Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd Wendy
Fitzgerald – Cofnod Rhif 30 – Datganodd y Cynghorydd Wendy Fitzgerald
gysylltiad personol. Y Cynghorydd Clive Lloyd
– Cofnod Rhif 30, 31 a 32 – Datganodd y Cynghorydd Clive Lloyd gysylltiad personol
a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr
eitemau. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Wendy Fitzgerald - Cofnod Rhif. 30 - yn berchen ar lety
gwyliau - Personol Y Cynghorydd Clive Lloyd - Cofnodion Rhifau 30, 31, a 32 - Datganodd y
Cynghorydd Clive Lloyd fuddiant personol a rhagfarnol
a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitemau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2021 fel
cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
a) Twristiaeth, Rheoli a Marchnata Cyrchfannau b) Hyrwyddo Busnes a’r
Ddinas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n
ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu’r drafodaeth a rhannu barn y
pwyllgor. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a Swyddogion yn bresennol i
ystyried yr adroddiad ar Dwristiaeth a'r adroddiad ar Hyrwyddo Busnes a’r
Ddinas. Twristiaeth Rhoddodd y
Rheolwr Twristiaeth a Marchnata anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad
ysgrifenedig a ddosbarthwyd a oedd yn tynnu sylw at y canlynol: - ·
Gwerth
twristiaeth i'r economi leol ·
Effaith
COVID-19 ar y diwydiant twristiaeth ·
Blaenoriaeth
Strategol 1: Adolygu ac Ymchwil - Cynnal gwybodaeth am ymwelwyr, nodi
tueddiadau yn y farchnad a chynnal arolygon o stoc gwelyau, cyfraddau llenwi ac
arolygon masnach. ·
Blaenoriaeth
Strategol 2: Cyfeirio a chefnogi - cefnogi busnesau drwy'r pandemig
gyda grantiau a chymorth ar ddeddfwriaeth ac arweiniad ·
Blaenoriaeth
Strategol 3: Atgoffa ac annog pobl i ddychwelyd – bu’n rhaid i ymgyrchoedd
marchnata ganolbwyntio ar yr hyn a oedd ar gael ar ôl agor ·
Ymgysylltiad
da ar gyfryngau cymdeithasol ·
Dim
ond yn ddiweddar yr oedd y sector digwyddiadau wedi ailagor ac roedd hynny'n
rhan bwysig o gynnig Abertawe ·
Cynllun
Rheoli Cyrchfannau ·
Problemau
o ran y gwahanol reolau rhwng Cymru a Lloegr ·
Diddordeb
gan fusnesau a gweithredwyr newydd ·
Ffocws
allweddol ar wneud i'r tymor bara'n hirach ·
Ymgyrch
farchnata newydd ar gyfer eleni – ‘Lle Hapus’ ·
Ceisiadau
llwyddiannus am arian o'r Gronfa Cadernid Economaidd ·
Cynllun
Adfer Twristiaeth ·
Sylw
gan y wasg Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Y
Cynllun Adfer Twristiaeth ·
Dyddiad
cau a chynulleidfa darged wrth farchnata Abertawe fel cyrchfan i dwristiaid
Cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd ar eu gwyliau yng Nghymru a buddion i
Abertawe ·
Argymhellion
yn codi o'r Gweithgor Craffu Twristiaeth blaenorol na chawsant eu derbyn gan y
Cabinet, a'r potensial i ailedrych arnynt - yn enwedig o ran hyrwyddo
eco-dwristiaeth gyda sefydliadau amgylcheddol. ·
Perthynas
â Grŵp Gweithredu Diogelwch Gwerinwyr Gŵyr ·
Hyrwyddo'r
orsaf reilffordd yn Nhre-gŵyr yn enwedig o safbwynt eco-dwristiaeth yn
ogystal â'r posibilrwydd o logi beiciau yn yr orsaf i hyrwyddo mynediad i
Ben-clawdd/Gogledd Gŵyr ·
Twristiaeth
rithwir - posibilrwydd o osod codau QR mewn cyrchfannau a allai ddarparu
gwybodaeth/hanes ar gyfer y cyrchfan hwnnw ·
Hyrwyddo/marchnata
ar gyfer y farchnad leol - Ditectif Carreg Drws ·
Mapiau
hygyrch o lwybrau troed ar gyfer pobl sy'n mwynhau gwyliau gwyrdd ·
Pwysigrwydd
edrychiad a theimlad Abertawe i dwristiaid, e.e. glendid a gwelliannau
angenrheidiol i doiledau cyhoeddus ·
Menyw
Goch Pen-y-fai (Pafiland) a'i harwyddocâd i'r ardal ·
Prosiect
Celtic Wave - nodwyd Abertawe fel porthladd posib -
cyfyngiadau ar faint y llongau a all ddod mewn i'r porthladd. ·
Treth
i dwristiaid - syniad a grybwyllwyd gan Lywodraeth Cymru Hyrwyddo Busnes a Dinas Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Hygyrchedd
cyngor a chefnogaeth i fusnesau. Nodwyd cynnydd mewn gwybodaeth ar gyfryngau
cymdeithasol. Nodwyd bod gwefan newydd y cyngor i fod i gael ei lansio yfory a
fyddai â gwybodaeth berthnasol a gwell i fusnesau ·
Cynnydd
safle Parc Felindre wrth ddenu busnesau newydd - dywedwyd bod y 18 mis diwethaf
