Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

12.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 244 KB

To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.  

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

14.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Questions can be submitted in writing to Democratic Services democracy@swansea.gov.uk up until noon on the working day prior to the meeting. Written questions take precedence. Public may attend and ask questions in person if time allows.  Questions must relate to items on the open part of the agenda and will be dealt within a 10 minute period.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod dau gwestiwn wedi eu derbyn gan y cyhoedd. Nid oedd yr un o aelodau'r cyhoedd yn bresennol ac roeddynt wedi gofyn i'r Cadeirydd godi'r cwestiynau ar eu rhan. Gan fod y cwestiynau'n ymwneud â chofnod rhif 15, byddent yn ymdrin â nhw yn ystod y trafodaethau hynny.

 

Cyfeiriwyd gohebiaeth bellach gan aelod o'r cyhoedd ynglŷn â chau'r ffyrdd yn ddiweddar o ganlyniad i'r treiathlon a digwyddiadau eraill at Aelod perthnasol y Cabinet am ymateb.

 

15.

Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: pdf eicon PDF 257 KB

Y Cynghorydd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant

a)       Archifau

b)       Canolfannau Cymunedol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant ei adroddiad a oedd yn ymdrin â'r cynnydd mewn perthynas â datblygu Hwb Cymunedol yng nghanol y ddinas, a fydd yn gartref, ymysg pethau eraill, i'r Gwasanaeth Archifau, gwybodaeth am berfformiad y Gwasanaeth Archifau a'r sefyllfa bresennol wrth symud i gartref newydd. Roedd yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth hefyd yn bresennol i gyfrannu ac ateb cwestiynau perthnasol.

 

Roedd Geoff Bacon, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo, a Kim Collis, yr Archifydd Sirol, yn bresennol i gefnogi trafodaeth y Pwyllgor. Gwahoddwyd y ddau i roi trosolwg o gynnydd mewn perthynas â'r prosiect Hwb Cymunedol a'r goblygiadau i'r Gwasanaeth Archifau. Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad a gyflwynwyd i ddeall cefndir yr Hwb Cymunedol a'r amcanion, a'r gwaith a wnaed hyd yma.

 

