth Tlodi yn cwrdd bob tri mis – cyfleoedd i drafod materion
ag Asiantaethau Tai e.e. cael eu cefnogaeth ar gyfer prosiectau megis Faith in Families a chyfleoedd posib ar
gyfer cydweithio ag Asiantaethau Tai e.e. cydweithio ar fentrau megis Newyn
Gwyliau ·
Rhaglen
Chwistrellu Chwyn – Pryderon ynghylch defnyddio chwynladdwyr sy'n cynnwys
glyffosad i reoli chwyn a'r angen am ymagwedd ragofalus. Roedd nifer o
gynghorau'n chwilio am ddewisiadau amgen ac yn ystyried peidio â'u defnyddio'n
raddol – dadleuodd rhai y dylid gadael y sefyllfa fel y mae h.y. peidio â thorri/chwynnu
i gefnogi bioamrywiaeth/yr ecosystem ·
Hawliau
Lles – gwaith y Tîm Hawliau Lles a'r effaith ariannol a chydnabod awgrym Aelod
y Cabinet sef y dylai'r tîm craffu edrych ar ba mor dda y cyflwynir cefnogaeth
a chyngor ar hawliau lles ac ymroddiad i drechu tlodi ar draws y cyngor e.e.
gan staff sy'n gweithio i'r gwasanaethau cymdeithasol, tai ac adrannau eraill
sydd mewn cyswllt uniongyrchol â phobl ddiamddiffyn. Cafwyd trafodaeth ynghylch
effaith cynyddu Treth y Cyngor ar ôl-ddyledion – cyngor gwell/cymorth i bobl
ddiamddiffyn gan gynnwys sicrhau bod pobl yn derbyn hawliau a budd-daliadau. ·
Banciau
bwyd – nid cyfrifoldeb Aelod y Cabinet oedd y rhain ond cyfrifoldeb sefydliadau
annibynnol. ·
Dinas
Hawliau Dynol – roedd 'Datganiad o Fwriad' a rennir ar barchu hawliau dynol yn
Abertawe yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid. ·
Rhandiroedd
– yr angen am gyfathrebu ynghylch trosglwyddo rheolaeth o randiroedd – cysylltu
â chynghorau cymuned. ·
Cydlyniant Cymunedol – ystyried a oedd mynegai i fesur cydlyniant cymunedol. Penodwyd Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol yn ddiweddar ac roedd arolwg cyhoeddus
yn cael ei gynnal i geisio barn a phrofiadau pobl ond nodwyd bod ychydig iawn o
ymatebion wedi'u derbyn hyd yn hyn. ·
Cynnwys
y Gymuned, Ymgynghori a Chydgynhyrchu – ffyrdd o
wella ymgysylltu ar draws yr holl ardaloedd. ·
Strategaeth
Cynhwysiad Digidol – nodwyd bod gwaith ar Strategaeth Cynhwysiad Digidol a
Chynllun Gweithredu'n mynd rhagddo – y nod oedd integreiddio gyda Strategaeth
Cynhwysiad Digidol Llywodraeth Cymru. Disgwylir fframwaith drafft erbyn diwedd
mis Ebrill 2019. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Craffu ar Droseddu ac Anhrefn - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. PDF 554 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Prif
Uwch-arolygydd Martin Jones (Heddlu De Cymru) yn bresennol i ddarparu adroddiad
cynnydd ar Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel ac ateb unrhyw gwestiynau. Roedd y
Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau, y Rheolwr Partneriaethau a
Chomisiynu a'r Prif Uwch-arolygydd newydd, Jo Maal,
hefyd yn bresennol i gefnogi gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Cyfeiriodd y Prif Uwch-arolygydd at newidiadau i'r arweinyddiaeth a fyddai'n
cynnwys Jo Maal ac Adam Hill yn rhannu'r cyfrifoldeb
o gyd-gadeirio Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Siaradodd hefyd am sut roedd
ffocws partneriaethau diogelwch cymunedol a phlismona wedi newid dros y deng
mlynedd diwethaf, gyda ffocws mwy ar ddioddefwyr trosedd, bod yn ddiamddiffyn,
a oedd yn gofyn am newidiadau mewn ymagweddau a thactegau'r holl bartneriaid. Darparwyd
cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:- ·
Partneriaeth
Abertawe Mwy Diogel: o
Gweledigaeth
y bartneriaeth o
Diben
y bartneriaeth ·
Blaenoriaethau
strategol ·
Gweithgareddau
a chyraeddiadau allweddol o ran: o
Cymunedau
diogel, hyderus a chadarn o
County Lines a chamddefnyddio
sylweddau o
Trais
yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) o
