Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

83.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Sam Pritchard – Cofnod Rhif 88 – Datganodd y Cynghorydd Sam Pritchard fuddiant personol a rhagfarnol a thynnodd yn ôl o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Sam Pritchard – Cofnod Rhif 88 – Datganodd y Cynghorydd Sam Pritchard gysylltiad personol a rhagfarnol a thynnodd yn ôl o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem.

84.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

85.

Cofnodion. pdf eicon PDF 250 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

86.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

87.

Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd), y Dirprwy Brif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gweithredol – Iechyd y Cyhoedd, y Comisiynydd Arweiniol Strategol a Rheolwr y Tîm Partneriaeth a Chynhwysiad i gyd yn bresennol i Graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

Roedd y ffocws allweddol ar Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PBS) 2020/21, a chafwyd trafodaeth benodol am Amcanion Lles y Blynyddoedd Cynnar a Heneiddio'n Dda y BGC. Rhoddwyd anerchiad llafar gan gynrychiolwyr, yn ychwanegol at yr adroddiad ysgrifenedig, gan gynnwys y pwyntiau canlynol: -

 

·                Roedd Cyd-bwyllgor y BGC wedi bod yn gwella data sylfaen, roedd yn datblygu asesiad lles a fframwaith newydd a fyddai'n cefnogi'r gwaith o adrodd ar berfformiad.

·                Roedd y Cydbwyllgor wedi cytuno ar fatrics cwmpasu i sicrhau eglurder ynghylch amcanion a phrosiectau a oedd yn destun gwaith ar hyn o bryd, o ran cyfraniad y BGC a chyfranogiad y Cydbwyllgor

·                Roedd yr ymateb i COVID-19 wedi dominyddu'r flwyddyn ddiwethaf, gan effeithio ar ei waith

·                Gwnaed gwaith sylweddol ar draws y grwpiau cyflwyno Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda a'r Blynyddoedd Cynnar, a chyfeiriwyd at y canlynol: -

o  Cynllun Hawliau Plant

o  Rhwydwaith Hawliau Plant

o  Gwaith parhaus i wneud Abertawe'n Ddinas sy'n Ystyriol o Oedran

o  Grŵp Llywio Heneiddio'n Dda

o  Recriwtio Swyddog Partneriaeth a Chyfranogiad

o  Cyfleoedd cyfranogi ac ymgynghoriadau

o  Diogelu a Chydraddoldeb yn y Gymuned LHDTC+

o  Roedd gwaith wedi dechrau ar annog pleidleisio yn 16+

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Fframwaith perfformiad a threfniadau rheoli i ddangos y gwahaniaeth y mae'r BGC yn ei wneud yn ogystal ag adrodd am gyflawniadau a chanlyniadau cyfarfodydd

·                Gwella'r data sylfaen dan yr asesiad lles

·                Datblygu fframwaith i gefnogi'r gwaith o adrodd am berfformiad

·                Model gwell ar gyfer cyflawni a mesur llwyddiant – dangosyddion perfformiad allweddol caled a meddal a'r olrheiniwr cynnydd canfyddiad ar gyfer partneriaid

·                Cytunwyd ar fatrics cwmpasu i sicrhau bod ffrydiau gwaith ac amcanion yn glir

·                Adroddwyd am rai enghreifftiau o welliannau/fentrau a roddwyd ar waith fel Ymrwymiad i Ddinas Hawliau Dynol, diwylliant cymunedol, agenda iechyd meddwl, argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, gwelliannau ar y Stryd Fawr, cryfhau'r berthynas â phartneriaid a chyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru

·                Gwelededd y cyhoedd o ran gwaith y BGC ac ymgysylltu'n well â'r cyhoedd 

·                Trefniadau ar gyfer prosesu a defnyddio barn a gesglir mewn digwyddiadau ymgysylltu

·                Effaith y ffordd ddosbarthu newydd ar ansawdd yr aer yn yr Hafod – gwelwyd gostyngiad o 30% yn N02 ers ei hagor yn 2016 (nid oedd y ffigur hwn yn cynnwys y lefel is o draffig oherwydd COVID-19) a gostyngiad o 28% mewn traffig drwy'r Hafod ar hyd Neath Road yn y 2 flynedd gyntaf o'i hagor

·                Llwyddiant y Cynllun Men's Shed a'r Cynllun Teithio Llesol gyda phwysigrwydd cynyddol ar fannau gwyrdd 

·                Dyfodol Ysbyty'r Bae – ymestyn y caniatâd cynllunio dros dro

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelodau, Swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.   