Achubodd y Pwyllgor ar y cyfle i holi Aelodau'r Cabinet a chlywed gan y prif Swyddogion.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cwestiwn gan aelod o’r cyhoedd, Susan Thomas, ynglŷn â'r Gwasanaeth Archifau/Hwb Cymunedol, oedd â phryderon am unrhyw ostyngiad mewn mynediad i'r cyhoedd i'r Gwasanaeth Archif/lle sydd ar gael i ddefnyddwyr.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant fod defnyddwyr wedi cael y cyfle i fanylu ar eu prif ofynion fel rhan o'r broses ymgynghori. Er y byddai'r lle yn gyfyngedig, byddai'r cyhoedd yn cael eu cyfeirio at ardaloedd eraill lle gallent gyrchu'r wybodaeth (llyfrgelloedd, er enghraifft) a byddai'r gwasanaeth yn parhau i ddarparu gwasanaeth da yn y lleoliad newydd.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ail gwestiwn gan aelod o’r cyhoedd, Elisabeth Bennett, ynglŷn â'r Gwasanaethau Archif/Hwb Cymunedol a lleihad ym maint yr ystafell chwilio, ac yn arbennig yr effaith y gall hyn ei gael ar y gwasanaethau addysgol y gallai'r Gwasanaeth Archifau eu darparu.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant at ei ymateb blaenorol yn yr ystyr y byddai'r lle fydd ar gael yn gyffredinol yn gwella'r cynnig sydd ar gael i ysgolion o ran lle sydd ar gael i'w ddefnyddio. Nodwyd y gallai dosbarthiadau mawr o blant gadw ardaloedd o faint priodol ymlaen llaw er mwyn darparu ar gyfer eu hanghenion.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ddatblygiad y siopau dan yr unto/hybiau cymunedol. Byddai'r hybiau cymunedol hyn yn gwella'r gwasanaeth i'r cyhoedd drwy gyfuno gwasanaethau allweddol fel tai/llyfrgelloedd mewn un ardal hygyrch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch pa wasanaethau’r cyngor a rhanddeiliaid fyddai'n cael eu lleoli yn yr Hwb Cymunedol newydd yn nghanol y ddinas, dywedodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant y byddai'r rhanddeiliaid sy'n gweithio o hybiau cymunedol yn cynnwys gwasanaethau mewnol y cyngor (archifau, opsiynau tai, dysgu gydol oes, y ganolfan gyswllt etc.) a bod trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid allanol, er nid oedd yn gallu datgelu manylion y partneriaid allanol ar hyn o bryd oherwydd sensitifrwydd masnachol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefel yr ymrwymiad gan bartneriaid allanol mewn perthynas â darparu gwasanaethau o'r Hwb Cymunedol, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r arweiniad a roddwyd gan y sector cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn magu hyder yn y sector preifat i wneud yr un peth. Rhoddodd fanylion cynhwysfawr ynghylch cynigion gan sefydliad adfywio mawr oedd wrthi'n buddsoddi mewn safleoedd yng nghanol y ddinas.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd unrhyw ddewisiadau amgen wedi cael eu hystyried ynghylch adleoli pe bai problem gyda chyflawni achrediad/ardystiad angenrheidiol ar gyfer y Gwasanaeth Archifau, dywedodd yr Archifydd Sirol y byddai angen i'r Gwasanaeth Archifau newid y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau i ysgolion ac addasu i'r amgylchedd newydd. Cyfeiriodd at y system bresennol lle mae ysgolion yn profi dogfennau gwreiddiol. Fodd bynnag, o ystyried cyfyngiadau ystafell chwilio'r archifau, byddai angen iddynt ddatblygu ffordd wahanol o wneud hyn gan nad oedd modd dod â dogfennau gwreiddiol i ardaloedd cyhoeddus. Byddai angen i'r Gwasanaeth Archifau weithio o gwmpas cyfyngiadau adeilad aml-ddefnydd ac ni fyddai'r gwasanaeth presennol yn cael ei atgynhyrchu yn yr adeilad newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch a oedd Hwb Cymunedol canol y ddinas yn caniatáu cyfle i ehangu'r Gwasanaeth Archifau, dywedodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant ei fod yn darparu cyfleoedd i newid y gwasanaeth ac i ysgolion gael mynediad at gyfleusterau gwell.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch y lle archif yn bodloni meini prawf penodol ac a oedd cynlluniau amgen pe na bai hyn yn wir, cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant at yr ymgynghoriad a oedd wedi'i gynnal gyda rhanddeiliaid mawr a oedd, yn ei dro, wedi llywio'r broses ddylunio. Nid oedd trefniadau amgen ar hyn o bryd a rhagwelwyd na fyddai angen unrhyw rai. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch nifer yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus a dderbyniwyd ynghylch yr Hwb Cymunedol ac a oedd y rhain i gyd yn gadarnhaol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo fod y mwyafrif o'r 500 o ymatebion a dderbyniwyd yn gadarnhaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch parcio a mynediad i'r anabl, dywedodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant fod yr ymgynghoriad wedi llywio'r dyluniad. Byddai cyfleusterau parcio i'r anabl ar gael y tu ôl i Marks and Spencer ac yn yr ardal gyfagos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch unrhyw amrywiad yng nghostau'r prosiect o'r amcangyfrif blaenorol a adroddwyd i'r Pwyllgor a'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2021, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo fod y cynllun a'r costau sy'n gysylltiedig ag ef wedi cynyddu o’u cymharu â'r cynllun gwreiddiol. Dywedodd fod costau cynyddol i'w disgwyl o gofio pwysau chwyddiant presennol ond ategodd y nod o gyflawni cynllun a oedd yn gynaliadwy ac yn gost-effeithiol. 

 

