Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

56.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Mark Child – Cofnod Rhif 60 – Aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Personol

57.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

58.

Cofnodion. pdf eicon PDF 282 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2021 fel cofnod cywir.

59.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

60.

Craffu'r Strategaeth Digartrefedd. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau/y Dirprwy Arweinydd 'Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Digartrefedd'.

 

Roedd y Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd, y Rheolwr Gweithrediadau, y Gwasanaethau Tai Cymunedol a'r Uwch-swyddog Rheoli Polisi a Lesddaliadau hefyd yn bresennol.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd gyda Strategaeth Digartrefedd y cyngor ers iddi gael ei mabwysiadu gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2018.

 

Amlygodd Aelod y Cabinet y canlynol:

 

·                Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'r gwasanaeth

·                Ymrwymiad i’r addewid 'gwely ar gael bob amser'

·                Roedd y Strategaeth Digartrefedd ar y pwynt canolog ar hyn o bryd

·                Er gwaethaf y pandemig gwnaed cynnydd da ar bob un o 5 amcan y strategaeth

·                Roedd y pandemig wedi arwain at waith partneriaeth rhagorol a gobeithiwyd y byddai hynny'n parhau

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Beth oedd wedi newid ers i'r strategaeth ddechrau – a oedd unrhyw elfennau'n ddiangen o ystyried y sefyllfa bresennol. Nodwyd bod y pandemig wedi cyflymu cynlluniau mewn sawl ffordd

·                Cyllid a chynaliadwyedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn ystod y pandemig

·                Canolbwyntio ar ymagwedd ailgartrefu cyflym – lapio cymorth amlasiantaethol o amgylch pobl i'w helpu i lwyddo yn eu tenantiaethau

·                Mae’n debygol y caiff y prawf 'angen blaenoriaethol' ei ddileu fel maen prawf ar gyfer tai – effeithiau posibl ar gyllid, adnoddau a'r system bwyntiau gyfredol

·                Newid amgyffrediad y cyhoedd o ddigartrefedd

·                Nifer y bobl ddigartref mewn llety Gwely a Brecwast – ymdrechion i gael tai mwy cynaliadwy y lle hyn

·                Yr angen i gynyddu'r cyflenwad o eiddo 1 ystafell wely – nid yw'r cyflenwad yn ateb y galw

·                Cynnal adolygiad tai â chymorth dros dro

·                Gwella'r sefyllfa i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid – darparu cymorth ar gyfer anghenion sylweddol, yn enwedig i’r rheini sy'n gadael llety’r Swyddfa Gartref wrth newid statws. Nodwyd bod Abertawe yn un o bedair ardal wasgaru yng Nghymru

·                Hyfforddiant ar 'Amgylchedd sy'n Seicolegol Wybodus' – effaith hynny – dyddiau cynnar i asesu effaith yr hyfforddiant hwn

·                Effaith digartrefedd ar blant a phobl ifanc mewn perthynas â'u haddysg – sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl

·                Plant sy'n gadael gofal – dywedwyd bod cymorth er mwyn bod yn 'barod ar gyfer tenantiaeth' yn gweithio'n dda

·                Targed i osgoi tai Gwely a Brecwast i deuluoedd

·                Symud oddi wrth ddatblygu 'canolfan atebion' gyfannol – opsiynau amgen ar gyfer gwasanaethau o'r fath gyda mwy o weithio allgymorth neu rai gwasanaethau a ddarperir mewn canolfannau eraill fel Tŷ Tom Jones neu Ganolfan Canol y Ddinas.

·                Gweithio mewn partneriaeth rhwng y cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i atal digartrefedd

·                Cynnydd y rhaglen frechu mewn perthynas â'r rheini sydd wedi cael eu lletya gan y cyngor

·                Darpariaeth/Cyllid i Gefnogi Iechyd Meddwl

·                Cynnydd o ran darparu tai i'r rheini ag anifeiliaid anwes

 

Nododd y pwyllgor ac Aelod y Cabinet y gwaith rhagorol a wnaed gan staff yn ystod y pandemig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet a'r swyddogion ar ran y Pwyllgor

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

61.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd, yr wybodaeth ddiweddaraf am y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

 

Yn dilyn yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, tynnodd sylw'n benodol at y ffaith bod y panel yn edrych ar ystod eang o bynciau yn ogystal â'r Fargen Ddinas. Byddai cam nesaf Datblygiad Canol y Ddinas yn hanfodol o ran llwyddiant y prosiect ar gyfer Abertawe a byddai'n parhau i gael ei fonitro gan y panel.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

62.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu.

 

Hysbyswyd y pwyllgor fod y Cynghorydd Peter Jones wedi'i ailbenodi'n Gynullydd Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol.

63.

Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2020/22. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2022/22.

 

Nododd y Cadeirydd fod y Gweithgor Craffu ar y Gweithlu wedi cyfarfod ar 29 Mawrth 2021. Cymeradwyodd y pwyllgor gais y Gweithgor i gyfarfod eto ymhen 6 mis i ailedrych ar y pwnc.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 18 Mai 2021. Y brif eitem a drefnwyd oedd Craffu ar Drosedd ac Anhrefn, a fyddai'n edrych ar berfformiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe, Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

64.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

65.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 255 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 312 KB