Economi
gyda'r hwyr a chyda'r nos o
Monitro
troseddau casineb a thyndra cymunedol ·
Ystadegau
perfformiad a throseddau ·
Heriau
presennol a rhai sy'n dod i'r golwg Cyfeiriodd y Prif
Uwch-arolygydd at gyhoeddusrwydd negyddol diweddar yn y wasg am y Stryd Fawr a
chydnabu fod heriau yn yr ardal honno. Trafododd weithgareddau diogelwch
cymunedol a chyfeiriodd at adfywio'r Stryd Fawr a'r gwelliannau sydd yn yr
arfaeth. Adroddodd y Prif
Uwch-arolygydd fod bod yn ddiamddiffyn yn fater allweddol ac roedd Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) bellach wedi'u sefydlu ar
gyfer pobl ddiamddiffyn ar y stryd a gweithwyr yn y diwydiant rhyw. Roedd yr
ymagwedd hon yn gweithio'n dda ac roedd hi wedi peri i rai pobl drawsnewid eu
bywydau. Roeddent hefyd wedi bod yn ystyried arfer da a welwyd mewn rhanbarthau
eraill. Cafwyd cydlynu ac
ymwybyddiaeth well o County Lines
ynghyd â pheth gwaith llwyddiannus ar wella rhannu gwybodaeth rhwng
partneriaid, gan arwain at gamau gweithredu cynt. Yr her oedd canolbwyntio ar
sail y galw am gyffuriau a chanolbwyntio ar y rhai sy'n eu camddefnyddio. Roedd
y Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau'n cwrdd yn rheolaidd ac yn
canolbwyntio ar ymdrechion sy'n canolbwyntio'n fwy ar allgymorth ac ar gael mwy
o bobl i dderbyn triniaeth. Bu trafodaeth ynghylch yr ymdrechion i gynnwys
materion am County Lines yn
y system addysg fel y byddai disgyblion, rhieni ac athrawon yn ymwybodol o'r
bygythiad/risgiau. Rhannwyd
cyraeddiadau mewn perthynas â mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod,
cam-drin domestig a thrais rhywiol – gyda ffocws ar ddatrys problemau drwy
ymyrryd cyn gynted â phosib. Amlygwyd cysylltiadau agos rhwng y bartneriaeth
a'r byrddau diogelu. Gwnaed llawer o
waith ardderchog mewn perthynas â'r economi gyda'r nos ac yn hwyr yn y nos ac
mae angen i'r gwaith hwn gael ei wneud yn Uplands,
lle mae'r economi gyda'r nos yn tyfu. Troseddau hiliol
oedd y troseddu casineb yr adroddwyd amdanynt fwyaf o hyd ac mae angen gwneud
gwaith o hyd i annog pobl i adrodd am y troseddau hyn. Roedd cyfiawnder adferol
wedi bod yn eithaf llwyddiannus yn y maes hwn. Roedd y bartneriaeth hefyd yn
ymwybodol o dyndra ynghylch Brexit ar draws y DU ac
roedd hyn yn cael ei fonitro'n lleol. O ran ystadegau
troseddau, nodwyd bod mwy o ladrata, masnachu cyffuriau a threisio wedi bod. Roedd yr heriau a
amlygwyd i'r pwyllgor yn cynnwys troseddau cyfundrefnol gan fod llwyth o
achosion o ladrata o anheddau wedi bod yn Abertawe. Cynhaliwyd gweithrediadau a
berodd i nifer yr achosion leihau a gwnaethpwyd llawer o waith gyda'r
dioddefwyr. Pwysleisiodd y Prif Uwch-arolygydd yr her o wneud mwy gyda llai o
adnoddau, gan herio partneriaid i rannu'r cyfrifoldeb a gwneud pethau'n
wahanol. Nododd Aelod y
Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl) fod y cynllun Rhoi'n Gall yn cael ei
adolygu ac y bydd canlyniadau'r adolygiad ar gael yn fuan. Diolchodd hefyd i'r
Prif Uwch-arolygydd am ei holl waith ar y bartneriaeth, a siaradodd yn gadarnhaol
am ei datblygiad a'i heffeithiolrwydd, gyda chysylltiadau da â'r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Amlygodd y Dirprwy
Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau'r gwaith da a oedd yn mynd rhagddo wrth
drawsnewid y Stryd Fawr a Stryd y Gwynt a nododd fod myfyrwyr yn dod â
manteision i'r ddinas a'u bod wedi cyfrannu'n sylweddol at ennill Gwobr y Faner
Borffor. Roedd yn hanfodol eu bod yn teimlo'n ddiogel yn Abertawe. Rhoddodd
sylwadau hefyd ar yr awyrgylch a'r brwdfrydedd cadarnhaol o fewn y bartneriaeth
i fynd i'r afael â phroblemau. Cydnabu'r angen i ddarparu mwy o sicrwydd i'r
