Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

66.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

67.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

68.

Cofnodion. pdf eicon PDF 256 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

69.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

70.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant (y Cynghorwyr Elliott King a Sam Pritchard) pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad ar y prif benawdau ar gyfer portffolio'r Gwasanaethau Plant.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelodau Cabinet, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Comisiynydd Strategol Arweiniol yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

Dechrau’n Deg

·            Mesur perfformiad, llwyddiant, canlyniadau a chymharu ag eraill

·            Adolygiadau Comisiynu sydd ar ddod - posibilrwydd yr ystyrir gweithgareddau Dechrau'n Deg a'r gallu i gyflwyno agweddau ar y rhaglen mewn ardaloedd eraill yn Abertawe e.e. o ran cefnogaeth magu plant

·            Cydweithio ar draws y cyngor - cysylltiadau ag addysg a throsglwyddo i'r cyfnod sylfaen, a'r ddarpariaeth tai newydd ym Mhenderi a'u cynnwys yn Dechrau'n Deg

·            Mae'r cynnig ar gael i blant nad ydynt efallai'n byw yn ardaloedd codau post Dechrau'n Deg

 

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)

·            Hybu a datblygu parchu hawliau ac eco-bwyllgorau/eco-ymwybyddiaeth mewn ysgolion

·            Cysylltiadau â hawliau byd-eang, llais y disgybl a'r 'Sgyrsiau Mawr' a drefnir gan y cyngor

·            Effeithiau ar ymddygiad disgyblion - cadarnhaol a negyddol

 

Tlodi Plant

·            Effaith Credyd Cynhwysol - hyrwyddo hyn a rhoi cyngor

·            Defnyddio Cronfa Waddol Cymunedau'n Gyntaf i gefnogi teuluoedd a'u cynghori

·            Swyddogion Cynnwys - darparu cyngor ar gynhwysiad ariannol

·            Dewisiadau gwario

·            Isafswm Cyflog Cenedlaethol - cyfradd briodol

 

Diogelu

·            Sylw yn y wasg yn ddiweddar i broblemau mewn cartrefi gofal yn y sector preifat

·            Arolygiaeth Gofal Cymru - arolygiadau ac arweiniad

·            Lleoli Plant - ystyried yr adroddiad arolygu, adolygiadau rheolaidd a chynnig eiriolwr annibynnol

·            Ariannu lleoliadau ac addysg yn y sir

·            Darpariaeth addysg fewnol cartrefi gofal

 

Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)

·            Cynnydd diweddar yn nifer y bobl ifanc sy'n NEET

·            Olrhain pobl ifanc sy'n NEET â'r cydberthyniad â Dechrau'n Deg

·            Adolygiadau Comisiynu sydd ar ddod a fyddai'n cynnwys ffocws ar bobl ifanc NEET

·            Gwaith parhaus ar y cyfleoedd sydd ar gael i'r sawl sy'n gadael gofal

·            Anawsterau mewn perthynas â gwybodaeth am berfformiad a'i chymharu ag eraill

 

Cyfleoedd Chwarae

·            Cynnig y Tîm Chwarae

·            Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac argaeledd yr adroddiad diweddaraf

·            Ardaloedd lle nad oedd ardal chwarae/cynnig chwarae

·            Darpariaeth therapi chwarae yn Abertawe

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

·            Monitro gwella'r gwasanaeth

·            Problemau parhaus o ran cael mynediad at y gwasanaeth - gweithio tuag at fodel un drws ffrynt

 

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

·            Cynnydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ers iddo ddod yn ôl yn fewnol

·            Trawsnewid y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

·            Cyfleoedd i integreiddio â gwasanaethau eraill

·            Cyfradd aildroseddu/cynnig sydd ar gael i'r sawl sy'n aildroseddu

 

Cyfrifoldebau portffolio 

·            Eglurder ar gwmpas ac ystyr y pwnc portffolio 'Cyfleoedd i Bobl Ifanc'

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. 

71.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Cynullydd) pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Cynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y diweddaraf am waith y panel hyd yn hyn.

 

Mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, tynnodd sylw at y gwaith cyfredol o ran monitro CAMHS yn ogystal â phryder ynghylch Asesiadau Rheini sy'n Ofalwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Ychwanegodd fod y panel wedi siarad yn uniongyrchol â rheini sy'n ofalwyr am eu profiadau. Rhoddodd y Cynullydd eglurhad ar y matrics Signs of Safety a'r Arolwg Bright Spots a drafodwyd yng nghyfarfodydd blaenorol y  panel.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

72.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth y Paneli a’r Gweithgorau Craffu. Mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, hysbyswyd y pwyllgor gan  Arweinydd y Tîm Craffu fod Katrina Guntrip wedi camu i lawr o'i rôl fel cyfetholwr ar Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion.   

 

Penderfynwyd tynnu'r Cynghorydd Wendy Fitzgerald o'r Panel Ymchwiliad Caffael 

73.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am 'Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol'.

 

Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr Adroddiadau Craffu drafft a'u cyflwyno i'r cyngor.

74.

Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2019/20. pdf eicon PDF 261 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)          Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20.

 

Amlygodd bod cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a drefnwyd ar gyfer 9 Rhagfyr 2019 wedi'i ganslo ac y byddai'r sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda yn cael ei aildrefnu.

 

Trafododd y pwyllgor bosibilrwydd cynnal sesiwn graffu cyn penderfynu ar yr adroddiad cabinet sydd ar ddod ar Safleoedd Blaendraeth a restrir ym Mlaengynllun y Cabinet. 

 

Penderfynwyd:   -

1)    y dylid nodi'r adroddiad;

2)    y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystyried opsiynau mewn perthynas â chraffu ar yr adroddiad Cabinet ar y safleoedd blaendraeth.  

75.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth.

 

Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu.

76.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

77.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 177 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 262 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 503 KB