Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y
Cynghorwyr J W Jones ac M H Jones gysylltiad personol â Chofnod 128
"Craffu cyn Penderfynu: Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol a Rheol 7 y Weithdrefn
Ariannol. Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn
Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae
Abertawe" gan fod eu merch yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae
Abertawe. Datganodd y Cynghorydd J Hale gysylltiad personol â Chofnod 128, "Craffu cyn Penderfynu: Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol a Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol. Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe" fel gweithiwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau yn ysgrifenedig erbyn 10am ar ddiwrnod y cyfarfod a rhaid iddynt ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau mewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Eitem Frys. Dywed y Cadeirydd, yn unol â
pharagraff 100B (4) (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei / eu fod yn meddwl y
dylid ystyried yr adroddiad "Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol ac FPR7 -
Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty
Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe"
yn y cyfarfod hwn fel mater o frys. Rhesymau dros y brys Adeiladu ysbyty ar frys yn sgîl Covid-19 i'w drosglwyddo i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Ebrill 2020. Cofnodion: Amlinellodd Arweinydd
y Cyngor y rheswm dros y mater brys, yn unol â pharagraff 100B (4) (b) Deddf
Llywodraeth Leol 1972, sef ei bod yn meddwl y dylid ystyried yr adroddiad
"Rheol 19.1c a Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Awdurdodiad i Newid ac
Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o
Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe" yn y cyfarfod hwn fel
mater o frys. Y rheswm dros y mater brys yw bod angen adeiladu ysbyty ar frys yn sgîl Covid-19 i'w drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Ebrill 2020. |
|
a) Rôl
y pwyllgor b) Ystyried
Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau c) Barn
y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth, y Prif Weithredwr,
y Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid yn bresennol wrth i'r pwyllgor
ystyried adroddiad y Cabinet ar "Reol 19.1c y Weithdrefn Ariannol a Rheol
7 y Weithdrefn Ariannol - Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian
Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe." Dechreuodd y Prif
Weithredwr drwy ddatgan bod y cyfnod hwn yn ddiddorol ac yn heriol i bob un
ohonom, gan dalu teyrnged i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'i dîm am yr holl waith a
wnaed mewn cyfnod byr i baratoi a datblygu'r ysbyty cynnydd sydyn hwn mewn
ymateb i bandemig Covid-19. Amlinellodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd benawdau'r adroddiad, gan gynnwys y broses nodi safle, gan
roi sylw penodol i bwyntiau 2.1, 2.7 a 2.8 yr adroddiad. Yn ychwanegol,
diolchodd yr Arweinydd i'r holl dimau a oedd wedi gweithio oriau hir iawn dros
y tair wythnos ddiwethaf i ddatblygu'r ysbyty cynnydd i'w gam presennol, gydag
oddeutu 400 o welyau wedi'u cwblhau’n barod.
Rhannwyd lluniau o'r prosiect â'r pwyllgor ac roedd arweinwyr grŵp
wedi ymweld â'r safle y bore hwnnw. Aeth ymlaen i ddweud bod "ymdrech adeg
y rhyfel" wedi cael ei ddyblygu, a nododd y dylai pob un ohonom fod yn
falch o'r holl staff a chontractwyr a oedd yn rhan o'r gwaith. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Talodd
yr holl arweinwyr grŵp a oedd wedi bod ar ymweliadau safle deyrnged i'r
ymdrech enfawr a wnaed gan bawb a oedd yn rhan o'r gwaith, yn ogystal â
chyflymder ac ansawdd y gwaith i ddatblygu'r cynllun hyd yn hyn; ·
Cydnabuwyd
y cafwyd rhai problemau bach gyda thraffig i'r safle'n achosi aflonyddwch i
breswylwyr lleol, fodd bynnag roedd arwyddion ychwanegol wedi'u rhoi ar waith
er mwyn i lorïau a cherbydau trwm eraill ddilyn y llwybrau dynodedig i'r safle
ac i ffwrdd ohono er mwyn datrys y sefyllfa; ·
Cafwyd
pryderon ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Llywodraeth Cymru'n
ad-dalu costau i'r cyngor, a cheisiodd y pwyllgor sicrhad ynghylch y defnydd o
arian cyhoeddus; ·
Beth
fyddai'r sefyllfa pe bai'r pandemig yn parhau'n hirach na'r cyfnod prydlesu 12
mis; ·
Dylid
cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
ynghylch defnydd y safle yn y dyfodol ar ddiwedd y pandemig, er mwyn cefnogi
unrhyw weithrediadau a ganslwyd ac i helpu gydag unrhyw waith sydd heb ei wneud
yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ·
A
oedd digon o staff, gan gynnwys meddygon, meddygon ymgynghorol ac arbenigwyr ar
gael i gefnogi'r ysbyty cynnydd. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddod i'r cyfarfod ac am
gyflwyno'r adroddiad. Diolchoddhefyd i bawb dan
sylw am eu gwaith caled ar ran Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 27 Ebrill 2020 cyn iddo benderfynu ar adroddiad y Cabinet. |
|