Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2023 fel cofnod cywir, yn amodol
ar gofnodi ymddiheuriadau Beth Allender.
|
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|
Gwaith dilynol: Gweithgor y Gwasanaethau Bysus Craffu. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd i'r mater gael ei ohirio oherwydd salwch y Swyddog. Penderfynwyd gohirio'r eitem. |
|
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio / Perthynas Graffu. PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Trafododd
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio waith ei Phwyllgor a’r berthynas
rhwng Craffu a Llywodraethu ac Archwilio. Roedd hyn yn rhan o ymdrechion
parhaus i gryfhau'r berthynas honno a gweithio'n agosach. Cyfeiriodd at y
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ddiweddar a oedd yn rhoi
cyfrifoldebau ychwanegol i Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio mewn perthynas
â Hunanasesiad Perfformiad Blynyddol y cyngor, ac adolygiad Perfformiad
Cymheiriaid unwaith y tymor. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgorau
ystyried Adroddiad Cwynion Blynyddol y cyngor. Cyfeiriodd at yr
ystod o gamau gweithredu sydd eisoes ar waith i sicrhau bod
ymwybyddiaeth/dealltwriaeth o waith pob Pwyllgor, ynghyd â chydlynu er mwyn
osgoi dyblygu, a chyfeiriodd at enghreifftiau o waith mewn perthynas ag
archwilio allanol ac adrodd am berfformiad a'r gwahaniaeth mewn ymagweddau, gan
sicrhau bod gweithgarwch ar unrhyw bynciau cyffredin yn ategol, gyda'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn ymwneud yn bennaf â sicrwydd ynghylch
effeithiolrwydd y broses. O ystyried rôl y Panel Craffu Perfformiad Gwella
Gwasanaethau a Chyllid wrth gynnal monitro perfformiad parhaus, mae Cynullydd y
Panel, y Cynghorydd Chris Holley, yn cael ei wahodd i fod yn bresennol mewn
Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio pan fydd unrhyw adroddiadau perfformiad yn
cael eu trafod. Cyfeiriodd hefyd
at Hyfforddiant Cymru Gyfan y mae wedi'i gwblhau sydd wedi ei helpu yn ei rôl
fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sydd wedi cynnwys y
berthynas â Chraffu, a rolau priodol. Diolchodd y
Cadeirydd i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am ei hadroddiad
gwybyddus. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams adroddiad a oedd yn crynhoi
gwaith y Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd dros y
flwyddyn ddiwethaf, a materion allweddol y mae'r Panel wedi bod yn canolbwyntio
arnynt. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu
Perfformiad mewn perthynas â Phanel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Blant a
Theuluoedd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 274 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 199 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar
ddod, er gwybodaeth. |