88.

Craffu Cyn Penderfynu: - Adferiad a Buddsoddiad Covid. pdf eicon PDF 237 KB

a)       Rôl y pwyllgor.

b)       Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau.

c)       Barn y pwyllgor i'r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr arweinydd, gan amlinellu barn y pwyllgor cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Ionawr 2022.

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad a Swyddogion i gyd yn bresennol er mwyn i'r Pwyllgor ystyried adroddiad y cabinet ar 'Adfer o COVID a Buddsoddiad'

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys casgliad o fuddsoddiadau a symiau o arian a gynigiwyd i gefnogi nifer o fentrau allweddol gan gynnwys isadeiledd ar systemau TG y cyngor i sicrhau cadernid wrth symud i'r cwmwl. Roedd arian ar gyfer ardaloedd chwarae ychwanegol ledled y ddinas yn ogystal â rhai buddsoddiadau i wrthbwyso rhai o'r pwysau a oedd wedi codi o ganlyniad i COVID

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Yr oedi o ran gwneud y gwaith i uwchraddio Oracle a'r effaith ar y rhaglen a'r costau. Eglurwyd bod y buddsoddiad o £3.62m yn ychwanegol at gyllideb flaenorol o £4.8m ar gyfer y rhaglen felly byddai'n cynrychioli cyfanswm gwariant o ychydig dan £8.5m – ni ddisgwylid iddo godi ymhellach ar yr amod nad oedd unrhyw amrywiolion pellach na materion nas rhagwelwyd yn codi

·         Effaith COVID – roedd angen tua £1 miliwn o bunnoedd ar gyfer trwyddedau ychwanegol yn ogystal â'r angen i ddarparu mwy o ddyfeisiau i alluogi pobl i weithio gartref. Roedd yn rhaid cynllunio systemau i ddarparu cymorth i fusnesau a gweinyddu grantiau, systemau ar gyfer talu prydau ysgol, taliadau ar-lein ar gyfer tai gyda phorth tai yn cael ei lansio cyn bo hir etc., ac roedd y rhain i gyd yn cael blaenoriaeth dros uwchraddio Oracle yn ogystal â'r holl systemau a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, megis Profi, Olrhain, Diogelu

·         Cadernid yr isadeiledd digidol a'r systemau TG - y system Oracle oedd yr olaf mewn cyfres o waith uwchraddio angenrheidiol ac roedd yr holl systemau corfforaethol mawr/hanfodol mor gadarn ag y gallent fod, gyda chynlluniau cadernid ac adfer/parhad ar waith

·         Y dull ar gyfer y buddsoddiad arfaethedig mewn Cyfleusterau Parc Sglefrio ar draws ardal y cyngor - roedd arolwg o gyfleusterau presennol yn cael ei gynnal gan swyddogion a byddent yn ceisio diddordeb cynghorwyr lleol ynghylch cyfleusterau yn y man, ond byddai ymagwedd strategol yn cael ei dilyn i sicrhau defnydd effeithiol o arian, gan roi cyfleusterau yn y mannau lle mae galw clir amdanynt. Awgrymwyd y dylid cynnwys dichonoldeb cyfleuster symudol mewn unrhyw opsiynau ar gyfer arfarnu, y gellid eu rhannu gan ardaloedd ledled Abertawe

·         Rhagdybiaethau ynghylch gweithio gartref yn y tymor hwy, y tu hwnt i'r pandemig, a'r goblygiadau i'r cyngor o ran gofod swyddfa yn y dyfodol a chostau cysylltiedig – disgwylid y byddai'r cyngor yn parhau â'r polisi gweithio ystwyth gyda chymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref

·         Clywodd y Pwyllgor fod galw o hyd am ddatblygu swyddfa breifat

·         Symud i system deleffoni ar y we – y gallu i'r cyhoedd gysylltu â swyddogion

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan amlinellu barn y Pwyllgor cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Ionawr 2022. 

89.

Craffu Cyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet - Sesiwn holi ac ateb gydag Arweinydd
y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Y Cynghorydd Rob Stewart). pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr arweinydd, gan amlinellu barn y Pwyllgor.

