Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd Mark Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 51 "Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Cyd.” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

46.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

47.

Cofnodion. pdf eicon PDF 256 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

48.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

49.

Diweddariad/Cynllun Adfer Covid-19. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr a'r Dirprwy Brif Weithredwr yn bresennol er mwyn i'r Pwyllgor ystyried ymateb presennol y cyngor a chynllunio adferiad o bandemig COVID-19.

 

Darparodd y Prif Weithredwr rai diweddariadau a oedd yn cynnwys: -

 

·                Effaith gadarnhaol y cyfyngiadau symud ar nifer yr achosion, a oedd ar hyn o bryd tua 34 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn Abertawe.

·                Roedd y rhaglen frechu yn mynd rhagddi'n dda gyda thua 128,000 o frechlynnau wedi'u gweinyddu.

·                Roedd disgyblion ysgolion cynradd wedi dychwelyd i'r ysgol, ac roedd disgyblion ysgol uwchradd yn dychwelyd yn raddol

·                Roedd cyfyngiadau ar waith o hyd ac roedd yn bwysig peidio â bod yn hunanfodlon a pharhau i gadw at y cyfyngiadau hynny 

·                Mae datblygiad hil newydd o'r feirws yn parhau'n bryder

·                Roedd epidemiolegwyr wedi rhagweld cynnydd yn y feirws – mae graddau'r cynnydd hwn yn parhau'n ansicr ac yn anodd i'w ragweld gan ei fod yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel cyfyngiadau, cyflenwad parhaus o frechlynnau, cyflenwad y brechlyn a nifer y bobl sy’n cael y brechlyn.

 

Tynnodd y Dirprwy Brif Weithredwr sylw at yr agweddau canlynol mewn perthynas â'r cynllun adferiad:-

 

·                Bu ton arall o'r feirws ers cymeradwyo adroddiad y Cabinet ym mis Hydref 2020

·                Adolygiad Llywodraethu – adolygu a symleiddio llywodraethu a chreu grŵp llywio newydd

·                Ffrydiau gwaith ac amserlen cyfarfodydd 

·                Y diweddaraf ar gamau gweithredu, a oedd yn cynnwys:

o            Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe

o            Rhaglen Gyfalaf Safonau Ansawdd Tai Cymru a           Chydymffurfiaeth

o            Gweithio gartref yn ystod COVID-19

o            Arolwg Staff ar weithio gartref

o            Nodyn briffio i reolwyr ar gymorth i staff

o            Strategaeth Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad

o            Polisi Gweithio'n Ystwyth

·                Olrhain Cyflawni ar gyfer targedau'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig

 

Canolbwyntiodd cwestiynau a thrafodaethau â'r Arweinydd a'r Swyddogion ar y canlynol:

 

·                Trefniadaeth drawiadol gan y rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu

·                Sylw yn y wasg yn ddiweddar ynghylch Brechlyn AstraZeneca ac effaith bosib

·                Cyfleoedd i Aelodau gyfrannu at y Cynllun Adferiad – y broses o wneud penderfyniadau

·                Aelodaeth Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector yn y ffrwd Waith Cymorth Gymunedol – gan gynnwys a oedd presenoldeb amgylcheddol

·                Aelodaeth o'r Gweithgor Newid yn yr Hinsawdd yn ffrwd gwaith yr Economi a'r Amgylchedd

·                Heriau'r Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - diffyg canllawiau statudol, amserlenni, adnoddau ar gyfer asesiadau perfformiad ac adolygiadau cymheiriaid ynghyd â sicrhau bod gweithio ar y cyd yn gynhyrchiol ac yn effeithlon

·                Cyfleoedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 – pŵer cymhwysedd cyffredinol, strategaeth cyfranogiad cyhoeddus, gallu a chyfleoedd cydweithredu a chydbwyllgorau corfforaethol

·                Cysylltu ffrydiau gwaith a gweithio mewn partneriaeth

·                Gweithio mewn partneriaeth ar adferiad Abertawe

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r holl staff am eu gwaith yn ystod y pandemig.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

50.

