Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

36.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 250 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 

38.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

.

Cofnodion:

Dim.

 

39.

Panel Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Adroddiad Terfynol. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr adroddiad terfynol ar gyfer yr Ymchwiliad Craffu i Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r casgliadau a'r argymhellion a ddeilliodd o'r ymchwiliad mewn ymgais i ateb y cwestiwn canlynol: Sut gall y cyngor sicrhau ei fod yn gweithio gyda'i bartneriaid i fynd i'r afael yn briodol ac yn effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe?

 

Diolchodd y Cynullydd i'r holl gyfranogwyr a'r Swyddog Craffu am eu cymorth wrth baratoi'r adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd ac Aelodau'r Panel Ymchwiliad Craffu am eu hadroddiad trylwyr, llawn gwybodaeth a chyfeiriodd at gais y Panel i ystyried ychwanegu archwiliad ar Ddarpariaeth Ieuenctid yn Abertawe at y Rhaglen Waith Craffu, gan gynnwys darparu materion cyfredol megis gwaith ataliol, cyllid a'r anhawster wrth recriwtio gweithwyr ieuenctid cymwys. Dywedodd y Cadeirydd y gellid cynnwys hyn wrth drafod y Rhaglen Waith Craffu bosibl ar gyfer 2024/25, efallai fel Gweithgor posibl neu fel eitem ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor, byddai adroddiad yr ymchwiliad yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Cabinet er mwyn penderfynu arno, sef 21 Rhagfyr ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd:

 

1)    bydd adroddiad yr ymchwiliad yn mynd ymlaen i gyfarfod y Cabinet ar 21 Rhagfyr 2023.

2)    Cynnwys pwnc 'Darpariaeth Ieuenctid' wrth drafod Rhaglen Waith Craffu yn y dyfodol.

 

40.

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Adroddiad Cynnydd 2021-2023. pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau yr adroddiad ar gynnydd y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe 2021-2023 gyda chymorth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Arweiniol), y Comisiynydd Strategol Arweiniol a Rheolwr y Tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth.

 

Manylwyd ar drosolwg o'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc newydd yn Abertawe, crynodeb o'r blaenoriaethau ar draws y sir a nodwyd gan Blant a Phobl Ifanc, cynnydd drwy'r ymagwedd pum egwyddor "Y Ffordd Gywir" ac argymhellion.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Ymagwedd Cyngor Cyfan – bu llwyddiannau wrth roi ymagwedd cyngor cyfan at Hawliau PPI ar waith ac mae defnyddio'r ymagwedd 5 egwyddor a'r matrics yn sicrhau bod trefniadau ar waith i feincnodi a mesur/monitro perfformiad. Byddai datblygu modiwl hyfforddi yn helpu i sicrhau bod pob agwedd o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y cyngor yn cael ei ddal a'i roi ar waith.

·       Hyfforddiant CCUHP – roedd yr Adran Addysg wrthi'n adolygu Hyfforddiant Llywodraethwyr Ysgolion ar hyn o bryd gyda'r bwriad o sicrhau bod hyfforddiant CCUHP yn orfodol.

·       Ysgolion sy'n Parchu Hawliau CCUHP - a oedd pob ysgol bellach yn 'parchu hawliau' a datblygiadau yn dilyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru.

·        Gwasanaeth Ieuenctid – Roedd yr Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi tynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â Darpariaeth Ieuenctid yn Abertawe gan gynnwys cyllid a'r anhawster wrth recriwtio gweithwyr ieuenctid cymwys. Nid yw hyn wedi effeithio ar waith i roi Hawliau PPI ar waith ac mae plant wedi bod yn rhan o sut y mae model allgymorth y cyngor wedi'i ddylunio.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb dan sylw am yr adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)    bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Gefnogi'r Gymuned gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

2)    Roedd y Pwyllgor yn hapus i dderbyn diweddariadau yn y dyfodol bob dwy flynedd er mwyn cael aliniad gwell â model Llywodraeth Cymru o adolygu'r Cynllun Hawliau Plant.

 

41.

Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol 2022/23. pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Crynhodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal raglen waith y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn ystod 2022-23, gyda chymorth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, a thynnwyd sylw at welliannau a wnaed i gefnogi polisi diogelu corfforaethol y cyngor a threfniadau corfforaethol ar gyfer diogelu ar draws y cyngor cyfan, gan gynnwys saith maes gweithgarwch allweddol.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Gweithio gyda Chontractwyr a Chyflenwyr – lefel cydymffurfio/trefniadau ar gyfer monitro. Nodwyd bod heriau'n bodoli o hyd, a bod hyn yn 'waith ar y gweill'.

·       Hyfforddiant Diogelu Gorfodol – lefel yr hyrwyddiad a nifer y bobl sy'n cymryd rhan ar draws yr Awdurdod. Roedd hyfforddiant newydd yn 'fyw' ar hyn o bryd a bydd system Oracle newydd yn darparu gwybodaeth reoli well a goruchwyliaeth fwy effeithiol o gydymffurfio â hyfforddiant ar draws y cyngor. O ran Hyfforddiant Cynghorwyr, roedd arweiniad cam wrth gam yn cael ei ddatblygu gan Bennaeth Digidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid a fydd yn cael ei gyflwyno i Gynghorwyr cyn bo hir.

·       Gwiriadau’r GDG – wedi cael eu hail-archwilio ar draws amrywiaeth o staff a chategorïau ac wedi newid dros amser. Mae'r cyngor yn cydymffurfio ag arweiniad Llywodraeth Cymru.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb dan sylw am yr adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

42.

