Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

121.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P M Black – personol - Cofnod Rhif 125 – Llywodraethwr Ysgol Gynradd Burlais. 

Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 125 – Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Burlais.

122.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

123.

Cofnodion. pdf eicon PDF 135 KB

Cymeradwyo o llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

124.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 125 "Galw penderfyniad y Cabinet i mewn ar 21 Chwefror 2019 – Eitem 9 - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Adeilad Newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon".

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau.

125.

Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn ar 21 Chwefror 2019 - Eitem 9 - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Adeilad Newydd ar Gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon (Adroddiad Aelod y Cabinet Dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau). pdf eicon PDF 148 KB

Penderfynodd y Cabinet ar y canlynol:

 

Bydd y prosiect cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd â'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.

 

a.         Bydd y Swyddog Craffu'n esbonio'r broses Galw i Mewn i aelodau.

 

b.         Bydd y Cadeirydd yn esbonio'r rhesymau dros alw penderfyniad y Cabinet.

 

c.         Bydd y Cynghorydd J A Raynor, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a  Sgiliau'n bresennol ac efallai bydd am wneud datganiad.

 

ch.    Bydd Louise Herbert-Evans, Pennaeth Cynllunio Cyfalaf, yn cyflwyno'r ymateb i'r rhesymau dros alw'r penderfyniad i mewn gyda chefnogaeth Nigel Hawkins, swyddog Prosiectau a Chaffael.

 

d.         Cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.

Y Ffordd Ymlaen

 

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ystyried y penderfyniad ac:

 

·                Os yw'n fodlon ar yr esboniad, bydd yn dweud hynny fel y gellir rhoi'r penderfyniad ar waith;

 

·                Os 'nad yw'n pryderu mwyach', ond nid yw am ddweud ei fod yn 'fodlon ar yr esboniad', mae hyn er mwyn i'r pwyllgor benderfynu bod yr esboniad yn cael ei dderbyn' ‘ond nid ei gymeradwyo gan y pwyllgor' fel y gellir rhoi'r penderfyniad ar waith;

 

·                Os yw'n dal i bryderu am y penderfyniad, gall ei gyfeirio'n ôl at y Cabinet neu'r penderfynwr/corff penderfynu perthnasol i'w ailystyried, gan nodi natur ei bryderon yn ysgrifenedig. Yna bydd y Cabinet neu'r penderfynwr/corff penderfynu'n ailystyried ei benderfyniad cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf a'r Rheolwr Prosiectau a Chaffael yn bresennol wrth i'r pwyllgor ystyried mater Galw Penderfyniad y Cabinet i mewn ar 21 Chwefror 2019 – Eitem 9 – Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Adeilad Newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon.

 

Darparodd y Swyddog Craffu drosolwg o'r broses galw i mewn i'r pwyllgor.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet, ac ymatebodd yntau ynghyd â swyddogion yn briodol. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Roedd y fioamrywiaeth yn y rhan honno o Barc y Werin yr oedd ei hangen ar gyfer yr ysgol yn ddibwys

·                Hepgor y Flaenoriaeth Gorfforaethol 'Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe' o Adroddiad y Cabinet, 21 Chwefror 2019.

·                Nod y Flaenoriaeth Gorfforaethol i 'Gynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe'

·                Pwysigrwydd ystyried yr holl Flaenoriaethau Corfforaethol

·                Pryder ynghylch colli unrhyw fannau gwyrdd a chymynu unrhyw goed

·                Cymeradwywyd y cais cynllunio ar gyfer y safle

·                Cyfleoedd o'r datblygiad er enghraifft, cyfleusterau gwell a mwy o ddefnydd ohonynt fel a welwyd mewn datblygiadau tebyg yn Nhre-gŵyr, Llandeilo Ferwallt a Burlais.

·                Y gwahaniaeth rhwng Mynegai Costau Adeiladu a Mynegai Prisiau Tendro

 

Penderfynwyd:  -

1)    Bod y pwyllgor yn cytuno ar Baragraff 4.2 i) fel a amlinellir yn yr adroddiad, a oedd yn nodi, os yw'r esboniad yn foddhaol, bydd yn nodi hyn i alluogi gweithredu'r penderfyniad.

2)    Byddai Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau gan amlinellu barn y pwyllgor.

126.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 120 KB

Ysgolion (Y Cynghorydd Mo Sykes, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynullydd, y Cynghorydd Mo Sykes, nodwyd Adroddiad Cynnydd y Panel Perfformiad Ysgolion.

127.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu.

 

Penderfynwyd:  -

1)        Ychwanegu'r cynghorwyr Joe Hale a Lynda James at y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio; a

2)        Dileu enw'r Cynghorydd Peter Black o'r Gweithgor Cynhwysiad Digidol.

128.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 140 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Jones at bapur yr oedd wedi'i baratoi a fanylodd ar feddyliau am y rhaglen waith craffu, ei ffocws a'i harfer/proses yn y dyfodol. Ceisiodd gymeradwyaeth gan y Cadeirydd i rannu hwn yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith flynyddol i'w drafod yn ehangach.

 

Gofynnwyd a ellid darparu copi o'r papur i aelodau'r pwyllgor ymlaen llaw er mwyn iddynt gyflwyno sylwadau. 

 

Penderfynwyd y bydd y Gynhadledd Cynllunio Gwaith flynyddol yn cynnwys trafodaeth ar arfer/broses yn y dyfodol fel a amlinellwyd yn y papur y cyfeirir ato uchod. 

129.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu.

130.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Darparwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

131.

Dyddiad ac Amserau Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Galw i Mewn pdf eicon PDF 144 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Galw i Mewn pdf eicon PDF 298 KB