Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

71.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

72.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

73.

Galw penderfyniad y Cabinet i mewn - Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohiriedig

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a gylchredwyd am y Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth, yr oedd sawl cynghorydd wedi'i alw i mewn yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar 18 Ionawr a chyfeiriodd hyn at y pwyllgor yn unol â gweithdrefn galw i mewn y Cyngor.

 

Cyfeiriodd at absenoldeb yr uwch-swyddog arweiniol ar gyfer yr adroddiad oherwydd profedigaeth deuluol ddiweddar a chynigiodd y dylid gohirio'r mater tan gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 13 Chwefror 2024.

 

Penderfynwyd gohirio'r adroddiad i gyfarfod y pwyllgor a gynhelir ar 13 Chwefror 2024.