Gwaith dilynol: Gweithgor y Gwasanaethau Bysus Craffu. pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y diweddaraf ar faterion a godwyd yng nghyfarfodydd blaenorol y Gweithgor Craffu ym mis Gorffennaf 2021 a mis Mawrth 2022, a datblygiadau gyda chymorth y Cyfarwyddwr Lleoedd, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant ac Arweinydd Tîm Cludiant Cyhoeddus a Chludiant Ysgol.

 

Darparwyd diweddariadau manwl mewn perthynas â bysus sy'n defnyddio tanwydd glanach, rhwydwaith gwasanaeth bysus a chynlluniau argyfwng bysus, cysylltiadau bysus a rheilffyrdd a llochesi bysus.

 

Roedd Mr B Fowles, Cyfarwyddwr South Wales Transport, hefyd yn bresennol i ddarparu persbectif allanol gan weithredwr gwasanaeth bysus BBaCh lleol, sydd wedi bod yn gontractwr gwasanaeth bysus lleol i'r cyngor ers amser maith. Roedd hefyd yn Is-gadeirydd Cymdeithas Bysiau Cymru, sef cymdeithas fasnach sy'n cynrychioli diddordeb gweithredwyr bysus llai yng Nghymru ac mae'n darparu persbectif defnyddiol ar bethau, yn enwedig o ran deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru i fasnachfreinio gwasanaethau bysus lleol. Cyfeiriodd at faterion sy'n ymwneud â'r ad-drefnu parhaus ynghyd â chyllidebau is ac ymdrechion Llywodraeth Cymru i ail-greu masnachfraint debyg i Transport for London.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Cyfathrebu ac Ymgysylltu - cynnydd a wnaed ar feithrin deialog effeithiol rhwng y cyngor a First Cymru (yn ogystal â gweithredwyr bysus eraill) ac unrhyw rwystrau. Nodwyd nad yw newidiadau cyson i uwch reolwyr/arweinyddiaeth First Cymru yn helpu ond cynhelir cyfarfodydd rheolaidd i godi/trafod problemau gyda gwasanaethau.

·       Toriadau i Wasanaethau Bysus – Nodwyd bod darparwyr gwasanaethau yn gallu darparu chwe wythnos o rybudd ar gyfer newid, sy'n cyflwyno her mawr. Er gwaethaf hyn, roedd y sgwrs yn parhau.

·       Integreiddio Trafnidiaeth a Throsglwyddo Tocynnau - byddai trosglwyddo tocynnau'n rhan o'r fasnachfraint a byddai'n cael ei gyflwyno mewn parthau o fis Ebrill 2026. Rhagwelwyd y byddai gwelliannau mewn cysylltedd mewn 3-5 mlynedd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar integreiddio er mwyn dod â bysus i mewn i orsafoedd rheilffyrdd.

·       Mentrau Teithio – trafodaeth ar annog y defnydd o fysus, gan gynnwys menter teithio am ddim ar fysus y cyngor. Nodwyd y byddai hyn ar waith ar benwythnosau rhwng nawr a'r Nadolig a'r wythnos ar ôl y Nadolig.

·       Transport for London – trafodwyd llwyddiant y rhwydwaith hwn a gwnaed cymariaethau ag ardaloedd eraill.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn ymwneud â'r adroddiad a'r drafodaeth addysgiadol, a ddaeth â'r gwaith dilynol ffurfiol i ben yn ôl penderfyniad y Gweithgor Craffu ar Wasanaethau Bysus.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

43.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Chris Holley adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar waith/gweithgareddau'r Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid. Diolchodd i holl aelodau'r Panel am eu cyfranogiad a'u 'gwaith tîm' wrth wneud y gwaith craffu hwn.

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â Gwella Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid.

 

44.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r Gweithgorau, fel yr adroddwyd.

 

45.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 281 KB

Trafodaeth am:

a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Roedd y prif eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Rhagfyr yn cynnwys:

 

·       Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet – Cefnogaeth i Fusnesau.

·       Cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol - Trechu Tlodi.

 

Nododd yr Aelodau fod y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Craffu ar gyfer Cynghorwyr Craffu Abertawe ar y gweill, a oedd yn cael ei hwyluso gan y Tîm Gwella yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Sesiynau sydd ar ddod:

·       Craffu ar Berfformiad – i'w chynnal ar 4 Rhagfyr/6 Rhagfyr

·       Hunanasesiad o Graffu (dwy ran) – i'w chynnal ar 17 Ionawr/23 Ionawr

 

Anogodd y Cadeirydd bawb i fod yn bresennol. Roedd yr holl sesiynau'n cael eu cynnal ar-lein trwy MS Teams, ac eithrio'r sesiwn olaf 'Hunanasesiad' rhan 2 a gynhelir wyneb yn wyneb yn unig. Yn ogystal â bod o fudd i Gynghorwyr unigol, bydd y Rhaglen yn helpu i lywio Amcanion Gwella Craffu a chamau gweithredu yn y dyfodol.

 

46.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y Pwyllgor:

 

·       Pwyllgor - Craffu ar Deithio Llesol – Llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd.

·       Pwyllgor - Craffu Cyn Penderfyniad – Proses Cau Prosiect Oracle a Throsglwyddo i Fodel Gweithredu Newydd – Llythyr at Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau.

·       Ymchwiliad Craffu ar Gaffael – Dilyniant – Llythyr at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol.

 

47.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, er mwyn cael ymwybyddiaeth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Adroddiad Cynnydd 2021-2023 pdf eicon PDF 148 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol 2022/23 pdf eicon PDF 152 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwaith dilynol: Gweithgor y Gwasanaethau Bysus Craffu pdf eicon PDF 150 KB