Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

60.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Peter Jones – Cofnod Rhif 64 – Personol – Bu'n cynorthwyo i ddrafftio'r Amcanion Llesiant o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

61.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

62.

Cofnodion. pdf eicon PDF 369 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

63.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

64.

Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ysgrifennu at aelodau’r Cabinet gan adlewyrchu’r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor.

Cofnodion:

Roedd Aelodau'r Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tlodi a'i Atal yn bresennol ar gyfer yr adroddiad ar Gyflawni’r Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi.

 

Ymhellach, yn yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, tynnwyd sylw at y canlynol: -

 

·                Diffiniad o Dlodi - incwm islaw safon ofynnol sy'n dderbyniol i fyw arno, cyfleoedd/adnoddau annigonol, mynediad annigonol i wasanaethau angenrheidiol

·                Ffactorau amrywiol tlodi – diweithdra, budd-daliadau aneffeithiol, cost uchel tai, perthnasoedd, camdriniaeth etc.

·                Nodau allweddol i wella bywydau pobl

·                Ymagwedd gyfannol at fynd i'r afael â thlodi

·                Gweithio mewn partneriaeth da

·                Dibyniaeth fawr ar grantiau

·                Enghreifftiau o waith gwych Tîm Tlodi'r cyngor fel yr amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: -

 

·                Nodau ac amcanion y cyngor mewn perthynas â thlodi – cwmpas yr hyn y gellir ei gyflawni fel un cyngor

·                Gweithio mewn partneriaeth da gyda'r nod cyffredin o wella bywydau

·                Roedd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe yn bwriadu'i lansio yn 2022 - dywedwyd bod hyn yn ymwneud â mewnbwn gwirioneddol gan bobl sydd wedi profi tlodi – yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd gan Gyngor Leeds

·                Rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a nod Cymru Gydnerth wrth helpu i fynd i'r afael â thlodi – mynediad i fannau gwyrdd, tai sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, profiad cyflogadwyedd yn yr economi werdd

·                Y potensial ar gyfer Siopau dan yr Unto ar gyfer ffynonellau cyngor, cymorth a gwybodaeth a defnydd posibl o'r Hwb Cymunedol am wybodaeth – roedd yr enghreifftiau presennol yn cynnwys canolfannau cyflogadwyedd, canolfannau cymorth cynnar, pwyntiau mynediad cyffredin, Cydlynwyr Ardaloedd Lleol, prosiectau mewn llyfrgelloedd yn ogystal â datblygu siopau Dyfaty a hwb cymunedol canol y ddinas     

·                Tlodi bwyd ac effaith annog 'tyfu eich hun' mewn cymunedau – dosbarthwyd £450,000 o gyllid i dros 100 o brosiectau ledled Abertawe ers 2019 i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd – cawsant eu rhannu'n 3 phrif gategori sef: darparu cymorth bwyd mewn argyfwng, datblygu sgiliau coginio ac annog prosiectau tyfu bwyd cymunedol – o ran effaith, adroddwyd bod sefydliadau wedi dweud bod y cymorth yn allweddol wrth ddelio â'r galwadau cynyddol a ddaeth yn sgîl y pandemig

·                Gostyngiad yn yr enillion amser llawn blynyddol cyfartalog yn Abertawe o'u cymharu â ffigurau Cymru a'r DU sydd wedi cynyddu

·                Cyflogadwyedd a rhwystrau posib i gael gwaith – mater allweddol trafnidiaeth yn ogystal â materion gofal plant a waethygwyd gan y pandemig, y bwlch mewn derbyn cyflogau o ddechrau'r gwaith a diffyg mynediad at gyfleoedd am brofiad yn ystod y pandemig

·                Ffyrdd o fonitro a mesur llwyddiant y mesurau Trechu Tlodi Corfforaethol a mesur yr ymdrechion i liniaru tlodi fel rhwystr i lwyddiant academaidd. Roedd mesur y llwyddiant yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ymdrechion/mesurau a gymerwyd yn gweithio ac yn cael yr effaith a ddymunir

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau a Swyddogion y Cabinet ac edrychodd ymlaen at gael diweddariad pellach yn y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor.

65.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd, Adroddiad Diweddaru'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio a thynnodd sylw at y canlynol o weithgareddau diweddar y Panel: -

 

·                Ymweliad y Panel â'r Arena newydd – nodwyd bod rhai problemau wedi bod gyda deunyddiau, achosion o COVID-19 ar y safle a phrinder labrwyr o ganlyniad i'r pandemig, ond roeddent wedi cael sicrwydd y byddai'n cael ei chwblhau erbyn mis Mawrth 2022

·                Pentref Blychau yn SA1 – roedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn mynd i dalu costau'r prosiect

·                Gwrandawiad gan Brifysgol Abertawe – ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu cyfleusterau technoleg ganolig a thechnoleg chwaraeon ar gampws Singleton ac yn Nhreforys 

·                Cynllun Teithio Canol y Ddinas – ceisio annog llai o ddefnydd o geir yng nghanol y ddinas, adleoli ambell safle parcio a theithio, posibilrwydd o ehangu'r cynllun teithio ar fysus am ddim

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd am yr adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

66.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 235 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu.

 

Nodwyd Aelodaeth y Gweithgor Diogelwch ar y Ffyrdd fel y cytunwyd yn flaenorol yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

67.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 264 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Rhaglen Waith Craffu.

 

Nodwyd bod cynllun gwaith Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi'i addasu, yn yr un modd â Phanel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion, o ystyried y pwysau presennol sydd ar Swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol i ymdopi â'r galw ychwanegol sy'n deillio o'r pandemig.

 

Cyfeiriodd at adroddiad y Cabinet, a gyhoeddwyd yn agenda'r Cabinet ar 18 Tachwedd ynghylch cytundeb cyfreithiol ar y bartneriaeth addysg ranbarthol newydd sef 'Partneriaeth'. O fewn y cytundeb cyfreithiol, cadarnhawyd y byddai grŵp craffu ar y cyd yn cael ei sefydlu maes o law i graffu ar waith y bartneriaeth.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 14 Rhagfyr 2021. Y prif eitemau a drefnwyd oedd: -

 

·                Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet – Polisi Parcio, Rheolaeth a Gorfodi

·                Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

·                Craffu cyn penderfynu ar Adroddiad y Cabinet ar 'Gaffael ac Ailddatblygu Lesddaliadau RhGA7 – 279 Stryd Rhydychen / 25-27 Princess Way’'

 

Dywedwyd efallai y byddai'r gwaith o graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei aildrefnu ar gyfer mis Ionawr pe bai'r eitem Craffu Cyn Penderfynu yn mynd yn ei blaen ym mis Rhagfyr.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

68.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r llythyrau Craffu.

69.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 200 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 164 KB