cyhoedd a gwaith ar wneud Abertawe'n lle diogel i fyw
a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Amlygodd y Rheolwr
Partneriaethau a Chomisiynu y ffocws ar ymyrryd yn gynnar. Dywedodd y Prif
Uwch-arolygydd, Jo Maal, y byddai'n parhau â'r gwaith
da a wnaed gan y Prif Uwch-arolygydd, Martin Jones, ar ôl iddo adael a'i bod yn
edrych ymlaen at weithio gyda'r cyngor yn y blynyddoedd i ddod. Gofynnodd aelodau
amrywiaeth o gwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol: ·
Effeithiolrwydd
cyfarfodydd PACT a ffyrdd eraill o ymgysylltu a rhannu gwybodaeth â chynghorwyr
lleol. ·
Pryderon
ynghylch y system adrodd 101 a hyder y cyhoedd ynddi. ·
Pwerau
cyfyngedig Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs)
– mae angen adolygu/cynyddu eu nifer ·
Hyfforddiant/gwybodaeth
am County Lines a'r
hyfforddiant a ddarperir i ysgolion – ystyried hefyd sut y gellir monitro
effeithiolrwydd yr hyfforddiant ·
Y
Stryd Fawr – yr angen i ddatrys problemau, gan ystyried ei fod yn borth i'r
ddinas Diolchodd y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau a'r Cadeirydd i'r Prif Uwch-arolygydd, Martin Jones, am ei holl waith ac ymroddiad, a gwnaethant ddymuno'n dda i'r Prif Uwch-arolygydd newydd, Jo Maal, wrth iddi gamu i'r rôl. Diolchwyd i Reolwr y Bartneriaeth a Chomisiynu hefyd am ei gwaith, yn enwedig y gwaith a wnaed ar gam-drin domestig. |
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. PDF 122 KB Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (y Cynghorydd Mary Jones, Cynullydd) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd a Chynullydd Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
adroddiad cynnydd. Nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 109 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Penderfynwyd: - 1)
Dileu
enw'r Cynghorydd Mary Jones o'r Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. 2) Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr Susan Jones ac Irene Mann at y Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2018/19. PDF 141 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19. Amlygodd y trefnwyd yr
eitemau canlynol ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor a'r un terfynol y flwyddyn
ddinesig hon. - ·
Sesiwn
Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Gyflwyno – Y Cynghorydd David
Hopkins ·
Sesiwn
Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth –
Y Cynghorydd Robert Francis-Davies (Ail-drefnwyd o 11 Marwth) Gofynnodd y Cadeirydd
i'r pwyllgor ystyried cwestiynau cyn y cyfarfod. Dywedodd y Cadeirydd hefyd y trefnir cyfarfod anffurfiol cyn cyfarfod terfynol y pwyllgor er mwyn i aelodau fyfyrio ar waith a phrofiad craffu'r flwyddyn. Byddai hefyd yn gyfle i drafod materion mewn perthynas ag arfer, gwella a datblygu craffu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd adroddiad
y llythyrau craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 80 KB Cofnodion: Darparwyd y
Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Dywedodd y Cadeirydd y gwahoddir Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio i gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu ym mis Gorffennaf a'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith ym mis Mehefin. |
|
Dyddiad ac Amserau Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 48 KB Cofnodion: Darparwyd
dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.
Nododd y
Cadeirydd rai diwygiadau i'r cyfarfodydd: ·
Canslo
cyfarfod y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid a drefnwyd ar gyfer 9 Ebrill. ·
Cynhelir
cyfarfod ychwanegol ar gyfer Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar
30 Ebrill. |
|