O ran costau'r prosiect, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cwmpas y cynllun wedi newid yn sylweddol ond bod cyllid ychwanegol wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn gefnogol i'r prosiect. Roedd y cyngor yn gobeithio llofnodi cytundeb pris penodol a gwneud gwaith peirianneg gwerth ar gyfer y costau i sicrhau'r cytundeb gorau i'r trethdalwr. Dywedodd fod y tîm wedi gwneud gwaith da wrth ddatblygu'r cynllun a oedd bellach yn darparu llawer mwy o werth am arian o'i gymharu â phan oedd y cynllun yn ei gamau cyntaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynglŷn â'r angen i gyhoeddi costau'r cynllun, o ystyried yr argyfwng costau byw, dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn ymwybodol o'r angen i gyhoeddi'r costau terfynol ac y byddai'n gwneud hynny maes o law, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau ar adrodd oherwydd sensitifrwydd masnachol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo y byddai penodiad contractwr yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn. Byddai'r pris penodol yn cael ei gyhoeddi tua diwedd y flwyddyn a'r Hwb Cymunedol yn cael ei gwblhau cyn diwedd 2023/dechrau 2024. Nodwyd bod ystyriaethau eraill, fel dadansoddiad o brosesau busnes (a oedd yn cynnwys penderfynu ar dderbynfeydd, dyddiau ac amseroedd agor a lefelau staffio etc.) yn dal i gael eu datblygu gyda'r cyngor gan ei fod yn amlwg bod y cyhoedd yn dal i fod angen gwasanaeth 'wyneb yn wyneb'.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch cynlluniau hybiau cymunedol peilot yng Ngorseinon a Chlydach, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod pandemig COVID-19 wedi tarfu ar ddatblygiad y cynlluniau, fodd bynnag, mae cynlluniau hybiau cymunedol peilot yng Ngorseinon a Chlydach wedi cyflawni lefelau amrywiol o lwyddiant. Ailddatganodd ei awydd i ddatblygu hybiau, gan ddefnyddio adeiladau cymunedol yn ehangach ar draws Abertawe, gan adeiladu ar Hwb Cymunedol canol y ddinas.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynglŷn â'r lle sydd ar gael i'r Gwasanaeth Archifau yn yr Hwb Cymunedol newydd, dywedodd yr Archifydd Sirol y byddai'r archif bresennol yn ffitio i’r ardal archifau. Cyfeiriodd at yr adeilad sy'n cael ei rannu â llyfrgell Glowyr De Cymru gydag ardal storio ar y cyd.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gofnodion cyfarfod Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2022, ynglŷn â symud i'r Hwb yng nghanol y ddinas, sef y cam cyntaf i brosiect tymor hwy i adleoli'r gwasanaeth i gyfleuster newydd ger Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.  Cyfeiriodd y cofnodion at is-grŵp o archifwyr a Swyddogion Cyngor Abertawe yn cydweithio i ddatblygu'r syniad ymhellach. Nid yw'r cynnig wedi'i drafod eto gan y Cabinet yn Abertawe. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant fod yr is-grŵp yn dal i weithio ar ddatblygu'r syniad a phe bai hyn yn ymarferol byddai rhoi’r Gwasanaeth Archifau yn Hwb Cymunedol canol y ddinas yn gam dros dro i bob pwrpas. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod rhwymedigaeth ar y cyngor i nodi cyfleuster o'r radd flaenaf a bod cyfleoedd ehangach i brifysgolion fod yn rhan o hynny. Fodd bynnag, doedd dim cynlluniau ar waith ar hyn o bryd, ac roedd angen i waith fynd rhagddo i adleoli'r Gwasanaeth Archifau o'r Ganolfan Ddinesig.

 

Dywedodd yr Archifydd Sirol fod gwaith yn cael ei wneud (ar ffurf gwahoddiad i dendro) ar gyfer cynllun mwy uchelgeisiol i'r Gwasanaeth Archifau, yn dibynnu ar gyllid. Dywedodd ei fod yn ystyried y cynnig presennol fel un sy'n ateb dros dro. Dywedodd y byddai'n cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, i Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant a Swyddogion am eu mewnbwn. Byddai llythyr yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant yn myfyrio ar y sesiwn a barn y Pwyllgor.

 

16.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad a dywedodd, ar ôl gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan bob cynghorydd anweithredol, fod aelodaeth arfaethedig yn cael ei hadrodd i'r Pwyllgor am gymeradwyaeth. Roedd hyn yn cynnwys cynghorwyr a nodwyd i weithredu fel cynullydd i'r Panel Ymchwiliad a'r Gweithgorau, fel a ganlyn:

 

·         Y Cynghorydd Terry Hennegan – Panel Ymchwiliad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·         Y Cynghorydd Hazel Morris – Gweithgor Diogelwch ar y Ffyrdd

·         Y Cynghorydd Lyndon Jones – Y Gweithgor Cydgynhyrchu

·         Y Cynghorydd Mary Jones – Y Gweithgor Dinas Iach

·         Y Cynghorydd Rebecca Fogarty – Gweithgor Cyswllt Cwsmeriaid

 

Mewn diweddariad i'r adroddiad printiedig byddai'r Cynghorydd Allan Jeffery'n cael ei ychwanegu at y Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion.

 

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r Gweithgorau, fel yr adroddwyd.

 

17.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Yn unol â chynllun gwaith y Pwyllgor, trefnwyd i'r cyfarfod nesaf ar 13 Medi gynnwys sesiwn ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet gydag Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Gymuned, y Cynghorydd Cyril Anderson, yn canolbwyntio ar dipio anghyfreithlon. Dywedodd y Cadeirydd y gall cwestiynau i Aelod y Cabinet ymdrin â materion cysylltiedig ar sbwriel a glanhau cymunedol.

 

18.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2021/22. pdf eicon PDF 235 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol Craffu 2021/22.

 

Penderfynwyd cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu i'r cyngor ar 1 Medi, 2022.

 

19.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er gwybodaeth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 173 KB