Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

62.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

63.

Cofnodion. pdf eicon PDF 313 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir.

64.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

65.

Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn nodi cynnydd dros y 12 mis diwethaf o ran cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. Roedd yn cyflwyno tystiolaeth, mewnwelediadau a gwybodaeth i ddangos y cyfraniadau a wnaed wrth gyflawni’r flaenoriaeth hon, un o flaenoriaethau’r cyngor, yn ogystal â chynlluniau'r dyfodol. Roedd yn cynnwys yr heriau presennol, gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw, ac ymateb y cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion Adroddiad 'Amser am newid – Tlodi yng Nghymru' Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022,

gan ddangos ymateb yr awdurdod i argymhellion yr Archwiliad a'r camau gweithredu arfaethedig.

 

Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion gyda chymorth Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi a Rheolwr Datblygu’r Strategaeth Tlodi a'i Atal, â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at agweddau penodol, gan gynnwys Cyd-destun, Blaenoriaeth Gorfforaethol, Camau'r Cynllun Corfforaethol, Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol, Ysgogwyr Strategol Cenedlaethol, Datblygiadau Ychwanegol a'r Ffordd Ymlaen.

 

Nododd yr Aelodau fod pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw wedi effeithio'n anghyfartal ar aelwydydd incwm isel, gan wthio rhagor o bobl i dlodi, a’r rheini sy’n ei brofi ymhellach i dlodi, gan arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau cefnogi mewn argyfwng a chymhlethdodau cynyddol i’r rheini mewn angen. Roedd ymateb parhaus Cyngor Abertawe i'r argyfwng costau byw yn cyfrannu at liniaru effaith tlodi a lefelau uwch o alw.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

1)    Lefelau adnoddau i fynd i'r afael â thlodi.

2)    Roedd yr ymagwedd 'Deg Cam' a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2017 yn dweud bod y Cynllun yn cael ei adnewyddu i adlewyrchu'r argyfwng costau byw ac y byddai'n parhau i gael ei adolygu.

3)    Trefniadau monitro ar gyfer y grantiau niferus i unigolion a sefydliadau.

4)    Manylwyd ar ymdrechion i wella cyflogadwyedd - addysg, hyfforddiant a mentrau cyflogaeth. Roedd trafodaeth ar fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth fel mynediad at gludiant cyhoeddus a phersonol, a gofal plant.

5)    Cynllun grant ECO4 i helpu i wella effeithlonrwydd ynni’r stoc tai y mae aelwydydd incwm isel a diamddiffyn yn byw ynddynt - nodwyd bod ceisiadau'n dal i gael eu hystyried, fodd bynnag roedd 100 o bobl wedi elwa o'r Cynllun ECO3. Cytunodd Swyddogion i gael rhagor o fanylion gan gydweithwyr Tai i'w rhannu â'r Pwyllgor.

6)    Datblygu fframwaith perfformiad ar gyfer trechu tlodi - nodwyd yr heriau sy'n gysylltiedig â'r fframwaith perfformiad, ond amlygwyd cynlluniau i ddatblygu ymagwedd strategol gyda monitro dangosyddion perfformiad misol a chydweddiad â'r Cynllun Corfforaethol.

7)    Proses er mwyn i gynghorwyr wneud atgyfeiriadau i'r Tîm Hawliau Lles - cytunodd Aelod y Cabinet dros Les i ddosbarthu manylion i bob cynghorydd.

8)    Trafodwyd manteision darparu prydau ysgol yn gynharach yn y diwrnod ysgol, yn benodol i blant ysgolion cyfun. Byddai Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn cysylltu â chydweithwyr yn y maes Addysg ar hyn.

9)    Darparu cymorth Iechyd Meddwl - manylwyd ar y cysylltiadau sefydledig gyda phartneriaid mewn perthynas ag iechyd meddwl o fewn gofal cymdeithasol.

10) Nodwyd yr ymateb i gynllun gweithredu adroddiad Archwilio Cymru. Roedd yr Adroddiad Archwilio yn cynnwys nifer o fyfyrdodau cadarnhaol o arfer da a nodwyd yn Abertawe.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Les a Swyddogion am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Les gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

66.

Craffu Cyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet - Sesiwn holi ac ateb gydag Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Y Cynghorydd Rob Stewart). pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth yn bresennol ar gyfer y sesiwn holi ac ateb ar ei gyfrifoldebau portffolio. Er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor, yn ogystal â'r 'penawdau allweddol' yn yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, rhoddodd yr Arweinydd gyflwyniad a oedd yn tynnu sylw at gynnydd mewn perthynas â:

 

·       Skyline a Choridor yr Afon 2022/2025.

