Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

52.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

53.

Cofnodion. pdf eicon PDF 250 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

54.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

55.

Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Homelessness - Y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau. pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau ei hadroddiad a oedd yn ymdrin â chyfrifoldeb y portffolio ynglŷn â digartrefedd. Dywedodd fod digartrefedd wedi cynyddu ar draws Cymru.  Cyfeiriwyd at addewid 'gwely bob amser' Cyngor Abertawe a diolchodd i’r timau mewnol ac allanol a fu'n gweithio yn ystod pandemig COVID a'r rheini sy'n parhau i weithio i helpu pobl sydd mewn angen. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau i Reolwr Gweithrediadau'r Gwasanaethau Tai Cymunedol roi trosolwg ar y pwysau presennol o ran digartrefedd a sut yr ymdrinnir â'r pwysau hynny ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd Rheolwr Gweithrediadau'r Gwasanaethau Tai Cymunedol y cefndir ynghylch pandemig COVID, lefelau ac achosion digartrefedd, Strategaeth a blaenoriaethau’r Rhaglen Cymorth Tai, y cyflawniadau presennol, yr heriau wrth symud ymlaen a chasgliad a chrynodeb.

 

Yn ogystal â Rheolwr Gweithrediadau'r Gwasanaethau Tai Cymunedol, roedd Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd a Rheolwr Landlordiaid a'r Gwasanaethau Tai Cymunedol yn bresennol i gynorthwyo'r Pwyllgor.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaeth y pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·      Ymgorffori'r Strategaeth Digartrefedd o fewn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai newydd ar gyfer 2023-2027.

·      Cynnydd ar flaenoriaethau'r Strategaeth Digartrefedd/meysydd penodol i’w datblygu, gan gynnwys cynnydd gydag ailgartrefu cyflym a chefnogaeth amlasiantaeth; gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd ynghylch cefnogaeth iechyd meddwl a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.

·      Heriau sy'n gysylltiedig â phandemig COVID. 

·      Natur a lefelau nifer y bobl sy'n dod yn ddigartref.

·      Niferoedd y bobl sy'n cysgu allan. (Ffigurau cymharol y rheini sy'n cysgu allan yn Abertawe a'r Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru i'w darparu i'r Aelodau).

·      Heriau sy'n gysylltiedig â llety dros dro, gan gynnwys defnyddio llety gwely a brecwast.

·      Cynnydd mewn perthynas â thai â chymorth.

·      Natur, lefelau a datblygiad parhaus tai ar gyfer pobl sengl.

·      Mentrau parhaus er mwyn delio ag achosion digartrefedd, gan gynnwys pobl sy'n gadael y carchar.

·     Effaith y gostyngiad yn y cyflenwad o dai fforddiadwy o fewn y sector rhentu preifat.

 

Oherwydd trafferthion technegol, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn dod i ben ac y byddai llythyr yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau yn adlewyrchu’r drafodaeth ac yn rannu barn y Pwyllgor.

 

56.

Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023.

 

57.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023.

 

58.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 279 KB

Trafodaeth am:

a)        Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)        Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023.

 

59.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023.

 

60.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Digartrefedd pdf eicon PDF 169 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Digartrefedd pdf eicon PDF 180 KB