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc - Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2020. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, y Comisiynydd Arweiniol Strategol, y Cydlynydd Hawliau Plant a Rheolwr Partneriaeth Cyfnodau Bywyd yn bresennol ar gyfer yr adroddiad ar Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2020. Darparwyd Adroddiad Pontio hefyd ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 ac effaith y pandemig. Amlygwyd y prif bwyntiau canlynol: -

 

·         Effaith a phroblemau COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ar blant a phobl ifanc – cynnydd mewn anghydraddoldebau

·         Gwersi a ddysgwyd drwy'r pandemig gan gynnwys enghreifftiau o arfer ymgysylltu yn ystod y cyfyngiadau symud

·         Enghreifftiau o arfer ymgysylltu yn ystod COVID-19

·         Weithiau gallai cyfarfodydd ar-lein gynnig mwy o gyfle i gynyddu cysylltiad

·         Ailstrwythuro Tîm Cyfnodau Bywyd y cyngor

·         Diwygiad arfaethedig i'r Cynllun Hawliau Plant – datblygu 'cynllun ar dudalen' – roedd y ddogfen hygyrch hon wedi'i chasglu gan y Comisiynydd Plant fel enghraifft o arfer da i'w rhannu ledled Cymru

·         Ailstrwythuro ac Ailfodelu gwaith Hawliau Plant

·         Bylchau ac Argymhellion ar gyfer adferiad o Covid-19

·         Sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud heb fod y pwyntiau mynediad arferol fel yr ysgol a gwasanaethau eraill ar gael  

·         Roedd pobl ifanc wedi bod yn ymwneud â phenodiadau'r Cyfarwyddwr Addysg a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·                Diogelu hawliau

·                Ystyried pleidleisiau yn 16 oed – sut i gefnogi llythrennedd gwleidyddol plant a phobl ifanc i'w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus wrth bleidleisio

·                Sefyllfa ysgolion nad oeddent yn ymwneud â pharchu hawliau – roedd y ffordd y gweithredwyd parchu hawliau wedi newid ac yn cael ei chyflwyno i'r cwricwlwm newydd

·                Posibilrwydd o gael hyrwyddwr CCUHP ym mhob ysgol 

 

Diolchodd y Comisiynydd Arweiniol Strategol i Aelodau'r Cabinet a'r Cynghorwyr am gefnogi a datblygu'r gwaith hwn, yn ogystal â'r swyddogion.

 

Diolchodd y Cadeirydd ac Aelod y Cabinet i'r Cynghorydd Sam Pritchard, cyn-aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant.

 

Diolchwyd Aelod y Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.  

51.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Cyd. (Y Cynghorwyr Paxton Hood-Williams a Susan Jones, Cynullwyr) pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Paxton Hood-Williams a Susan Jones, Cynullwyr, Adroddiad Cynnydd Panel Craffu Perfformiad ar y Cyd y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yn dilyn yr adroddiad ysgrifenedig, tynnwyd sylw'n benodol at y ffaith bod Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion a Phanel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd wedi dod at ei gilydd i ffurfio Panel Craffu Perfformiad ar y Cyd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y pandemig er mwyn cynnal craffu, ond heb roi gormod o bwysau ar swyddogion wrth eu bod yn ymdrin â'r pandemig.

 

Roedd y prif bryderon yn ymwneud â gofalwyr ac iechyd meddwl.

 

Roedd y paneli bellach wedi rhannu eto yn eu paneli ar wahân a byddai cyfarfodydd yn y dyfodol yn edrych ar gyllideb a chydweithio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Diolchodd y cynullwyr a'r Cadeirydd i'r staff am eu holl waith yn ystod y pandemig.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

52.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Ni chafwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

53.

Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2020/22. pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22.

 

Trefnwyd Pwyllgor nesaf y Rhaglen Graffu ar 13 Ebrill 2021. Y brif eitem a drefnwyd oedd y Strategaeth Digartrefedd. 

 

Nododd y Cadeirydd fod COVID-19 wedi'i drefnu bob deufis ar gynllun gwaith y Pwyllgor, ac awgrymwyd, o ystyried yr amser y gallai adferiad gymryd, y gallai diweddariadau bob deufis fod yn rhy aml ac y gellid trefnu eitemau eraill yn y cynllun. Byddai'r Arweinydd a Chadeirydd y Tîm Craffu yn trafod diweddaru'r cynllun gwaith ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

54.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

55.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfod nesaf y paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 235 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 235 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 595 KB