·       Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

·       Theatr y Palace.

·       Hwb Cymunedol/Siop dan yr unto yn yr hen adeilad BHS.

·       Gerddi'r Castell.

·       Bae Copr.

·       Princess House.

·       Gwell Cysylltiadau Rheilffordd a Bysus ar draws y rhanbarth.

·       Eden Las a Hwb ynni enfawr.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

1)    Buddsoddiad y Fargen Ddinesig/cyllid sector preifat - nodwyd bod y 9 prosiect mawr dan y Fargen Ddinesig bellach wedi'u cymeradwyo'n llawn a bod cyllid preifat wedi'i wireddu o ran y prosiectau llai. Roedd buddsoddiad ar gyfer prosiect mwy ar ddod yn raddol. Clywodd y Pwyllgor fod prosiectau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd drwy Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

2)    Diddordeb yn yr adeilad swyddfa newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin - nodwyd bod chwarter y swyddfeydd wedi cael eu gosod.

3)    Adferiad Canol y Ddinas/busnesau newydd - nodwyd bod y Cwadrant wedi denu pedwar busnes newydd ac roedd busnes arall sefydledig yng nghanol y ddinas wedi buddsoddi mewn gwaith adnewyddu. Roedd busnesau yng nghanol y ddinas wedi perfformio'n dda dros gyfnod y Nadolig. Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch hyrwyddo canol y ddinas yn benodol gan y gallai rhai busnesau sydd â phresenoldeb y tu allan i ganol y ddinas fod yn symud i le llai. Nodwyd bod amrywiaeth o weithgareddau monitro yn mesur nifer yr ymwelwyr ac yn gwerthuso'r defnydd o ganol y ddinas.

4)    Cyngor gan bartneriaid datblygu - nodwyd bod nifer o ymgynghorwyr wedi cynnal adolygiadau ers cychwyn y Fargen Ddinesig yn 2016, ac roedd y cyngor yn parhau i fod yn hyderus bod ganddo'r strategaeth a'r cynllun cywir, sy'n caniatáu elfen o hyblygrwydd. Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth y gellid gofyn i Urban Splash, partner adfywio tymor hir y cyngor y mae ei gyfranogiad yn cynnwys datblygu Gogledd Abertawe Ganolog a Safle'r Ganolfan Ddinesig, ddod i gyfarfod craffu i gynghorwyr yn y dyfodol er mwyn deall eu rôl a'u meddylfryd yn well.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a'r Prif Weithredwr, a oedd hefyd yn bresennol, am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

67.

Adroddiad Cynnydd Panel Perfformiad Craffu: pdf eicon PDF 239 KB

 

a)    Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd).

b)    Addysg (Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi adroddiadau cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â Gwella Gwasanaethau a Chyllid ac Addysg.

68.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r Gweithgorau, fel yr adroddwyd.

69.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 282 KB

Trafodaeth am:

a)        Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)        Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Yn unol â chynllun gwaith y Pwyllgor, y prif eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 14 Chwefror oedd:

 

-        Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – Ymgynghori ar Gynllun Lles Lleol Drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: Bob 5 mlynedd mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn datblygu Cynllun Lles Lleol, sy'n nodi’r amcanion a’r camau gweithredu a ddefnyddir i arwain camau gweithredu'r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus bob blwyddyn. Mae'r Pwyllgor yn ymgynghorai statudol ar y Cynllun a bydd cyfle i adolygu a rhoi sylwadau cyn gwneud penderfyniadau a chymeradwyo'r Cynllun. Rhaid cyhoeddi'r Cynllun erbyn mis Mai 2023. Bydd Cadeirydd y BGC, y Cyng. Andrea Lewis, yn bresennol ynghyd â'r Swyddog/Swyddogion perthnasol i adrodd wrth y Pwyllgor ac ateb cwestiynau.

 

-        Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Tai Amlfeddiannaeth - bydd y Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, yn bresennol ynghyd â Swyddog(ion) perthnasol i adrodd am y mater hwn ac ateb cwestiynau'r Pwyllgor.

 

-        Gweithgorau: Cyfarfu'r Gweithgor Diogelwch Ffyrdd ar 7 Rhagfyr ac mae bellach wedi dod i ben. Mae'r Gweithgor wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion ac ar ôl i Aelod y Cabinet ymateb adroddir wrth y Pwyllgor am hyn, a chaiff unrhyw ddilyniant i hyn ei gynnwys yng nghynllun gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol.

70.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

71.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 160 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Trechu Tlodi pdf eicon PDF 144 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Trechu Tlodi pdf eicon PDF 193 KB