wedi bod yn anodd ond bod yr economi'n gwella yn ogystal â diddordeb yn y
safle, gyda 3 thrafodaeth fyw yn mynd rhagddynt ·
Effaith
y pandemig ar ganol y ddinas a chynlluniau adfer -
nodwyd bod Strategaeth Ail-bwrpasu Canol y Ddinas i fod i'w chyflwyno i'r
Cabinet ym mis Medi. ·
Roedd
datblygu'r Arena a'r agenda adfywio yn rhoi gwell golwg ar Abertawe ·
Cael
tenantiaid ar gyfer yr unedau gwag yn y Cwadrant gan gynnwys Debenhams - roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda pherchnogion
y Cwadrant ac roedd disgwyl i unedau gael eu gosod ·
Roedd
holl unedau'r Arena wedi'u gosod gyda busnesau lleol o ansawdd da a disgwylid
i'r Arena gynhyrchu dros 200 o ddigwyddiadau'r flwyddyn ymhen 3 blynedd ·
Hyrwyddo
bwyd lleol - cig oen morfeydd heli Gŵyr ·
Pwysigrwydd
canol y ddinas defnydd cymysg ·
Llety
i fyfyrwyr, datblygiad Ffordd y Brenin a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr â chanol
y ddinas ·
Hyrwyddo
bwyd lleol - e.e. yn dilyn y statws gwarchodedig diweddar a roddwyd i gig oen
morfeydd heli Gŵyr Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Jeff Jones Adroddiad Diweddaru'r Panel Gwella Gwasanaethau a
Pherfformiad Cyllid ar ran y Cynullydd. Yn dilyn yr
adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, amlygodd yn benodol: - ·
Fonitro
Cyllideb Chwarter 3 2021/21 ·
Colli
incwm o ganlyniad i'r pandemig - roedd Llywodraeth
Cymru wedi talu £2.2 miliwn ·
Roedd
gan Gyngor Abertawe lefelau benthyca uchel ·
Gwariant
y Gronfa Gyffredinol oedd £150 miliwn - roedd Llywodraeth Cymru wedi talu peth
o hwnnw ·
£50
miliwn wrth gefn - grantiau a chyllid cyfochrog yn bennaf ·
Roedd
costau cyllido cyfalaf i lawr - yn bennaf oherwydd penderfyniadau i beidio â bwrw ymlaen â rhai prosiectau'n ·
Diffyg
Treth y Cyngor o £2.5 miliwn a dalwyd gan Lywodraeth Cymru ·
Adroddiad
Blynyddol Cwynion Corfforaethol ·
Cynnydd
tuag at gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ·
Perfformiad
mewn perthynas â Safona'r Gymraeg Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Jeff Jones am y diweddariad. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2020/21. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y byddai Adroddiad Blynyddol Craffu 2020/21 yn
mynd gerbron y cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol Craffu 2020/21. Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Craffu 2020/21 a'i roi gerbron y cyngor. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 229 KB Penderfyniad: Penderfynwyd ychwanegu enw’r Cynghorydd Joe Hale at Banel
Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Penderfynwyd ychwanegu'r Cynghorydd Joe Hale at Banel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 265 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am y Rhaglen Waith Craffu. Cyfeiriodd at y
penderfyniad i ddiddymu consortiwm rhanbarthol ERW (Ein Rhanbarth ar Waith) a
sefydlu Partneriaeth Addysg De-orllewin Cymru newydd. Bydd cytundeb cyfreithiol
rhwng y 3 chyngor sy'n ymwneud â'r bartneriaeth newydd yn cadarnhau telerau'r
bartneriaeth a'r trefniadau llywodraethu, gan gynnwys trefniadau craffu. Nododd y Pwyllgor
gais cyhoeddus am graffu a dywedwyd wrthynt y byddai'r Panel Gwella
Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid yn edrych ar y Gwasanaethau Cynllunio yn un
o gyfarfodydd y Panel ym mis Tachwedd. Trefnwyd cyfarfod
nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 14 Medi 2021. Y prif eitemau a
drefnwyd oedd trafodaethau ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau’r Cabinet a
restrir isod: - 1.
Sbwriel
a Glanhau'r Gymuned gydag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd 2.
Polisi
Ynni (gan gynnwys cynhyrchu, cyflenwi a'r rhwydwaith gwresogi) gydag Aelod y
Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Roedd yn cynnwys
gohebiaeth a oedd yn ymwneud â chyfarfod diweddar Gweithgor Cynghorwyr Craffu
ERW er gwybodaeth i'r pwyllgor. Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 196 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd dyddiad ac
amser cyfarfod nesaf y panel/gweithgor. |
|