Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Nodyn: Arbennig 

Eitemau
Rhif Eitem

82.

Cydymdeimladau.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd â thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Sybil Crouch.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

83.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd D W Helliwell - Cofnod rhif 86 – Cynghorydd ar gyfer Ward Sgeti – Personol

 

Y Cynghorydd P K Jones - Cofnod Rhif 86 - Cynghorydd ar gyfer Ward Sgeti – Personol

 

Y Cynghorydd W G Thomas –  Cofnod Rhif 86 -  Aelod o Gyngor Cymuned y Mwmbwls a Chynghorydd ar gyfer Ward Newton – Personol

 

Y Cynghorydd L Tyler-Lloyd – Cofnod Rhif 86 -  Aelod o Gyngor Cymuned y Mwmbwls a Chynghorydd ar gyfer Ward Mayals – Personol

84.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

85.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Cafwyd nifer o gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd a oedd yn canolbwyntio ar:

 

·            Elw ariannol tymor hir a mwynhau ardaloedd

·            Cyrtiau tennis - prydles hir yn hytrach na rhydd-ddaliad i gadw'r tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol; diddordeb arall a dderbyniwyd ar gyfer datblygiad y tir wrth safle'r ramp sglefrfyrddio

·            Pwysigrwydd annog defnydd mwy gweithredol o'r prom, a hynny drwy'r flwyddyn, gyda'r Ddeddf Llesiant, ac ystyried bod 'Cymru Iachach' yn flaenoriaeth uchel.

·            Cefnogaeth ar gyfer datblygiad y parc sglefrfyrddio a diffyg cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn ardal y Mwmbwls i bobl ifanc.

·            Daeth y syniad am ddatblygu'r Parc Sglefrfyrddio o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn dilyn cwynion gan breswylwyr am bobl ifanc yn achosi niwsans yn yr ardal gan and oes ganddynt unrhyw le i fynd

·            Rhoddir pwysau i wrthwynebiadau

·            Cynllun ar gyfer Gorchmynion Cyfyngiadau Traffig (TRO) yng nghyffiniau'r parc sglefrfyrddio

·            Cynnydd o ran y cais cynllunio gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls ar gyfer Parc Sglefrfyrddio newydd

·            Meini prawf ar gyfer asesu addasrwydd y tir a safle'r Ramp Sglefrfyrddio yn erbyn safleoedd posib eraill ar gyfer y parc sglefrfyrddio newydd

·            Gofyniad am doiledau cyhoeddus, siopau a pharcio wrth y parc sglefrfyrddio

·            Y lleoliad cywir am barc sglefrfyrddio o ystyried y golygfeydd eiconig, dim isadeiledd ategol, parcio, agosrwydd at ffordd brysur a'r gallu i ymdopi â digwyddiadau mawr

·            Jams sglefrfyrddio a gynhaliwyd yn flaenorol ar y safle presennol

 

Anerchwyd y pwyllgor hefyd gan gynrychiolydd Grŵp Blaendraeth Bae Abertawe a fynegodd ei farn

 

Ymatebodd Aelodau'r Cabinet a Swyddogion yn briodol i'r cwestiynau, gan ddweud y byddai'r holl sylwadau/farn yn cael eu hystyried. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cleientiaid y byddai Adroddiad y Cabinet yn symud datblygiadau posib ymlaen i'r cam nesaf, ac i beidio â gwneud penderfyniadau manwl am unrhyw safle eto. O ran y parc sglefrfyrddio, nid oedd penderfyniad ynghylch a ddylid sefydlu parc sglefrfyrddio, ond dylid ymchwilio ymhellach iddo/arfer diwydrwydd dyladwy i sicrhau ei fod yn y lleoliad cywir. 

86.

Craffu Cyn Penderfynu: Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o'r Ymgynghoriad Cyhoeddus a'r Ymatebion Caffael a'r Camau Nesaf. pdf eicon PDF 238 KB

a)       Rôl y pwyllgor

b)       Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

c)       Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo a'r Rheolwr Gwasanaethau Cleientiaid yn bresennol wrth i'r pwyllgor ystyried adroddiad y cabinet ar y 'Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o Ymatebion Ymgynghoriad Cyhoeddus a Chaffael a'r Camau Nesaf’

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cleientiaid yr adroddiad i'r pwyllgor. Rhoddodd grynodeb byr o'r pum safle a ystyrir ar gyfer datblygiad posib a'r canfyddiadau ar gyfer pob safle yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a'r ymatebion caffael.

 

Mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, roedd y pwyllgor wedi derbyn dolen i e-ddeiseb a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus, ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cynghorydd Child a'r Cynghorydd Thomas yn ogystal ag ymateb a oedd yn fasnachol sensitif a dderbyniwyd o'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol. 

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Lynda-Tyler Lloyd i fynegi ei barn fel aelod lleol am leoliad y parc sglefrfyrddio arfaethedig gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls a'r angen am adolygiad llawn o'i addasrwydd a'r angen i ystyried safleoedd amgen. 

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·            Y broses o ystyried gwrthwynebiadau a phwysoli'r gwrthwynebiadau hynny

·            Ystyried y cynigion a dderbyniwyd o'r cam nesaf yn llawn

·            Dylai unrhyw ddatblygiad ar dir ger Lido Blackpill ystyried bod traeth Blackpill wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. 

·            Yr angen i gysylltu/gydlynu datblygiadau â chynlluniau strategol twristiaeth a datblygu

·            Ystyriaeth o'r holl ffactorau sef amgylcheddol, diwylliannol etc. yn ogystal ag ariannol

·            Cynnal a chadw safleoedd y cyngor/neu berchnogaeth gymunedol ohonynt/dim colli mynediad a chyfleusterau cyhoeddus am ddim

·            Posibilrwydd cynnal a chadw pedwar cwrt tennis yn Langland a'r cyfleusterau sy'n ofynnol h.y. toiledau cyhoeddus

·            Dadl ynghylch y bwriad i ddatblygu ramp sglefrfyrddio mawr

·            Craffu ymhellach ar y datblygiad glan-môr

 

Diolchwyd Aelod y Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 9 Ionawr 2020 cyn iddynt benderfynu ar adroddiad y cabinet.

87.

Gwahardd y Cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor eithrio'r cyhoedd o'r cyfarfod wrth iddynt ystyried adroddiad ychwanegol ar 'Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o Ymatebion Ymgynghoriad Cyhoeddus a Chaffael a'r Camau Nesaf' ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraffau eithrio 13 ac 14 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn  Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

88.

Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o Ymatebion Ymgynghoriad Cyhoeddus a Chaffael a'r Camau Nesaf.

Cofnodion:

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad ychwanegol wrth ystyried adroddiad y cabinet yn llawn.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 9 Ionawr 2020 cyn iddynt benderfynu ar adroddiad y cabinet.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 229 KB