Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd T J Hennegan - Cofnod Rhif 81 - Tenant y Cyngor - Personol |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu Cyn Penderfynu: Canfyddiadau'r Adolygiad Comisiynu Tai. PDF 240 KB a)
Rôl y pwyllgor b)
Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau c)
Barn y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau/Dirprwy Arweinydd ar y
Cyd Dros Dro, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd, Rheolwr Landlordiaid a'r
Gwasanaethau Tai Cymunedol a Rheolwr Cwsmeriaid a Datblygu'r Gwasanaethau Tai
Strategol yn bresennol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor o Ganfyddiadau'r
Adolygiad Comisiynu Tai. Rhoddwyd
anerchiad llafar gan y Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd mewn perthynas â'r
adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd a oedd yn tynnu sylw at y canlynol: - ·
Canfyddiadau'r
Adolygiad ·
Prif
nodau’r adolygiad ·
Yr
angen i foderneiddio'r Gwasanaeth a newid i'r ffyrdd newydd y mae'r cwsmeriaid
yn eu defnyddio i gael mynediad at y gwasanaeth ·
Gwella'r
broses ymgeisio a lleihau rhestrau aros ·
Model
Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol ·
Lefelau
boddhad cwsmeriaid da y gellid adeiladu arnynt ·
Diben
y Gwasanaeth ·
Gwasanaeth
Atal Digartrefedd ·
Blaenoriaethau
Allweddol ·
Cynnal
tenantiaethau a sicrhau bod tenantiaid yn barod ar gyfer tenantiaeth ·
Datgarboneiddio ·
Cynyddu
nifer y tai fforddiadwy ·
Gwella
Technoleg Gwybodaeth ·
Creu
incwm ·
Mwy o
bresenoldeb ar Stadau'r cyngor ·
Cynyddu
adnoddau ar gyfer y tîm rhenti ·
Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol a datblygu ap sŵn (The Noise App) ·
Eiddo
a mannau gwag ·
Costau
rheoli tai ·
Ymgynghori
ynghylch tenantiaethau a chynnwys rhanddeiliaid -
agweddau allweddol wrth symud ymlaen Roedd cwestiynau a
thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Tai
lloches - darparu wardeniaid ·
Lleihau
nifer y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol - yr effaith a darpariaethau amgen trwy
dechnoleg, sesiynau tai lleol a swyddogion cymdogaethau ·
Pryder
ynghylch goblygiadau adnoddau posib os bydd mwy o swyddogion yn ymweld â
chartrefi unigol wrth leihau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol ·
Dyrannu/dadansoddi'r
arian a dderbynnir drwy rent ·
Codi
tâl ar gyfer pecynnau dodrefn - adfer costau ar gyfer danfoniadau
a gollwyd ·
Strwythur
y tîm rhenti/dyrannu cyllid ychwanegol ·
Cyngor
a hyfforddiant ar y system budd-daliadau ·
Dadansoddi
cwynion a'u gosod fesul pwnc er mwyn nodi themâu rheolaidd ·
Problemau
ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r effaith ar yr ardal gyfagos/tenantiaid ·
Newidiadau
arfaethedig i'r Gwasanaeth Trin a Thrwsio ·
Amserlen
ar gyfer y newidiadau yn enwedig ar gyfer diweddariadau TG a'r ap sŵn (The
Noise App) Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid
Gwasanaethau/Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Dros Dro a'r Swyddogion a dywedodd fod
wedi ystyried nifer o argymhellion o gyfarfod blaenorol y pwyllgor ar 1 Awst,
wrth iddo ystyried y cynnydd o ran yr Adolygiad Comisiynu a'r canfyddiadau sy'n
dod i'r amlwg. Roedd y pwyllgor
wedi croesawu'r llwybr arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Tai, ond codwyd nifer
o bwyntiau y dylid cael eu hystyried gan y Cabinet, ynghylch gwelededd cynllun
rhoi ar waith i ddatblygu cynigion, cyflwyno technoleg newydd, a chysylltiad
rhwng adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a'r gwelliannau arfaethedig. Nododd y pwyllgor
fwriad Aelod y Cabinet i ymgymryd ag ymgynghoriad ffurfiol â thenantiaid ym mis
Ionawr 2020 ynghylch y newid arfaethedig i fodel Gwasanaeth Swyddfeydd Tai
Rhanbarthol y dyfodol, ac i roi gwybod am unrhyw ganfyddiadau o'r ymgynghoriad
i'r Cabinet ym mis Ebrill 2020. Eglurodd Aelod y Cabinet y byddai'r Swyddfeydd
Tai Rhanbarthol a nodwyd yn cau pan osodwyd y ffyrdd newydd o weithio a
ddisgrifiwyd yn adroddiad ar waith yn unig. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n
ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei
gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Tachwedd cyn iddynt benderfynu ar adroddiad y
cabinet. |
|