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd) a'r Dirprwy Brif Weithredwr yn bresennol i Graffu ar Ei Gyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·       Brexit - Goblygiadau disgwyliedig i Abertawe a'r effaith ar gyllid ar gyfer Abertawe, gan y rhagwelir y byddai disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE gyda'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael effaith negyddol fawr ar yr economi yn gyffredinol. Amcangyfrifwyd bod tua £100 miliwn wedi'i golli mewn cyllid yn Abertawe drwy wahanol bartneriaid. Roedd yn dal i aros am fanylion am y Gronfa Ffyniant Gyffredin

·       Canol y Ddinas – cynnydd/diweddariad ar siopau/unedau gwag yng nghanol y ddinas yn enwedig Debenhams a Chanolfan Siopa'r Cwadrant – Clywodd y Pwyllgor fod COVID wedi effeithio ar bob canol dinas a bod cwmnïau cenedlaethol yn methu. Roedd Abertawe wedi dod drwy dipyn o hynny ac roedd y buddsoddiadau niferus parhaus o amgylch y ddinas yn helpu i wneud Abertawe'n lle deniadol i fuddsoddi ynddo. Roedd 7 siop wag yn y Cwadrant, ac mae 4 ohonynt bellach wedi'u hail-osod ac roedd trafodaethau'n parhau mewn perthynas â Debenhams

·         Cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas - llety myfyrwyr, swyddfeydd gan gynnwys Theatr y Palas, swyddfeydd pellach ar Princess Way, ail-leoli'r Ganolfan Ddinesig, hwb cymunedol, buddsoddiadau yn y sector preifat ynghyd â digwyddiadau y gellir eu cynnal yn yr arena newydd, Neuadd Albert yn ogystal â Neuadd Brangwyn, Stadiwm Liberty a Pharc Singleton yn ogystal â lleoliadau eraill fel mannau cyhoeddus, Gerddi'r Castell a Wind Street a fydd hefyd yn ychwanegu at gynnig Abertawe

·         Rhaglen Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru – amlinelliad ac amserlenni

·         Ailddylunio Wind Street – cynllun gwella mannau cyhoeddus gwerth £3 miliwn gyda'r nod o ehangu apêl yr ardal a darparu amgylchedd mwy diogel, mwy hygyrch a deniadol.

·         Gosod 70 o synwyryddion monitro ansawdd aer sy'n defnyddio technoleg ddigidol i fonitro a deall ansawdd aer, a defnyddio'r wybodaeth gan y synwyryddion hyn i lywio penderfyniadau a chynllunio trafnidiaeth posib yn y dyfodol

·         Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â dyfodol yr ystadau tai ar Emrys Road a Tudno Place ym Mhen-lan a'r uwchgynllun – Ymgynghoriadau ac ymgysylltu i barhau o wanwyn 2022

·         Y ddarpariaeth westai yn Abertawe a'r camgyfathrebu ynghylch ffoaduriaid yn ymgartrefu yng ngwesty'r Dragon

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelod a'r Swyddogion

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr arweinydd, gan amlinellu barn y Pwyllgor.  

90.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Addysg (y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd). pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, Adroddiad Diweddaru'r Panel Perfformiad Addysg a thynnodd sylw at y ffaith fod y Panel wedi bod yn canolbwyntio ar y canlynol, ymysg gwaith arall: -

 

·                Prosiect Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig, a phryderon am y cyfleoedd i blant ddysgu'r sgiliau cywir mewn ysgolion i gael mynediad at swyddi i gefnogi holl brosiectau'r Fargen Ddinesig

·                Perfformiad y plant hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

 

Diolchodd y Cynullydd i athrawon, penaethiaid a staff am eu holl waith caled.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd am yr adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

91.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 229 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu. Ni nodwyd unrhyw newidiadau.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

92.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 263 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Rhaglen Waith Craffu.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 15 Chwefror 2022. Y brif eitem a drefnwyd oedd Craffu ar Drosedd ac Anhrefn – Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel.

 

Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf am gais cyhoeddus i graffu ar anawsterau'r rheini heb ddarpariaeth parcio oddi ar y stryd i wefru cerbydau trydan gartref. Nid oedd angen cymryd unrhyw gamau ar unwaith o ran craffu, ond awgrymodd efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno craffu ar strategaeth ddrafft y cyngor ar gyfer gweithredu pwyntiau gwefru cerbydau trydan, a fydd yn ystyried gwefru ar y stryd fel rhan o'r strategaeth, wrth iddi ddod ar gael. Mater i'w drafod ar ôl yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai fyddai hwn.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

93.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r llythyrau Craffu.

94.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 201 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf y panel/gweithgor.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu pdf eicon PDF 110 KB

Llythyr at Gyd-gadeiryddion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 135 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet (Economi, Cyllid a Strategaeth ) - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 148 KB