Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr L R Jones, M Jones, S M Jones, H Lawson, W G Lewis ac S Pritchard
gysylltiad personol â Chofnod 102 - Craffu ar Drosedd ac Anhrefn - Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor y
Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023 a Phwyllgor Arbennig y Rhaglen
Graffu a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw gwestiynau. |
|
Craffu ar Droseddu ac Anrhefn - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. PDF 403 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel Pwyllgor Craffu ar Drosedd ac Anhrefn dynodedig y cyngor, cyfarfu
Pwyllgor y Rhaglen Graffu i drafod perfformiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
Abertawe Mwy Diogel, gyda'r cyngor ac arweinwyr yr Heddlu. Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr y cyngor: Aelod y Cabinet dros Les, Aelod y Cabinet
dros Gefnogi Cymunedau, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau,
Comisiynydd Arweiniol Strategol, Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol, a
chynrychiolwyr Heddlu De Cymru: Trudi Meyrick, Prif
Uwch-arolygydd, Mark Brier, Uwch-arolygydd, James Ratti, Prif Arolygydd, Eve Davis, Uwch-arolygydd (Cymunedau
a Phartneriaeth), a Jessica Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol
(Abertawe/Castell-nedd Port Talbot).
Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am ddarparu adroddiadau
ysgrifenedig/papurau gan fyfyrio ar berfformiad y Bartneriaeth yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, gweithgareddau penodol a blaenoriaethau strategaeth
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ddrafft ar gyfer 2023-26 a Strategaeth Trais
Abertawe yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ddrafft 2023-26. Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Les fod yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu sut mae asiantaethau a
phartneriaid lleol wedi cydweithio'n dda i wneud Abertawe'n
fwy diogel a lleihau'r ofn o droseddu yn ystod 2022. Fodd bynnag, fel
partneriaeth, cydnabuwyd bod angen gwneud gwaith o hyd i adeiladu ar ein
llwyddiant a chanolbwyntio ar heriau newydd.
Cyfeiriodd Aelod
y Cabinet dros Les at y prif ffocws sef parhau i leihau trosedd ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol, mynd i'r afael â'r defnydd o sylweddau, ceisio lleihau
aildroseddu a chefnogi ein pobl ifanc a bregus rhag ymddygiad eithafol a
threisgar. Byddai
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael
â throseddau casineb o bob math, a bydd yn parhau i sicrhau bod Abertawe yn lle
sy'n sefyll yn erbyn anoddefgarwch, casineb ac eithafiaeth. Mae llawer o'r
materion trosedd ac anhrefn y bydd Abertawe Mwy Diogel yn ceisio mynd i'r afael
â nhw yn cynnwys ffactorau sylfaenol sy'n aml yn gysylltiedig â bod yn agored i
niwed a chamfanteisio.
Roedd cwestiynau
a thrafodaeth y Pwyllgor ynghylch perfformiad Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel
yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Llywodraethu
sy'n ymwneud yn benodol â threfniant cyd-gadeirio'r Bartneriaeth sy'n gyfrifol
am arwain a rheoli Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. · Adnoddau'r bartneriaeth a meintioli
adnoddau/gwariant. ·
Blaenoriaethau a chyflawniadau economi gyda'r hwyr a chyda'r nos; Statws Baner Borffor; gweithio mewn
partneriaeth gydag Ardal Gwella Busnes Abertawe ·
Heriau a mentrau ymddygiad gwrthgymdeithasol (beiciau
oddi ar y ffordd). ·
Troseddau casineb, cymharu setiau data a mentrau
rhagweithiol. ·
Cydlyniant cymunedol,
integreiddio a chyflawniadau. ·
Troseddau rhywiol/treisio, mentrau a chyflawniadau. ·
Aflonyddwch Mayhill ac
amserlenni ar gyfer cyhoeddi'r canfyddiadau a'r argymhellion yn dilyn adolygiad
annibynnol gan yr Heddlu o'r ymateb plismona. ·
Ymgysylltu â'r gymuned a mentrau/llwyddiannau, defnydd o gydgynhyrchu. llwyddiannau
a blaenoriaethau m mentrau camddefnyddio sylweddau (Prosiect Adder) Diolchodd y
Cadeirydd i Aelodau'r Cabinet, Swyddogion a chynrychiolwyr Heddlu De Cymru am
yr wybodaeth a ddarparwyd ac am yr ymateb i gwestiynau. Penderfynwyd y bydd y
Cadeirydd yn ysgrifennu at Gyd-gadeiryddion Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel
gan adlewyrchu safbwyntiau'r Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd C A Holley adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y
Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio dros y flwyddyn ddiwethaf, a
materion allweddol y mae'r Panel wedi bod yn canolbwyntio arnynt. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad mewn perthynas â'r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 230 KB Cofnodion: Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r
Gweithgorau, fel yr adroddwyd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 276 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y
mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro. Y prif eitemau sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 16 Mai
yw: ·
Craffu Cyn Penderfynu: Ailddatblygu RhGA7 277-278 Stryd Rhydychen -
Prosiect Hwb Cymunedol. ·
Adolygiad o'r flwyddyn. Dywedodd Arweinydd y Tîm Craffu, er mwyn
cryfhau'r broses adolygu, hunanwerthuso a myfyrio, mae arolwg wedi'i anfon at
yr holl Gynghorwyr yn gwahodd barn ar y ffordd y mae Craffu wedi gweithio dros
y flwyddyn ddiwethaf. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 232 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar
ddod, er gwybodaeth. |
|
Llythyr at Gyd-gadeiryddion y Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel PDF 198 KB |